Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am LANDMAP, sef y broses asesu tirweddau a gwneud penderfyniadau. Mae’r broses hon yn arfarnu gwyddorau’r ddaear, bioamrywiaeth, elfennau gweledol a synhwyraidd, hanes ac archeoleg a diwylliant.
Mae LANDMAP Wrecsam yn rhan o fenter Cymru gyfan a ddatblygwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) a Grŵp Partneriaeth Tirweddau Cymru. Mae’r astudiaeth yn cwmpasu agweddau ar wyddorau’r ddaear, bioamrywiaeth, elfennau gweledol a synhwyraidd, hanes ac archeoleg a diwylliant ac yn eu harfarnu. Mae hyn wedi ein galluogi i enwi ardaloedd cymeriad tirwedd adnabyddadwy a gwneud argymhellion i reoli a chyfoethogi treftadaeth tirweddau amrywiol mewn modd priodol ar gyfer y dyfodol.
Mae'r ddogfen hon yn fersiwn gyfunol a syml o LANDMAP Wrecsam 2004, y mae'n ei disodli, ar gyfer popeth ond sgorau'r arfarniad ar gyfer pob agwedd a chefndir y broses LANDMAP. Darperir cyfarwyddyd am sut i ddefnyddio LANDMAP wrth baratoi ceisiadau cynllunio hefyd
Mae copi ar gael i'w lawrlwytho yma:
Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol LANDMAP Wrecsam
Mae LANDMAP Wrecsam yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd yn unol â methodoleg a mesurau sicrhau ansawdd diweddaraf CCGC. Disgwylir y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau erbyn mis Hydref 2007 cyn cael ei gyhoeddi ar wefan CCGC. Cyhoeddir unrhyw newidiadau ar y dudalen hon.
Swyddog Tirweddau
Adran Cynllunio a'r Amgylched
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR
Ffôn: 01978 292478
Ffacs: 01978 292502
E-bost: landmap@wrexham.gov.uk