skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 10 - Rheoliadau Adeiladu 2000 - Rheoleiddio Gwaith Adeiladu

 

Dyma un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.

Rheoliadau Adeiladu 2000 - Rheoleiddio Gwaith Adeiladu

Cyflwynodd y Rheoliadau Adeiladu cyfredol, a ddaeth i rym ar 1af Hydref 1994, ddeddfwriaeth newydd o ran rheoleiddio gwaith adeiladu.

Pan gaiff eiddo ei werthu, weithiau fe ddarganfyddir bod gwaith wedi ei gyflawni ar yr eiddo y byddai angen i hyn gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Ar adegau fe sylweddolir hefyd na cheisiwyd caniatâd y Rheoliadau Adeiladu ar y pryd.

Mae gweithdrefn yn awr wedi ei chyflwyno i'r rheoliadau lle gall perchennog eiddo wneud cais wrtholygol i'r Awdurdod Lleol i gael 'Tystysgrif Rheoleiddio'.

Gellir gwneud cais i reoleiddio unrhyw waith adeiladu a gwblhawyd ers 11eg Tachwedd 1985. Codir tâl am y gwasanaeth hwn.

Bydd yr Awdurdod Lleol yn cytuno i archwilio'r gwaith ar y safle er mwyn canfod a oedd y gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu oedd mewn grym ar adeg yr adeiladu.

Ar ôl ymweld â'r safle mae yna dri phenderfyniad posibl y gellir eu rhoi, sef:-

  • Cymeradwyo'r gwaith a chyflwyno tystysgrif rheoleiddio os caiff ei hystyried bod y gwaith yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu a oedd mewn grym ar adeg yr adeiladu.
  • Cyflwyno rhestr o bwyntiau y mae angen eu hystyried er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau. Gallai hyn gynnwys cais i ddod â darnau arbennig o adeiladwaith i'r golwg.
    (Os bydd perchennog yr eiddo am gywiro a/neu ddod â darnau o adeiladwaith i'r golwg, caiff archwiliadau pellach eu cynnal. Yna gellir cyflwyno tystysgrif rheoleiddio os ystyrir bod y gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau a oedd mewn grym ar adeg yr adeiladu).
  • Gwrthod y gwaith a chynghori nad yw'r gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau.

Mae'n bwysig bod unrhyw waith adeiladu a gyflawnir yn cael ei archwilio am gydymffurfiad â'r Rheoliadau Adeiladu, er mwyn sicrhau diogelwch aelodau'r cyhoedd.

Bydd yna bob amser achosion lle gaiff gwaith ei gyflawni heb i'r Awdurdod Lleol wybod ymlaen llaw, ac mae'r math newydd hwn o gais yn galluogi i waith anawdurdodedig a gwblhawyd gael ei reoleiddio. Mae'r weithdrefn newydd hon yn cynnig diogelwch pwysig i berchennog eiddo ac unrhyw brynwr posibl.

Rhestr Wirio cyn cyflwyno cais am Reoleiddio

A ydych yn siwr:-

  • Fod y gwaith wedi dechrau ar neu ar ôl 11 Tachwedd 1985.
  • Eich bod wedi cwblhau a llofnodi'r 'Ffurflen Gais am Tystysgrif Reoleiddio' ac wedi amgáu'r taliad cywir. (Os bydd angen cyngor arnoch o ran y taliad, ffoniwch 01978 292050.)
  • Eich bod wedi darparu manylion a/neu gynlluniau'r gwaith rydych am ei reoleiddio, lle bo hynny'n ymarferol.
  • Bydd angen i chi wirio a gafwyd Caniatâd Cynllunio sy'n wahanol i'r system Rheoleiddio hwn. Ffoniwch 01978 292017.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL.

Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502

Mabwysiadwyd Hydref 2002.


Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:

Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 540Kb 


Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu

Mynegai Rheoli Adeiladu

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint