Dyma
un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio
gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.
Cyn i unrhyw waith dymchwel cychwynnol ddigwydd, rhaid dilyn a chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys:
Rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu dymchwel adeilad hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig. Yn gyfreithiol, ni all unrhyw un gychwyn ar waith dymchwel hyd nes i'r awdurdod lleol gael gwybod. Rhaid i'r hysbysiad nodi'r adeilad i'w ddymchwel a'r gwaith a fwriedir ond nid oes gofyn gosod y manylion hyn allan ar ffurf arbennig. Gellid cynnwys disgrifiad o'r gwaith dymchwel arfaethedig ar ffurflen gais rheoli adeiladu neu hysbysiad adeiladu.Gallai methiant i gydnabod hysbysiad priodol yn yr amgylchiadau hyn rwystro'r awdurdod lleol rhag cyhoeddi 'hysbysiad dymchwel'. Rhaid i'r unigolyn sy'n hysbysu'r awdurdod lleol anfon copi o'r hysbysiad at:
a) ddeiliad unrhyw adeilad ger yr adeilad sy'n cael ei ddymchwel;
b) unrhyw gyflenwr nwy cyhoeddus yn yr ardal lle bydd y gwaith dymchwel yn digwydd;
c) cyflenwr trydan cyheoddus yr ardal lle bydd y gwaith dymchwel yn digwydd;
ch) unrhyw unigolyn arall a awdurdodir gan drwydded i gyflenwi trydan.
Gall gwaith dymchwel ddechrau unwaith i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad dymchwel dan Adran 81 neu, os yw'r awdurdod wedi methu â chyhoeddi hysbysiad dymchwel, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad o fwriad. Lle mae gwaith dymchwel wedi dechrau cyn hysbysiad ymlaen llaw i'r awdurdod lleol, ystyrir hyn yn drosedd a gallai arwain at gollfarn yn y llys ynadon. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal yr awdurdod rhag cyhoeddi'r hysbysiad dymchwel a chychwyn ar achos am ddirwy.
Rhaid i'r hysbysiad a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol gael ei gyhoeddi â'r 'cyfnod perthnasol'. Lle mae unigolyn sy'n bwriadu dymchwel wedi hysbysu'r awdurdod lleol dan Adran 80, y cyfnod yw 6 wythnos.
Rhaid i 'berchennog' neu 'breswylydd' eiddo cyfagos gael copi o'r hysbysiad Adran 81. Mae'n bwysig rhoi hwn i'r unigolion perthnasol er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o'r sefyllfa.
Os bydd gwasanaethau unrhyw ymgymerwr statudol yn cael eu datgysylltu oherwydd y gwaith dymchwel, rhaid cyflwyno copi o'r hysbysiad i'r ymgymerwr statudol h.y. mewn perthynas â'r datgysylltiad os yw'n:
Bydd yr hysbysiad dymchwel a gyhoeddir dan Adran 81 o'r Ddeddf Adeiladu'n gofyn am yr holl waith canlynol neu ran ohono:
a) Gwarchod unrhyw adeilad cyfagos i'r adeilad y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo.
b) Gwarchod unrhyw wynebau adeilad cyfagos rhag y tywydd.
c) Trwsio a gwella unrhyw ddifrod i adeilad cyfagos a achosir gan y gwaith dymchwel neu gan esgeulustod neu hepgoriad unrhyw un sy'n rhan ohono.
ch) Symud defnydd neu sbwriel sy'n deillio o ddymchwel a chlirio'r safle
d) Datgysylltu a selio unrhyw ffos neu ddraen mewn neu dan yr adeilad, yn unol â gofynion rhesymol yr awdurdodf)
dd) Symud ffos neu ddraen a selio unrhyw ffos neu ddraen y mae'r ffos neu'r ddraen i'w symud yn gysylltiedig â nhw
e) Gwella wyneb y tir a symudwyd yn sgil unrhyw beth a wnaed dan baragraffau d) neu dd) uchod, er boddhad yr awdurdod lleol
f) Gwneud trefniadau gyda'r ymgymerwyr statudol perthnasol i ddatgysylltu'r cyflenwad nwy, trydan a dwr
ff) Gwneud trefniadau mewn perthynas â llosgi strwythurau neu ddefnyddiau ar y safle, yn ôl y gofyn:
- os yw'r adeilad yn ffurfio rhan o eiddo arbennig, gan y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a'r Awdurdod Tân, ac
- ym mhob achos arall, gan yr Awdurdod Tân, a
g) Chymryd camau mewn perthynas â'r amodau dymchwel a chyflwr y safle wedi'r dymchwel, yn unol â gofynion rhesymol yr awdurdod lleol er mwyn diogelu'r cyhoedd a chadw amwynderau cyhoeddus yn weithredol.
Mae'n bosibl y bydd gwaith dymchwel yn mynnu caniatâd dan Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd). Bydd mathau gwahanol o waith dymchwel e.e. cyntedd bach a storfa fawr, yn destun rheolau a gweithdrefnau gwahanol.
Mae'r system gynllunio'n chwarae rôl ragweithiol mewn adeiladu cynaliadwy, drwy flaenoriaethu'r angen i leihau gwastraff adeiladu a dymchwel a mwyhau'r potensial ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio defnyddiau sy'n rhan o unrhyw gynlluniau dymchwel ac ailddatblygu. I gefnogi unrhyw geisiadau sy'n cynnwys dymchwel, bydd gofyn cyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth a allai gynnwys arolygon strwythurol a datganiadau am y potensial i ailgylchu defnyddiau. Nid yw cynnig hysbysiad Deddf Adeiladu'n ddigon i gydymffurfio â gweithdrefnau'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.
Dylech wirio hefyd a oes angen unrhyw ganiatâd arbennig arall e.e. adeiladau rhestredig, trwydded rhywogaeth bywyd gwyllt.
Gellir cael gwybodaeth bellach gan yr Adran Gynllunio a Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 22: Adeiladu Cynaliadwy.
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR.
Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Medi 2004.
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 228Kb ![]()
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu