Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 9 - Eich Prosiect Adeiladu a Deddf Mur Cyd 1996

Dyma un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.

Eich Prosiect Adeiladu a Deddf Mur Cyd 1996

Daeth Deddf Mur Cyd 1996 ('y Ddeddf') i rym ar 1 Gorffennaf 1997 ledled Cymru a Lloegr.

Os ydych yn bwriadu cyflawni gwaith sy'n cynnwys un o'r categorïau canlynol:

  • gwaith ar wal neu strwythur bresennol a rennir gydag eiddo arall (adran 2 y Ddeddf),
  • adeiladu wal ar ei thraed ei hun neu wal adeilad hyd at neu ar led ffiniau eiddo cyfagos (adran 1 y Ddeddf), neu
  • cloddio ger neu'n gyfagos i adeilad cyfagos (adran 6 y Ddeddf);

mae'n rhaid i chi ddarganfod a yw'r gwaith yn dod o fewn y Ddeddf. Os ydyw, bydd raid i chi hysbysu'r holl gymdogion a effeithir yn ysgrifenedig, gan roi gwybod iddynt natur y gwaith a sut y bwriadwch sicrhau eu diogelwch yn ystod y gwaith adeiladu.

Mae'r Ddeddf ar wahân i'r Rheoliadau Cynllunio ac Adeiladu ac felly mae'n rhaid i chi gofio nad yw dod i gytundeb gyda'ch cymydog dan y Ddeddf yn dileu'r posibilrwydd y bydd angen caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu.

Mae llyfryn esboniadol ar gael gan: Yr Is-Adran Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL.

Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502

Mabwysiadwyd Hydref 2002.


Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:

Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 940Kb 


Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu

Mynegai Rheoli Adeiladu

yn ôl i'r brig