Un
o gyfres o ganllawiau cynllunio yw hwn sydd yn egluro cynigion cynllunio
lleol ar ffurf eglur a chryno gydar amcan o wella safonau. Paratowyd
a mabwysiadwyd y canllawiau a ganlyn gan y Cyngor i feithrin gwell safon
o addasu.
O nodir cyngor syml sydd yn y daflen hon y gobaith yw y bydd datblygwyr yn deall gofynion addasu eiddo preswyl yn dai amlbreswyl ac yn cynnwys nodweddion angenrheidiol ar adeg y cais cynllunio.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae prisiau tai chwyddedig wedi cynyddur galw am unedau bychain o lety i logi gydar canlyniad fod amryw o dai preswyl yn cael eu defnyddio i greu fflatiau, ystafelloedd byw a chysgu, tai cyfrannol a llety. Wrth ystyried cynigion i addasu eiddo preswyl yn dai amlbreswyl, bydd y Cyngor yn sicrhau nad effeithir yn andwyol ar gymeriad ac amwynder y gymdogaeth.
Nid oes angen caniatâd cynllunio pan fydd uned annedd preswyl (e.e. ty, ty unllawr, fflat, fflat deulawr) yn parhau i weithredu fel ty preswyl.
I weithredu fel ty preswyl rhaid i un or canlynol fod yn gymwys:
Ei ddefnyddio gan berson neu deulu unigol (gan gynnwys person neu deulu syn cadw lletywyr).
Ei ddefnyddio gan ddim mwy na chwe pherson yn byw ar sail gymunol fel ty unigol (gan gynnwys pobl dan anfantais neu anabl yn cydfyw o dan gynllun gofal a chefnogaeth yn y gymuned a grwpiau bychain eraill syn dewis cydfyw ar sail gymunol, fel myfyrwyr).
Gall yr amodau canlynol fod yn arwyddol o dunigol yn aml:-
Bod y tenantiaid yn cyd fwyta yn rheolaidd.
Bod y rhent yn cael ei dalun gymunol.
Bod y gegin ar ystafell ymolchi yn cael eu rhannu.
Bod oergelloedd a storfeydd bwyd heb eu cloi.
Bod tenantiaid unigol yn byw yno yn barhaol o fewn rheswm.
Os nad yw / na fyddair eiddo yn gweithredu fel cartref teulu neu dyaid unigol yna byddai hyn yn ddatblygiad a byddai angen caniatâd cynllunio at newid defnydd. Fe all y bydd angen caniatâd Rheoli Adeiladu neu Reolau Iechyd Amgylcheddol hefyd.
Nid ywr Cyngor yn gwrthwynebu addasu eiddo preswyl presennol mewn egwyddor ond bod y cynnig yn boddhau ystyriaethau parcio, amwynder ac amgylcheddol ac yn gyson â pholisïau cynllunio lleol eraill.
Fel rheol disgwylir i gynigion addasu ateb y gofynion canlynol:-
1. Parcio
Os na ellir darparu hyn o fewn ffiniaur safle gellir eu darparu un ai:-
ar ymyl y ffordd o flaen yr eiddo ond iddo beidio peri problemau traffig, neu
mewn ardal o barcio oddi ar y stryd cyfyngedig o fewn 100 metr ir eiddo. Bydd gofyn ir fath bacio fod wedi ei sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol gydar Cyngor cyn y caiff caniatâd cynllunio ei ddyfarnu.
Yn gyffredinol bydd llecynnau parcio ceir mewn gerddi bychain yn y tu blaen yn annerbyniol.
Wrth asesu cynigion bydd y Cyngor yn ystyried galw presennol a rhagdybiedig am barcio ar y stryd yn ystod y dydd a'r pwysau am barcio yn ystod y nos yng nghyffiniau'r datblygiad.
2. Amwynderau
Pan fo gardd gefn ar gael dylid ei defnyddio ar gyfer mannau sychu, lle i hamddena a chadw biniau. Dylair cyfleusterau fod ar gael ir holl drigolion.
Os na fydd gardd ar gael, dylid darparu lle yn yr eiddo at sychu dillad. Dylid darparu lle i un bin ar gyfer pob 3 uned ai leoli yng nghefn yr eiddo, neu wedi ei guddion dda fel arall.
Os byddwch eisiau gwybodaeth am addasiadau ir strwythur, dulliau dianc ac ymladd tân, goleuadau argyfwng ac ynysu waliau, nenfydau a lloriau rhag swn, cysylltwch âr
Prif Swyddog Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y
Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam LL11 1WL.
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292017
Ffacs: 01978 292502
Os byddwch eisiau gwybodaeth ar fannau cadw a pharatoi bwyd, toiledau, baddonau, cawodydd a basnau, rhagofalon dianc a thân, ac addasrwydd cyffredinol yr eiddo cysylltwch âr
Prif Swyddog Diogelur Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Wrecsam LL11 1AY.
Mabwysiadwyd Ebrill 1993
Diwygiwyd Mehefin 2004
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 5 - Addasu Eiddo Preswyl Yn Dai Amlbreswyl
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 5 - Addasu Eiddo Preswyl Yn Dai Amlbreswyl - fformat PDF 284kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol