Siartr Cwsmeriaid ar gyfer y Gwasanaeth Amgylchedd

Bwriad y Siartr hon yw rhoi dealltwriaeth glir i chi o lefel y gwasanaeth y dylech ei ddisgwyl gan y Gwasanaeth Amgylchedd.

Mae'r gwasanaeth amgylcheddol yn darparu cyngor ar yr amgylchedd naturiol ac adeiladol ac yn benodol ar:

Rydym yn cychwyn Gorchymyn Cadw Coed hefyd ac yn penderfynu ar geisiadau am waith i goed.

Cymorth a chyngor

Dymunwn helpu i godi ansawdd datblygiadau newydd. Dymunwn i gymaint o geisiadau cynllunio â phosibl lwyddo ac atal problemau a allai arwain at achos gorfodi. Rydym yn cynnig gwasanaeth cynghori anffurfiol ar faterion ecolegol, tirwedd, coed a chadwraeth felly.

Byddwn yn ceisio ateb eich cwestiynau drwy ffonio neu'n bersonol cyn gynted â phosibl. Lle na ellir rhoi ateb ar unwaith, byddwn yn rhoi rhesymau clir am hyn ac yn ymateb yn ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith i 90% o'r ymholiadau.

Bydd unrhyw gyngor anffurfiol yn cael ei ystyried mewn unrhyw gais cynllunio ffurfiol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gofio na all fod yn warant o benderfyniad terfynol y Cyngor a dim ond materion sy'n ymwneud â choed, ecoleg, tirwedd, cynllun a chadwraeth adeiledig fydd yn cael eu taclo.

Byddwn yn ymgymryd i ddelio â cheisiadau coed a gwrychoedd ffurfiol cyn gynted â phosibl a byddwn yn ymdrin â 95% o'r holl geisiadau cadw coed o fewn 8 wythnos.

Byddwn yn ymchwilio i fygythiadau i goed, gwrychoedd, rhywogaeth sy'n cael eu cadw a'u cynefin ac adeiladau rhestredig o fewn 3 diwrnod gwaith. Ni fyddwn yn datgelu enw unrhyw achwynydd. Lle derbynnir cwynion dienw, gallai ein hymchwiliadau fod yn gyfyng.

Cynnwys chi yn ein prosiectau a pholisïau

Pan ddechreuwn brosiectau a mentrau, byddwn yn ceisio cynnwys aelodau o grwpiau diddordeb lleol a'r cyhoedd. Byddwn yn ysgrifennu at unigolion perthnasol ymlaen llaw ac yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg i godi ymwybyddiaeth.

Ar adegau, byddwn yn cynhyrchu gwybodaeth datblygu a chynllunio, yn amlinellu sut ddylid datblygu safle. Byddwn yn caniatáu 3 wythnos i grwpiau a'r cyhoedd gyflwyno sylwadau mewn ymateb i hyn. Byddwn hefyd yn caniatáu o leiaf 3 wythnos i ymgynghori wrth gynhyrchu gwerthusiadau Ardaloedd Cadwraeth.

Byddwn yn paratoi nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio lleol ar adegau a chyngor ar faterion amgylcheddol penodol. Byddwn yn caniatáu 6 wythnos i grwpiau diddordeb a'r cyhoedd gyflwyno sylwadau mewn ymateb i'r rhain

Mynediad i Wybodaeth

Mae Gorchmynion Cadw Coed yn ddogfennau cyhoeddus a gellir eu harchwilio am ddim yn y Swyddfa Gynllunio yn ystod oriau gwaith. Bydd tâl o £10 yn cael ei wneud am gopïau o'r gorchmynion.

Gellir archwilio manylion o safleoedd cadwraeth natur statudol ac anstatudol am ddim yn yr Adran Gynllunio. Gellir archwilio disgrifiadau o'r holl adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth yn y Fwrdeistref Sirol hefyd, am ddim, yn ystod oriau gwaith arferol.

Rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth cyfeillgar ac agored a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gallwn.

Cwynion

Cwynion yr Adran Gynllunio - Sut i gwyno

Sut i Gysylltu â Ni

Ffôn: 01978 292019 (llinell uniongyrchol i'r Gwasanaeth Amgylcheddol)

E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Llythyr: Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL

Ffacs: 01978 292502

Yn bersonol: Mae'r Adran Gynllunio ar ail lawr swyddfeydd y Cyngor ar Stryt y Lampint. Mae ramp/lifft ar gael. Mae system cyswllt clyw ar gael.

Ein horiau agor yw:

Mae ein swyddfeydd ar agor i ymwelwyr rhwng 8.45 a 5.15 o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.45 i 4.45 ar ddydd Gwener.  Neu gallwch ein ffonio rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gellir gwneud trefniadau arbennig i gyfarfod â swyddogion unigol tu allan i'r oriau hyn.


Cynllunio Amgylchedd

Mynegai Siartri Cwsmeriaid

Dogfennau Cynllunio Allweddol

yn ôl i'r brig