Amgylchedd Hanesyddol Wrecsam – Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Safle Treftadaeth y Byd
Mae treftadaeth cyfoethog ac amrywiol Wrecsam yn amlwg yn ei gyfoeth o adeiladau hanesyddol, tirluniau, trefi ac archeoloeg sy’n cynrychioli datblygiad, twf ac addasiad hanesyddol y Fwrdeistref Sirol a’r ardal ehangach dros nifer o ganrifoedd.
Mae’r system gynllunio yn chwarae rhan allweddol o ran diogelu a chadw'r amgylchedd hanesyddol tra’n helpu i reoli newidiadau ac ymateb a pharhau i ymateb i anghenion presennol. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol y ddyletswydd statudol i reoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol.
Mae rheoli a diogelu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru wedi’i osod o fewn y ddeddfwriaeth bresennol:
- Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (Fel y’i diwygiwyd)
- Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
- Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979
- Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (Fel y’i diwygiwyd)
Y Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yw’r ddeddfwriaeth mwyaf diweddar ar gyfer rheoli Amgylchedd Hanesyddol ac mae’n newid dwy ddeddfwriaeth DU - Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 a’r Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae’r Ddeddf newydd yn cynnwys tri phrif nod:
- rhoi amddiffyniad mwy effeithiol i adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig;
- gwella rheolaeth gynaliadwy ar yr amgylchedd hanesyddol; a
- chyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn penderfyniadau a wneir ar yr amgylchedd hanesyddol.
Polisi Cynllunio Cenedlaethol
Mae Polisi Cynllunio Cymru (cyswllt allanol) yn cynnwys polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Mae Pennod 6 yn cynnwys yr amgylchedd hanesyddol ac yn pwysleisio bod rheolaeth gadarnhaol newid yn yr amgylchedd hanesyddol yn seiliedig ar ddealltwriaeth lawn o’r natur ac arwyddocâd asedau hanesyddol ac yn cydnabod buddion y gallant eu cyflawni mewn diwylliant ac economi llewyrchus.
Mae cyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) yn cydfynd â Pholisi Cynllunio Cymru. Mae’r Nodyn Cyngor Technegol yr Amgylchedd Hanesyddol (cyswllt allanol) yn cynnwys canllawiau manwl ar sut mae’r system gynllunio yn ystyried yr amgylchedd hanesyddol wrth baratoi cynllun datblygu a gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig. Mae TAN 24 yn disodli Cylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig canlynol:
- 60/96 Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Archeoleg
- 61/96 Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth
- 1/98 Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Cyfarwyddiadau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Polisi Cynllunio Cymru (cyswllt allanol)
- Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol (cyswllt allanol)
Canllawiau Arfer Gorau
Mae Cadw wedi paratoi a chyhoeddi cyfres o ganllawiau arfer gorau a fwriadwyd i ymestyn darpariaeth y Ddeddf. Mae’r cyntaf o’r dogfennau canllawiau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru
- Rheoli Newidiadau i Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru
- Rheoli Newidiadau i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru
- Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru
- Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru
- Rheoli Nodweddion Hanesyddol yng Nghymru
- Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru
- Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru
- Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru
Gallwch lawrlwytho'r dogfennau hyn, ynghyd â chanllawiau cynharach gan Cadw, am ddim ar wefan Cadw drwy’r ddolen isod:
Mae’r Adran Gynllunio wedi ymrwymo i gynnal yr asedau gwerthfawr hyn a gallant gynnig gwybodaeth a chyngor pellach ar amgylchedd hanesyddol Wrecsam.