|
Dyma
un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio
gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.
Rhoi Ffenestri/Drysau Newydd Mewn Anheddau Sy'n Bodoli'n Barod
Doeddwn i ddim yn gwybod bod rhaid cael caniatâd Rheoliadau
Adeiladu i roi ffenestri newydd mewn adeilad?
Am flynyddoedd lawer, nid oedd raid gwneud cais am ganiatâd Rheoliadau
Adeiladu i roi ffenestri newydd mewn anheddau oedd yn bodoli'n barod heblaw
bod angen addasu strwythur yr adeilad. Fel arfer, doedd hyn ond yn digwydd
os oedd raid gwneud twll y ffenestr yn lletach (oedd yn golygu bod rhaid
gosod lintel gynnal newydd), neu lle'r oedd y ffenestri yn rhan o gilfach
strwythurol. Fodd bynnag, ers Ebrill 1af 2002, mae'n rhaid i bob perchennog
sy'n rhoi ffenestr a drysau newydd ar adeilad geisio am ganiatâd,
a bydd raid i'r ffenestri newydd eu hunain ateb gofynion y Rheoliadau
Adeiladu yn llawn. Felly, hyd yn oed os nad ydych chi'n gosod mwy nag
un ffenestr newydd a honno wedi ei phrynu o'r ganolfan DIY leol, bydd
raid i chi ddilyn y canllawiau nesaf yma.
Mae'n bwysig bod perchnogion tai'n sicrhau'r caniatâd angenrheidiol
oherwydd bydd cyfreithwyr yn gwneud gwiriadau penodol i sicrhau ei fod
wedi gwneud hyn pan fydd y perchennog yn gwerthu'r eiddo.
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
Mae gennych ddewis, gallwch naill ai:-
- Ddefnyddio gosodwr sydd wedi ei gofrestru dan y cynllun FENSA a redir
gan y Ffederasiwn Gwydr a Gwydro. Drwy wneud hyn nid oes raid i chi
wneud cais i'r Cyngor am ganiatâd Rheoliadau Adeiladu. Yna, dylai
eich gosodwr sicrhau bod eich ffenestri'n cydymffurfio'n llawn â'r
Rheoliadau a bydd yn rhoi tystysgrif i chi sy'n cadarnhau hyn pan fydd
y ffenestri wedi eu gosod. Bydd hefyd yn cynnig yr opsiwn i chi o gymryd
gwarant gyda chefnogaeth yswiriant. Gwnewch yn siwr os gwelwch yn dda
bod eich gosodwr wedi ei gofrestru'n gywir dan y cynllun cyn gosod archeb.
Gallwch wirio hyn a chanfod mwy o fanylion y cynllun drwy edrych ar
wefan y Ffederasiwn Gwydr
a Gwydro.
- Gwneud cais am ganiatâd Rheoliadau Adeiladu i'ch awdurdod lleol
ac, yn y mwyafrif o achosion, y ffordd symlaf o wneud hyn fydd cyflwyno
Rhybudd am Adeiladu. Dylech lenwi Ffurflen
Cais am Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu, ticiwch y bocs i Rybudd
am Adeiladu, a'i dychwelyd i'ch awdurdod lleol gyda'r ffi briodol
o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn tynnu'r hen ffenestr(i).
- Os bydd eich awdurdod lleol yn canfod bod popeth yn foddhaol, bydd
yn cymeradwyo'r gwaith ac yn darparu tystysgrif gwblhau. Bydd hyn yn
golygu bod tirfesurydd yn galw yn eich eiddo i edrych ar osodiad y ffenestri
newydd.
Faint fydd cost hynny?
Os byddwch yn defnyddio contractiwr sydd wedi ei gofrestru dan y cynllun
FENSA, dylai'r gost fod yn rhan o'r dyfynbris ar gyfer y gwaith a gewch
chi. Ymhob achos arall bydd eich Cyngor yn codi ffi arnoch am ddelio gyda'ch
cais Rhybuddio am Adeiladu. Bydd eich Cyngor lleol yn gallu dweud wrthych
hefyd faint fydd y gost ar gyfer eich project.
Pa reoliadau mae'n rhaid i'r ffenestri gydymffurfio â nhw?
Efallai na fydd raid i berchnogion adeiladau cofrestredig ac adeiladau
mewn Ardaloedd Cadwraeth ateb y gofynion yma bob tro. Gweler Beth
Allaf Ei Wneud Mewn Ardal Gadwraeth? am fwy wybodaeth. Fodd bynnag,
mae hi'n dal i fod yn angenrheidiol i wneud cais am ganiatâd drwy'r
awdurdod lleol neu'r cynllun FENSA. Cofiwch, os gwelwch yn dda, fod angen
Caniatâd Cynllunio ar wahân yn aml iawn gan yr awdurdod lleol
ar gyfer gwaith fel yma.
Ynysiad Thermol
Bydd rhaid i'r ffenestri newydd ateb gofynion ynysiad thermol newydd
y rheoliadau. Os bydd gan y ffenestri newydd fframiau pren neu blastig,
rhaid i U-werth y gwydr fod yn is na, neu'n gyfweth â 2.0W/m²K.
Gyda fframiau metel mae U-werth ychydig yn uwch o 2.20W/m²K yn dderbyniol.
Nodwch os gwelwch yn dda bod y gwerthoedd yma'n anodd iawn i'w cyrraedd
ac na fydd nifer o'r unedau gwydr dwbwl sydd ar werth ar hyn o bryd yn
cyrraedd y safonau newydd
yma. Cymerwch ofal mawr wrth archebu ffenestri newydd bod eich cyflenwr
yn gallu profi y bydd yr unedau gwydr yn bodloni'r gofyniad yma. Bydd
angen i'r Tirfesurwyr Rheoliadau Adeiladu weld y dystiolaeth yma cyn rhoi
tystysgrif gwblhau i chi. Byddem yn argymell yn arbennig eich bod chi'n
gadael unrhyw labelau ar y gwydr nes bydd y Tirfesurydd Rheoliadau Adeiladu
wedi cwblhau archwiliad boddhaol.
Mewn rhai achosion efallai y bydd caniatâd i chi ddefnyddio unedau
gwydr nad ydynt yn cyrraedd y safonau uchod, ond i wneud hynny byddai'n
rhaid i chi (neu eich cyflenwr) gyflwyno cyfrifiadau i brofi bod gofynion
ynysiad cyffredinol y rheoliadau wedi eu cyrraedd beth bynnag. Fe allai
hyn fod yn bosib os byddwch chi'n gwneud gwaith ynysu arall wrth osod
y ffenestri newydd - er enghraifft, gosod ynysiad waliau ceudod neu ychwanegu
at ynysiad yn yr atig. Gallech ddefnyddio'r manteision a gewch drwy osod
yr ynysiad ychwanegol yma i gyfiawnhau'r colledion uwch drwy'r gwydr,
ond ni ddylech wneud hyn heb gyfrifo'r gwahaniaeth yn fanwl. Byddem yn
eich cynghori chi'n gryf i ofyn i'r Tirfesurydd Rheoliadau Adeiladu wirio
unrhyw gyfrifiadau ddigonedd o amser cyn gosod y ffenestri newydd, er
mwyn osgoi unrhyw gamgymeriadau drud.
Mannau Dianc
Yn ddelfrydol, dylai pob ffenestr ar lawr cyntaf annedd mewn ystafelloedd
lle mae pobl yn byw gynnwys darnau gwydr sy'n agor ac sy'n ddigon mawr
i adael i rywun ddianc drwyddynt pe baent wedi eu dal yn yr ystafell gan
dân. Mae hyn yn wir am ystafelloedd mewn byngalos hefyd sy'n agor
i mewn i neuadd (heblaw bod gan y neuadd ei hun ddrws allanol y gallech
ddianc drwyddo) a phob ystafell fewnol. I ateb y gofyniad yma dylai pob
ffenestr o'r fath gael man sy'n agor, heb unrhyw rwystrau, o 0.33m²
o leiaf, ac heb fod yn llai na 450mm o uchder a 450mm o led (gall y llwybr
drwy'r ffenestr fod ar ongl yn hytrach na mynd yn syth drwodd). Dylai
gwaelod y man sy'n agor fod yn llai na 1100mm yn uwch na'r llawr.
Os nad oes gan eich ffenestri presennol ddarnau gwydr sy'n agor sy'n
ateb y gofynion uchod, byddem yn argymell yn gryf, er mwyn eich diogelwch
eich hun, eich bod chi'n cymryd y cyfle i'w darparu nhw yn y ffenestri
newydd. Ond, nid yw hyn yn un o ofyniadau'r rheoliadau, sy'n dweud yn
syml na chaiff y ffenestri na'r rheini maent yn cymryd eu lle. Lle mae
gan y ffenestri presennol ddarnau sy'n agor sy'n fwy na'r gofyniad uchod,
gallwch ostwng maint rheini yn y ffenestri newydd ar yr amod nad ydynt
wedi eu gostwng i faint sy'n llai na'r maint a nodwyd ar gyfer ffenestri
dianc.
Gwydr Diogelwch
Yn gyffredinol, dylai gwydr ar lefelau isel (mannau gyda gwydr o fewn
800mm o lefel y llawr) a gwydr mewn drysau o fewn 1500mm o lefel y llawr,
fod o fath sydd, os bydd yn cael ei dorri, yn torri'n ddiogel. Yn ymarferol,
mae hyn yn golygu y dylai gwydr o'r fath fod wedi ei gryfhau neu ei laminadu.
Mae modd defnyddio gwydr arferol o hyd mewn ffenestri bach, ar yr amod
bod y gwydr yn ddigon cryf i wrthsefyll toriad. Mae Dogfen N gymeradwy
o'r Rheoliadau Adeiladu yn rhoi mwyafrif meintiau yn dibynnu ar drwch
y gwydr - er enghraifft, mewn un darn unigol o wydr sy'n llai na 1.1m
sgwâr - byddai gwydr 8mm yn dderbyniol.
Diogelwch Strwythurol
Os ydi'r ffenestri newydd yn lletach na'r hen rai, neu os ydych yn gosod
ffenestri cilfan newydd, yna mae angen digon o gynhaliaeth strwythurol
uwchben y ffenestri. Mewn adeiladau h~n, roedd ffrâm bren y ffenestr
yn ddigon cryf yn aml iawn i gario pwysau'r wal neu'r to heb lintel. Wrth
gwrs, yn yr achosion yma mae angen naill ai gosod lintel wrth osod y ffenestr
newydd, neu rhaid atgyfnerthu'r ffrâm newydd yn ofalus i gario'r
llwyth. Gallwch gael mwy o gyngor am sefydlogrwydd strwythurol o Adran
Rheoliadau Adeiladu eich awdurdod lleol neu gan unrhyw aelod o'r cynllun
FENSA.
Awyru
Ffactor bwysig i'w hystyried yw a oes digon o awyriad ar gyfer yr adeilad
a dylid ystyried hyn wrth benderfynu ar faint y darnau sy'n agor yn y
ffenestri newydd. Yn y mwyafrif o ystafelloedd, bydd un neu fwy o ffenestri
sy'n agor, sy'n cyfateb â 5% o arwynebedd cyfan y llawr, gyda thyllau
awyr 'llifo'n araf' cefndirol o 8000mm² yn ddigonol. Mewn ceginau,
ystafelloedd iwtiliti ac ystafelloedd ymolchi byddai 4000mm² yn ddigonol.
Dylai'r ystafelloedd yma gael digon o awyriad mecanyddol i leddfu problemau
sy'n gysylltiedig â chyddwysiad.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11
1WL.
Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Hydref 2002.
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 202Kb 
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu
Mynegai Rheoli Adeiladu
|