skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 3 - Gwneud Cais am Gymeradwyaeth

 

Dyma un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.

Gwneud Cais am Gymeradwyaeth

Arweiniad i'r Drefn Rhybudd am Adeiladu

Dyma'r symlaf o ddau ddull o rybuddio. Ni allwch ddefnyddio'r dull yma ar gyfer siopau, gwestai, tai gwely a brecwast, ffatrïoedd, safleoedd rheilffyrdd neu swyddfeydd. Os byddwch yn defnyddio'r dull yma, dylech ddilyn y pump cam yma

  1. Cwblhewch y Ffurflen Cais am Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu, ticiwch y bocs i Rybudd am Adeiladu. Efallai y bydd angen cynlluniau eich cynigiad neu gyfrifiadau manwl yn ddiweddarach.
  2. Penderfynwch ar ba ddyddiad y byddwch yn cychwyn ar y gwaith a gadewch i ni wybod.
  3. Os bydd unrhyw broblemau'n codi, neu os bydd gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni i gael trafodaeth anffurfiol am eich cynigion drwy ffonio 01978 292050.
  4. Darllenwch drwy'r nodiadau arweiniol amgaeëdig am ffïoedd i weithio allan faint fydd cost y rhybudd am adeiladu.
    Os byddwch yn gwneud y gwaith yma gyda chymorth Grant Adnewyddu Tai, efallai y bydd y Ffi Rhybuddio am Adeiladu wedi ei thynnu o'r grant cyn i chi ei dderbyn.
  5. Anfonwch eich cais at: Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Yr Adran Rheoliadau Adeiladu, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL

RHESTR WIRIO - YDYCH CHI WEDI?

Arweiniad i'r Drefn Cynlluniau Llawn

Gallwch ddefnyddio'r math yma o rybudd ar gyfer pob math o adeilad. Os byddwch yn defnyddio'r dull yma, dylech ddilyn y pump cam syml yma.

  1. Llunio cynlluniau i raddfa. Cynnwys manylebau llawn. Efallai y byddwch eisiau cyflogi pensaer neu dirfesurydd.
  2. Llenwch y Ffurflen Cais am Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu, ticiwch y bocs i Gynlluniau Llawn.
  3. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, neu os bydd unrhyw broblemau'n codi, cysylltwch â ni i gael trafodaeth anffurfiol am eich cynigion ar 01978 292050.
  4. Darllenwch y nodiadau Arweiniad i Ffïoedd Cynllunio i weithio allan faint fydd cost y cynllun a chost yr archwiliad. Os byddwch yn gwneud y gwaith yma gyda chymorth Grant Adnewyddu Tai, efallai y bydd y Ffi Rhybuddio am Adeiladu wedi ei thynnu o'r grant cyn i chi ei dderbyn.
  5. Anfonwch eich cais at:- Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Yr Adran Rheoliadau Adeiladu, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL.

RHESTR WIRIO - YDYCH CHI WEDI?

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL.

Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502

Mabwysiadwyd Hydref 2002.


Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:

Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 493Kb 


Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu

Ffurflenni Cais

Mynegai Rheoli Adeiladu

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint