|
Dyma
un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio
gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.
Stwythurau Peryglus
Beth ddylwn ei wneud os gwelaf strwythur beryglus - Gweithdrefn adrodd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am ddelio ag adeiladau
a/neu strwythurau peryglus. Gall adeiladau ddod yn beryglus yn raddol
oherwydd oedran, dirywiad, tywydd gwael, anheddiad, fandaliaeth neu achosion
mwy dramatig megis tân, ffrwydriad neu drawiad gan gerbydau.
Ceir y ddeddfwriaeth a ddefnyddir gan y Cyngor i ddelio â strwythurau
peryglus o fewn darpariaethau Deddf Adeiladu 1984 ac mae'n galluogi'r
Is-Adran Rheoli Adeiladu i wneud adeilad yn ddiogel ac atal unrhyw berygl
posibl i'r cyhoedd.
Gall adeiladau ddod yn beryglus unrhyw adeg o'r dydd ac, i ddelio â
hyn, mae'r Is-Adran Rheoli Adeiladu'n ymateb i nifer o geisiadau gan yr
heddlu, y Gwasanaeth Tân a'r cyhoedd i fynd i safleoedd. Pan fo'r
Arolygydd Rheoli Adeiladu'n cyrraedd y safle, bydd yn archwilio maint
a natur y perygl ac yn ystyried y camau gweithredu i'w cymryd i sicrhau
diogelwch pawb.
Penderfynir ar hyn drwy asesu natur y perygl a'r risg i bobl. Gall ofyn
i gontractwr weithredu ar unwaith i symud neu wneud adeilad neu strwythur
beryglus yn ddiogel.
Mewn achosion llai difrifol, byddai'r Arolygydd Rheoli Adeiladu'n cloi'r
eiddo er mwyn atal pobl rhag cael mynediad. Byddai'n cysylltu â'r
perchennog i drafod sut y gellid cywiro'r sefyllfa. Os nad yw'r perchennog
yn symud y perygl, gellir mynd i'r Llys Ynadon a gorfodi'r perchennog
(perchnogion) i gyflawni'r gwaith hanfodol a bod yn hollol gyfrifol am
yr holl gostau. Byddai'r Awdurdod yn cyflawni'r gwaith pe bai'r perchennog
yn gwrthod ei gyflawni.
Os gwelwch strwythur beryglus neu os ydych yn gweld perygl posibl
i'r cyhoedd, cysylltwch â'r:
Is-Adran Rheoli Adeiladu ar: 01978 292050
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11
1WL.
Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Hydref 2002.
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 771Kb 
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu
Mynegai Rheoli Adeiladu
|