skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 6 - Gwaith Adeiladu a Eithrir o'r Rheoliadau Adeiladu

 

Dyma un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.

Gwaith Adeiladu a Eithrir o'r Rheoliadau Adeiladu

Adeilad ar wahân (sied, ayb.)

  • Dim ystafelloedd cysgu.
  • Maint y llawr heb fod yn fwy na 15 metr sgwâr.

Ty gwydr/ystafell wydr

  • Rhaid i ystafell wydr gael to gwydr/lled dryloyw. Yn rhan o'r ty a maint y llawr heb fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
  • Un llawr.
  • Rhaid cadw'r drysau mynediad a/neu'r ffenestri presennol.
  • Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall.
  • Rhaid iddo gynnwys gwydr diogelwch mewn mannau penodol.

Modurdy

  • Ar wahân.
  • Maint y llawr heb fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
  • 1 metr neu fwy o unrhyw ffin neu ddefnydd llosgadwy.

Cyntedd

  • Ni ddylid ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall.
  • Maint y llawr heb fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
  • Un llawr.
  • Cadw'r drysau mynediad a/neu'r ffenestri presennol.
  • Rhaid iddo gynnwys gwydr diogelwch mewn mannau penodol.

Porth Car

  • Ar agor ar ddwy ochr o leiaf (nid yw drysau'n ochrau agored).
  • Maint y llawr heb fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
  • Un llawr.

Nodyn: Gallai fod angen caniatâd cynllunio ar strwythurau a eithir o Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu. Os ydych yn ansicr, ffoniwch yr Rheoli Cynllunio ar rhif ffôn: 01978 292017.

Rheolau Newydd ar gyfer Diogelwch Trydanol yn y Cartref

O 1 Ionawr 2005, bydd gofyn i bobl sy’n gwneud gwaith trydanol mewn cartrefi a gerddi yng Nghymru a Lloegr ddilyn y rheolau newydd yn y Rheoliadau Adeiladu.

Cwmpas a Gofynion

Mae Rhan P o’r Rheoliadau Adeiladu’n perthyn i osodiadau trydanol sefydlog sy’n rhan o’r prif gyflenwad a rhai foltedd isel, gan gynnwys:

  • Gwifrau a chyfarpar y prif gyflenwad
  • Goleuadau foltedd isel iawn
  • Trydan gwres canolog
  • Systemau electronig megis larymau lladron a thân

Mae Rhan P yn perthyn i osodiadau trydanol mewn anheddau a fflatiau (ond nid ystafelloedd at bwrpasau preswyl) ac i estyniadau i osodiadau trydanol yn y canlynol, sy’n cael eu heithrio o Atodiad 2 o’r Rheoliadau Adeiladu ond nid gofynion Rhan P:-

  • Ystafelloedd gwydr
  • Cynteddau
  • Gerddi
  • Modurdai

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL.

Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502

Mabwysiadwyd Hydref 2002.

Diweddarwyd Medi 2005.


Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:

Gwaith Adeiladu a Eithrir o'r Rheoliadau Adeiladu - fformat PDF 1.4Mb 


Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu

Mynegai Rheoli Adeiladu

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint