Pwy yw'r Cysylltiadau?

Rheoli Cynllunio

Ymdrin â cheisiadau cynllunio megis estyniadau tai, newid defnydd, datblygiad preswyl neu ddiwydiannol newydd, hysbysebion a chloddio am fwnau. Ymchwilio i gwynion ynghylch torri rheoliadau cynllunio.

Ffôn: 01978 292017 | Ffacs: 01978 292502 |
E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Rheoli Adeiladu

Ymdrin â cheisiadau rheoliadau adeiladu ac iechyd, lles a diogelwch pobl tu mewn i adeiladau ac o'u cwmpas.

Ffôn: 01978 292050 | Ffacs: 01978 292502 |
E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Grantiau Adeiladu

Cymorth grant megis grantiau adnewyddu tai a grantiau mynediad i bobl anabl.

Ffôn: 01978 315300 | Ffacs: 01978 315580 |
E-bost: housing@wrexham.gov.uk

Cynllunio Amgylchedd

Cyngor ar ddiogelu a gwella adeiladau hanesyddol neu restredig, strwythurau, parciau, ardaloedd cadwraeth a chyngor ar ddiogelu a gwella'r amgylchedd naturiol megis coed, gwrychoedd, bywyd gwyllt, bioamrywiaeth a chynaladwyedd.

Ffôn: 01978 292019 | Ffacs: 01978 292502 |
E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Polisi Cynllunio

Cynhyrchu'r Cynllun Datblygu Unedol sy'n gosod allan polisïau penodol ar gyfer defnydd tir yn Wrecsam. Gall gyhoeddi dogfennau a ffurflenni cais cynllunio mewn print bras, Cymraeg a Braille. Gall ddarparu gwybodaeth ar boblogaeth a demograffeg.

Ffôn: 01978 292013 | Ffacs: 01978 292502 |
E-bost:planning@wrexham.gov.uk

Gwasanaethau Cefnogi

Prosesu eich cais a rhoi cyngor cyffredinol ar gynllunio, rheoli adeiladu a grantiau. Cadw cofrestr o geisiadau cynllunio.

Ffôn: 01978 292016 | Ffacs: 01978 292502 |
E-bost: planning@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig