skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 3 - Trosi Adeiladau Gwledig

 

Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn esbonio'r ymagwedd y mae'r Cyngor yn ei chymryd tuag at ymdrin â chynigion i newid defnydd adeiladau gwledig a'u trosi. Mae'n cefnogi ac yn amlygu'r polisïau perthnasol (yn arbennig GDP1, H3, E5 a
CLF9) a gynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol Wrecsam.

Bydd y nodyn yn ffurfio ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar y ceisiadau cynllunio.

Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn ymdrin â chynigion i drosi adeiladau gwledig i'w defnyddio ar gyfer dibenion eraill.

  • Rhan 1 yn berthnasol i unrhyw gynigion ac mae'n nodi'r egwyddorion datblygu y dylid eu dilyn.
  • Rhan 2 yn berthnasol i adeiladau amaethyddol yn unig ac yn cynnwys pwyntiau penodol i'w hystyried pan fydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys trosi adeilad ar gyfer defnydd preswyl.
  • Rhan 3 yn rhestru gwybodaeth y dylid ei chynnwys gyda chais cynllunio.

Cefndir

Mae ystod amrywiol o adeiladau yng nghefn gwlad nad ydynt bellach yn addas ar gyfer eu dibenion gwreiddiol. Mae'r mwyafrif yn debygol o fod yn adeiladau amaethyddol ond gall bobl hefyd chwilio am ddefnydd arall ar gyfer eglwysi, capeli, melinau, ysgolion, tafarndai, stablau ac adeiladau.

Mae nifer o'r adeiladau hyn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal. Cyn belled â bod eu strwythur yn gadarn, gall trosi'r adeiladau hyn ddiogelu eu dyfodol, er enghraifft ar gyfer defnyddiau cyflogaeth neu gymunedol, lletyau ymwelwyr neu ar gyfer darparu tai. Trwy ailddefnyddio adnoddau presennol, gall trosi adeilad hefyd gyrraedd nodau datblygiad adeilad cynaliadwy.

Fodd bynnag, nid pob adeilad sy'n addas ar gyfer ei drosi, gan gynnwys:-

  • adeiladau simsan;
  • adeiladau heb doeau, sydd â rhannau sylweddol o waliau ar goll neu waliau wedi adfeilio sy'n gadael dim ond olion o'r strwythur gwreiddiol;
  • adeiladau dros dro;
  • adeiladau sy'n hyll i edrych arnynt ac y dylid eu dymchwel er lles cadwraeth y tirlun;
  • adeiladau sy'n anaddas o ran maint a ffurf y gwaith adeiladu;
  • adeiladau sydd mewn perygl o lifogydd.

Yn arbennig, ni chaiff caniatâd cynllunio ei roi fel arfer os:-

  • nad oes digon o arwynebedd llawr yn yr adeilad presennol i ddarparu safonau llety derbyniol (dylai hyn fod o leiaf 40m2 ar gyfer trosi adeilad yn annedd);
  • yw'r cynigion yn cynnwys ailadeiladu mwy na 10% o'r waliau os oes angen ailadeiladu strwythur y to; neu 20% o'r waliau os oes angen cadw strwythur y to.

Rhan 1 - Egwyddorion datblygu

Gydag ychydig iawn o eithriadau, mae'n hanfodol bod adeiladau a drosir yn cadw eu cymeriad gwreiddiol ac nad ydynt yn ymddangos fel pe baent yn strwythurau newydd gwreiddiol. Y nod felly yw cadw nodweddion megis:-

  • ffurfiau a meintiau cyffredinol;
  • deunyddiau traddodiadol (briciau, teils, cerrig, fframiau coed ac ati, lleol);
  • manylion pensaernïol;
  • agoriadau presennol mewn waliau;
  • strwythurau to
  • lefelau lloriau;
  • gosodiad mewnol;
  • prif osodiadau a ffitiadau fel rhannau annatod o'r cynllun cadwraeth.

Mewn achosion lle nad oes gan yr adeilad unrhyw nodweddion teilwng gwreiddiol neu draddodiadol, bydd y Cyngor yn disgwyl i ddyluniad newydd unrhyw drosiant adlewyrchu cymeriad cynhenid ac ymddangosiad adeiladau eraill yn yr ardal gyfagos.

Felly, dylai'r cynigion roi ystyriaeth i'r egwyddorion dylunio a gosodiad a nodir isod.

Waliau

  • Ail-ddefnyddio agoriadau presennol i gadw cymeriad yr adeilad a lleihau effaith unrhyw waith newydd;
  • Dylid creu cyn lleied ag sy'n bosibl o agoriadau newydd a chymryd i ystyriaeth meintiau cyffredinol yr adeilad;
  • Os oes angen cau agoriad, dylech ystyried creu panel cilfachog i ddangos lle'r oedd yr agoriad gwreiddiol;
  • Defnyddio deunyddiau a dulliau (gan gynnwys technegau pwyntio traddodiadol) sy'n briodol ar gyfer yr adeilad a'i leoliad;
  • Dylid tynnu deunyddiau anaddas neu amhriodol a ddefnyddiwyd mewn newidiadau blaenorol a'u newid am ddeunyddiau sy'n cyd-fynd â'r adeilad gwreiddiol.

Toeau

  • Ni ddylid codi llinellau'r to na newid goleddf y to. Mewn achosion eithriadol lle mae newidiadau tebyg yn angenrheidiol, rhaid eu cadw'n lleiafswm er mwyn sicrhau nad yw cymeriad cyffredinol yr adeilad yn newid;
  • Os yw'r trosiant yn cynnwys adfer rhan o'r to sydd ar goll neu sydd wedi'i iselhau er mwyn ei ddychwelyd i'w ymddangosiad gwreiddiol, bydd hyn fel arfer yn dderbyniol;
  • Os oes angen ailadeiladu'r to, dylid cadw ac ail-ddefnyddio llechi neu deils traddodiadol;
  • Fe'ch anogir i beidio â gosod ffenestri cromen ac eithrio bod rhagesiampl amlwg ohonynt ar adeiladau traddodiadol yn yr ardal gyfagos;
  • Bydd ffenestri to yn dderbyniol mewn egwyddor, cyn belled nad oes gormod ohonynt; eu bod yn gyfwynebol ag arwyneb y to; ac nad ydynt yn rhy fawr o'u cymharu â maint y to yn gyffredinol;
  • Ni ddylai safle, nifer a maint unrhyw baneli solar neu gelloedd ffotofaltig gael effaith ddrwg ar ymddangosiad yr adeilad.

Ffenestri a drysau

  • Dylid cadw, trwsio ac ailddefnyddio ffenestri a drysau traddodiadol neu gynhenid;
  • Dylai ffenestri a drysau newydd (gan gynnwys drysau patio/Ffrengig) gydweddu â'r rhai gwreiddiol ac/neu adlewyrchu cymeriad yr adeilad. Ni fydd dyluniadau safonol sy'n addas ar gyfer adeiladau modern yn bennaf, yn dderbyniol;
  • Dylai ffenestri a drysau gael eu peintio neu, yn achos ffenestri pren caled o darddiad cynaliadwy megis derw, eu gadael heb eu trin - dylid osgoi defnyddio staeniau pren modern;
  • Dylid cilfachu fframiau ffenestri a drysau o leiaf 100 milimetr o fewn yr agoriad er mwyn rhoi dyfnder i'r talwyneb;
  • Ni fydd drysau garej sy'n agor i fyny a drosodd yn briodol.

Nodweddion mewnol

  • Dylid cadw nodweddion sy'n ffurfio rhan o gymeriad yr adeilad (er enghraifft trawstiau, ceubrennau a thrawslathau agored; distiau llawr; ceibrau to; rhaniadau ystafelloedd solid; estyll; lloriau teil neu garreg; a ffitiadau gwreiddiol) a'u hymgorffori yn y trosiant;
  • Nid yw'n briodol isrannu gwagle mewnol mawr os yw'n ffurfio rhan annatod o gymeriad yr adeilad (er enghraifft, cowlas dyrnu mewn ysgubor neu lofft stabl mewn granar).

Draeniad a gwastraff

  • Dylid cadw gwteri, peipiau dwr a bracedi haearn bwrw traddodiadol a'u hatgyweirio neu eu hadnewyddu i gydweddu'r rhai gwreiddiol;
  • Dylid gosod peipiau pridd ac awyrellu yn fewnol a dylid gosod cyn lleied ag sy'n bosibl o fentiau;
  • Yn ddelfrydol, dylid gosod fentiau ar oleddf y to cefn a dylid eu peintio'n ddu mat i leihau eu heffaith gweledol;
  • Dylid ymgorffori dulliau cynaliadwy o drin a gwaredu dwr gwastraff a gwastraffon eraill yn y trosiant lle bynnag y bo hynny'n ymarferol. Efallai na fydd gosod tanciau septig a charthbyllau bob amser yn briodol mewn ardaloedd gwledig a dylid ystyried dulliau eraill o waredu gwastraff sy'n fwy derbyniol i'r amgylchedd.

Gwresogi ac awyru

  • Dylai ffliwiau ac echdynwyr gwresogi gael yr effaith weledol leiaf bosibl felly byddai deunyddiau galfanedig fel hyn yn debygol o fod yn amhriodol;
  • Fe'ch anogir i ddefnyddio teils awyrellu addas sy'n ategu at y waliau a thoeau presennol;
  • Fel arfer, nid oes simneiau mewn hen adeiladau gwledig ac oherwydd hynny mae'n annhebygol y caiff simneiau newydd eu derbyn mewn cynllun trosi.

Estyniadau ac ychwanegiadau

  • Mewn unrhyw drosiant, rhaid rhoi pwyslais ar ddangos bod yr adeilad yn addas yn ei ffurf bresennol ar gyfer y defnydd arfaethedig newydd. Oherwydd hyn, rhagdybir nad oes modd adeiladu estyniadau mawr ar yr adeilad ei hun na chodi strwythurau ategol newydd o fewn y cwrtil nac ar y ffin ag o.
  • Ar gyfer trosiannau preswyl, rhaid bodloni gofynion cadw ceir a storio offer domestig o fewn yr adeilad (neu adeiladau) gwreiddiol. Mae cyfarwyddyd pellach am raddfeydd estyniadau preswyl ar gael yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 13.
  • Mae atodi cynteddau a nodweddion allanol eraill (gan gynnwys ystafelloedd gwydr) yn debygol o effeithio'n ddrwg ar ymddangosiad gwreiddiol yr adeilad a dylid osgoi eu hadeiladu.

Cwrtilau a thirlunio

  • Dylid cadw arwynebedd y cwrtilau (y tir cyfagos sy'n amgylchynu'r adeilad ac sy'n perthyn yn uniongyrchol iddo) i'r lleiafswm sydd ei angen ar gyfer daliadaeth arferol yr adeilad ac ni ddylai ymestyn yn afresymegol i gaeau agored;
  • Dylai cwrtilau, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, ddilyn waliau terfyn a gwrychoedd sefydledig;
  • Dylid osgoi arwynebau caled mewn mannau lle nad oeddent yn bodoli yn flaenorol a dylid defnyddio deunyddiau athraidd i leihau dwr ffo ar yr wyneb.
  • Ni fydd tirlun meddal yn briodol ar fuarthau fel arfer;
  • Fel arfer, dylid rhoi mynediad i gerbydau trwy ddefnyddio mynedfeydd presennol. Os oes angen mynedfa newydd, dylai fod mor agos ag sy'n bosibl at yr adeilad. Ni chaniateir adeiladu rhodfeydd hir ar draws caeau agored;
  • Dylid tynnu cyn lleied ag sy'n bosibl o wrychoedd er mwyn gwella gwelededd wrth fynedfa'r safle;
  • Dylai arddull y pyrth fod yn syml ac yn draddodiadol ac mae'n annhebygol y bydd nodweddion mynediad addurnol yn dderbyniol;
  • Dylid gosod tanciau septig, tanciau olew ac offer ategol eraill mewn mannau anymwthiol a/neu dylid eu cuddio;
  • Dylid cadw nodweddion allanol sydd o ddiddordeb ac sy'n gysylltiedig â defnydd gwreiddiol yr adeilad a'u hymgorffori yn nyluniad a gosodiad y cwrtil;
  • PBydd angen i'r ddarpariaeth parcio gydymffurfio â safonau'r Cyngor (gweler Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 16).

Adeiladau rhestredig

  • Mae rhai adeiladau a gynigir i'w trosi wedi'u rhestru fel adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol. (Mae'r rhestriad hefyd yn cynnwys gosodiadau ac adeiladau eraill yn yr un cwrtil). Rhaid gwneud cais ar wahân am ganiatâd ar gyfer adeiladau rhestredig ar gyfer unrhyw newidiadau neu estyniadau a allai effeithio ar gymeriad yr adeiladau hyn;
  • Dim ond os caiff rhinweddau arbennig yr adeilad (yn fewnol ac yn allanol) a'i leoliad cyffredinol eu diogelu y rhoddir caniatâd i gynigion i drosi adeilad;
  • Mae'n debyg y caiff amod arbennig ei osod ar unrhyw ganiatâd adeilad rhestredig sy'n gofyn am raglen gofnodi a dadansoddi gytunedig cyn dechrau ar y datblygiad.

Gwarchod bywyd gwyllt

  • Rhaid dylunio ac ymgymryd â gwaith cadwraeth heb beryglu rhywogaethau a warchodir gan y gyfraith a'u safleoedd nythu neu glwydo;
  • Dylai unigolyn sydd â chymwysterau addas gynnal arolwg o'r adeiladau ac, lle bo hynny'n briodol, dylid cynnwys cynigion ar gyfer mesurau lliniaru bywyd gwyllt yn adroddiad yr arolwg.
  • Os oes rhywogaethau a warchodir gan Ewrop yn bresennol mewn adeilad nad yw eisoes yn annedd, bydd angen cael trwydded gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i darfu arnynt.
  • Os gellir cadw nyth neu glwyd, bydd gofyn i ddatblygwyr ymgorffori nodweddion megis blychau adar, tyllau tylluanod neu le tawel mewn croglofft.
  • Os caiff rhywogaethau a warchodir eu darganfod ar ôl i'r gwaith ddechrau, rhaid rhoi'r gorau i'r gwaith a chysylltu â Chyngor Cefn Gwlad Cymru am gyngor ynglyn â sut i barhau.
  • Gellir cael cyngor pellach ynglyn ag effeithiau gwaith trosi adeiladau ar fywyd gwyllt a warchodir gan ecolegydd y Cyngor.

Rhan 2 - Trosi adeiladau amaethyddol yn anheddau

Er mwyn cynnal yr economi wledig, mae polisïau cynllunio cenedlaethol yn rhoi pwyslais ar gynyddu nifer yr adeiladau segur a ailddefnyddir ar gyfer dibenion dibreswyl. Adlewyrchir yr ymagwedd hon yng Nghynllun Datblygu Unedol Wrecsam.

Yn achos adeiladau amaethyddol, mae polisi H3 y cynllun yn gofyn i gynigion ar gyfer trosi anheddau ddangos:-

  • nad oes angen yr adeilad ar gyfer dibenion amaethyddol bellach; a
  • bod defnyddiau dibreswyl eraill wedi'u profi yn briodol.

Felly, bydd angen cyflwyno datganiad cefnogol yn esbonio pam nad yw'r adeilad bellach yn addas; pam na ellir ei wneud yn addas; neu pam nad oes ei angen bellach ar gyfer dibenion amaethyddol, gyda'r ceisiadau cynllunio. Dylai'r datganiad hefyd nodi'r rhesymau pam na fyddai'n ymarferol nac yn ddymunol defnyddio'r adeilad ar gyfer unrhyw ddiben heblaw am breswylio. Dylai'r datganiad fell roi ystyriaeth i'r deunyddiau a restrir yn y blwch a gysgodir ar y dudalen nesaf.

Os ymddengys bod yr adeilad yn addas ar gyfer defnydd dibreswyl, bydd disgwyl i ymgeiswyr ei hysbysebu ar werth neu i'w brydlesu ar gyfer dibenion dibreswyl cyn cyflwyno cais cynllunio. Dylid cynnwys canlyniad yr hysbyseb yn y datganiad cefnogol.

Os na wnaethoch hysbysebu, gallai'r Cyngor ofyn i chi wneud hyn ar ôl cyflwyno eich cais yn dibynnu ar asesiad y Prif Swyddog Cynllunio o'r achos. Fodd bynnag, os oes unrhyw amheuaeth ynglyn ag addasrwydd yr adeilad, bydd hysbyseb yn hanfodol. Y cyfnod lleiaf ar gyfer hysbysebu adeilad sydd â photensial i fod yn addas ar gyfer dibenion dibreswyl fydd chwe mis fel arfer oni nodir yn wahanol gan y Prif Swyddog Cynllunio.

P'un a yw cyn neu ar ôl cyflwyno'r cais, fe'ch argymhellir i drafod a chytuno manylion unrhyw weithdrefnau marchnata neu hysbysebu gyda swyddogion cynllunio.

Ystyriaethau pwysig wrth gynnig trosi adeilad amaethyddol yn annedd

Lleoliad cyffredinol

Mewn nifer o achosion, bydd adeiladau a leolir mewn ardaloedd anghysbell iawn yn anaddas ar gyfer defnyddiau dibreswyl. Gallai dosbarthu nwyddau fod yn anodd, bydd costau dosbarthu yn debygol o fod yn uchel ac efallai y bydd yn amhosibl cael digon o staff.

Fodd bynnag, gallai lleoliad a wasanaethir gan gludiant cyhoeddus fod yn addas iawn ar gyfer ystod o ddefnyddiau.

Rhwydwaith ffyrdd lleol

Am resymau diogelwch ffyrdd, fel arfer caiff defnydd dwys o ffyrdd gwledig cul unffordd sydd ag ychydig iawn o leoedd i gerbydau fynd heibio i'w gilydd ei weld yn annymunol. Os oes ffordd annosbarthedig sy'n llai na 4 metr o led (fel y diffinnir ar y mapiau Arolwg Ordnans graddfa 1:25,000 a 1:50,000) yn arwain at yr adeilad, efallai na fyddai ei defnyddio ar gyfer busnes, masnach neu ddibenion twristiaeth yn briodol.

Mynedfa'r safle

Os yw mynedfa'r safle yn gul ac/neu wedi'i rannu ag adeiladau eraill; neu os caiff gwelededd ei rwystro gan adeiladau a waliau terfyn, gallai lefelau sylweddol o draffig ychwanegol fod yn beryglus. Mewn amgylchiadau tebyg, efallai mai trosi'r adeilad ar gyfer defnydd preswyl yw'r unig opsiwn diogel, er y gallai hyn fod yn annerbyniol mewn achosion eithriadol.

Parcio

Mewn nifer o achosion ni fydd lleoedd parcio ar gael ar y ffordd gerllaw'r adeilad. Mae'n annhebyg hefyd y bydd unrhyw ddarpariaeth oddi ar y ffordd gerllaw. Yn unol â hynny, rhaid i adeilad sy'n addas ar gyfer defnydd dibreswyl gynnwys digon o leoedd parcio o fewn y cwrtil presennol ac, yn ddelfrydol, o leiaf un lle sy'n ddigon mawr ar gyfer cerbyd dosbarthu.

Ymddangosiad allanol

Wrth drosi adeiladau amaethyddol, dylid ceisio cadw cymeriad ac ymddangosiad amaethyddol y strwythur presennol. Er y gellir cyflawni hyn mewn trosiannau preswyl, gallai defnyddiau masnachol ofyn am osod ffenestri mwy, drysau dosbarthu, fentiau awyr a gosod offer allanol eraill. Dim ond pe bai modd addasu'r adeilad heb orfod gwneud newidiadau allanol mawr y byddai'n debygol o fod yn addas ar gyfer dibenion dibreswyl.

Maint a ffurf yr adeilad

Mae rhai adeiladau fferm (yn arbennig rhai a adeiladwyd yn gymharol ddiweddar) yn debyg i unedau diwydiannol ac anaml iawn y maent yn addas ar gyfer trosiannau preswyl cydymdeimladwy. Mae adeiladau fel hyn yn amlwg yn fwy addas ar gyfer defnydd dibreswyl.

Adeiladau cyfagos

Gallai grwp o adeiladau fferm gyda'i gilydd fod â photensial sylweddol ar gyfer busnes neu dwristiaeth a phe na bai un yn cael ei drosi i fod yn annedd, gellid ei gyfaddawdu. Hyd yn oed os yw'r adeiladau eraill yn parhau i fod â defnydd amaethyddol, gallai gwrthdaro godi rhwng y preswylwyr a'r gweithgareddau ffermio. Mewn amgylchiadau tebyg, efallai na fydd defnydd dibreswyl yn opsiwn priodol.

Agosrwydd at safleoedd ac adeiladau busnes presennol

Os oes nifer sylweddol o safleoedd ac adeiladau eisoes ar gael ar gyfer dibenion busnes yn yr ardal leol (er enghraifft, ar ystâd ddiwydiannol), mae'n annhebygol y bydd yr angen i gadw adeiladau amaethyddol ar gyfer dibenion masnachol yn gryf iawn.

Hanes cynllunio

Efallai y bydd caniatâd cynllunio ar gyfer trosi'r un adeilad yn adeilad preswyl yn ddigonol i orbwyso'r angen i brofi y byddai defnydd arall yn fwy priodol. Os oes caniatâd wedi'i roi ar gyfer trosiant preswyl o fewn yr un grwp o adeiladau, gallai hyn sefydlu rhagesiampl ar gyfer trosi adeiladau eraill ar gyfer defnydd preswyl.

Rhan 3 - Gwybodaeth ofynnol

Ni ellir derbyn ceisiadau am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer trosi adeiladau. Rhaid i'r holl geisiadau fod ar gyfer caniatâd llawn a chynnwys:-

  • ffurflenni a thystysgrifau wedi'u cwblhau yn dangos perchnogaeth (gan gynnwys ffurflenni cais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig lle bo hynny'n briodol);
  • cynlluniau o osodiad y safle sy'n dangos y cwrtil arfaethedig yn glir;
  • cynlluniau ar raddfa heb fod yn llai na 1:100 yn dangos safle'r adeilad, cynlluniau lloriau presennol ac arfaethedig, gweddluniau, brasluniau manwl o'r arolwg, a thrawstoriadau a thoriadau hydredol. Dylai'r cynlluniau fod yn gwbl anodedig a dimensiynol a dylid nodi manylion adeiladu anghyffredin neu arwyddocaol;
  • adroddiad arolwg yn rhoi manylion o gyflwr yr adeilad. Rhaid i beiriannydd strwythurol neu unigolyn sydd â chymwysterau addas arall baratoi'r adroddiad a rhaid iddo ddangos bod yr adeilad yn strwythurol gadarn a bod modd ei drosi heb wneud gwaith ailadeiladu dwys. Dylai'r adroddiad gynnwys brasluniau graddfa yn tynnu sylw at y meysydd sydd angen eu disodli, eu hatgyweirio neu eu hadnewyddu. Dylai'r adroddiad anelu at sicrhau'r Cyngor a'r datblygwr arfaethedig na fydd yr adeilad yn dymchwel yn ystod y gwaith o'i drosi - os bydd hynny'n digwydd, efallai na fydd unrhyw ganiatâd cynllunio bellach yn ddilys.

Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr hefyd gyflwyno:-

  • adroddiad arolwg o fywyd gwyllt mewn perthynas â rhywogaethau a warchodir;
  • yn achosion cynigion i drosi adeiladau amaethyddol yn anheddau, datganiad yn cyfiawnhau pam nad yw'n briodol i gadw'r adeilad ar gyfer defnydd dibreswyl; a
  • mewn perthynas â chynigion i drosi adeiladau rhestredig, datganiad a brasluniau o ddulliau cadwraeth (ar raddfa 1:20 fel arfer) yn dangos union fanylion unrhyw ffenestri, drysau, nwyddau dwr glaw a nodweddion allweddol eraill newydd.

Croesawir trafodaethau cyn rhoi cais yn ogystal â chyflwyno cynigion bras er mwyn cael sylwadau anffurfiol.

Am wybodaeth bellach a ffurflenni cais, cysylltwch â'r:

Prif Swyddog Cynllunio,
Stryt y Lampint,
Wrecsam,
LL11 1AR.

Ffôn: (01978) 292016
Ffacs: (01978) 292502

E-bost: Planning@wrexham.gov.uk

Mabwysiadwyd Mawrth 2006

Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 3 - Trosi Adeiladau Gwledig

Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.

Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 3 - Trosi Adeiladau Gwledig - PDF Format 43kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


Rheoli Cynllunio

2 - Arfarniadau amaethyddol

7 - Tirlun a datblygiad

13 - Tai yng nghefn gwlad

14 - Estyniadau gerddi

16 - Parcio

17 - Coed a datblygiad

20 - Estyniadau tai

21 - Lle o amgylch anheddau

22 - Adeiladau cynaliadwy

Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint