skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 8 - Cerbydau Llogi Preifats

 

Un o gyfres o ganllawiau cynllunio lleol yw hwn sy’n ymhelaethu ar gynigion cynllunio lleol ar ffurf eglur a chryno ac a fabwysiadwyd gan y Cyngor gyda’r amcan o wella safonau datblygu drwy ei ardal.

Oherwydd amrywiaeth y gweithgareddau hyn, mae’n anodd ffurfio polisi cynhwysfawr ar eu lleoliad. Gall maint cwmnïau amrywio o un car i fflyd fawr. Gallant weithio o dý, o swyddfa fechan neu o fodurdy. Gall ceir radio beidio dychwelyd i’w canolfan heblaw pan fydd angen eu trwsio (a gellir gwneud hyd yn oed hynny mewn modurdy annibynnol). Ar y llaw arall mae’n well gan rai cwmnïau i’w cerbydau ddychwelyd i’r ganolfan i dderbyn gorchmynion newydd, cyfrif yr arian, cyfnodau gorffwys, ac ati. Gellir dynodi dau brif fath o swyddfeydd; anweithredol a gweithredol.

Swyddfeydd Anweithredol

Swyddfeydd anweithredol yw rhai lle cyfarwyddir y cerbydau â radio a heb iddynt redeg o, nac ymweld â'r, swyddfa. Oherwydd mai dim ond un neu ddau o bobl a gyflogir, byddai'r mân ddefnydd swyddfa hwn yn dderbyniol bron ymhobman, gan gynnwys ardaloedd sydd gan mwyaf yn breswyl, ond i ddyluniad y mast radio a'r offer fod yn dderbyniol o ran golwg.

Mewn mannau lle byddai cerbydau ychwanegol yn annerbyniol, gosodir amod fel rheol ar unrhyw ganiatâd i sicrhau na fydd cerbydau yn rhedeg o, nac yn ymweld â'r, swyddfa.

Swyddfeydd Gweithredol

Swyddfeydd gweithredol yw rhai gyda cherbydau yn rhedeg ohonynt a lle bydd ystafell aros ar gael i'r cyhoedd a man i'r gyrwyr ymgynnull fel rheol. Dylid ystyried tair elfen wrth benderfynu ar leoliad y swyddfeydd hyn; y rhwydwaith ffyrdd, y safle a chymeriad yr ardal.

Meini Prawf Lleoli

Y Safle

Y maen prawf pwysig ar leoli canolfan yw'r nifer o fannau parcio oddi ar y stryd sydd ar gael, ym meddiant neu o dan reolaeth, yr ymgeisydd. Rhaid i hyn fod yn ddigonol i gynnwys cyfanswm y cerbydau sy'n debygol o ymweld â'r cyfeiriad hwnnw ar unrhyw adeg. Fe allai fod yn briodol gosod amod ar ganiatâd cynllunio fydd yn cyfyngu ar nifer y cerbydau all ymweld â'r cyfeiriad ar unrhyw adeg. Byddai orau i fannau parcio oddi ar y stryd fod yn ddigon mawr i ganiatau i'r cerbydau symud heb fod raid iddynt facio oddi ar y safle i ffyrdd cyfagos gan greu perygl i draffig arall a cherddwyr. Lle bo cwmni llogi preifat yn bwriadu gwneud gwaith cynnal ar ei gerbydau, dylid gwneud hyn oddi ar y stryd. Mewn ardaloedd preswyl, dim ond gwaith cynnal rheolaidd ddylid ei ganiatau yn y ganolfan.

Y Rhwydwaith Ffyrdd

Dylai'r ffordd lle saif y swyddfa ac, os yn briodol, unrhyw ddolen i'r ffordd ddosbarthedig agosaf, fod o safon ddigonol (o ran cynllun ac adeiladwaith) i gynnwys y nifer o gerbydau fydd yn rhedeg o, neu'n ymweld â'r, safle. Yn arbennig, byddai raid cael golwg ar gynhwysedd ac aliniad cyffyrdd gerllaw'r ganolfan. Mae angen gwneud hyn i sicrhau na fydd y gwaith ddim yn amharu ar lif rhydd y traffig nac yn creu amodau anniogel i symudiadau cerbydau a cherddwyr yn y cyffiniau.

Cymeriad yr Ardal

Mae gweithrediadau llogi preifat yn cyd-fynd â nifer o ddefnyddiau tir. Fodd bynnag, gall rhai agweddau ar eu gwaith eu gwneud yn anghydnaws â defnydd preswyl. Gall y problemau hyn ddigwydd hyd yn oed pan fo'r gwaith yn fychan iawn.

Y prif broblemau yw llawer o symudiadau cerbydau, swn ac oriau anghymdeithasol y gweithgareddau. Mae'r gwaith yn aml yn parhau liw nos pryd y gall darfu fwyaf. Teimlir, felly, na ddylid lleoli swyddfa sydd â mwy nag un cerbyd yn rhedeg ohoni mewn ardal breswyl. Mewn ardaloedd o ddefnydd cymysg, sy'n cynnwys elfen breswyl, ni fydd mor hawdd penderfynu. Awgrymir bod caniatâd yn cael ei roddi am gyfnod byr ar y dechrau mewn ardaloedd preswyl a chymysg fel ei gilydd, e.e. blwyddyn, er mwyn cadw golwg ar effaith y gweithgareddau.

Canolfannau Siopa Cylch

Mewn canolfannau siopa cylch, ni chaniateir i geir redeg o swyddfa os na ellir darparu'n llawn ar gyfer parcio oddi ar y stryd ar, neu ger, y safle fel bod lle i'r holl gerbydau sy'n debygol o fod ar waith ar unrhyw adeg. Byddai hyn yn osgoi parcio ar y stryd fyddai'n peri tagfeydd neu niwsans i drigolion strydoedd cyfagos, neu yn defnyddio mannau parcio cyhoeddus, fyddai'n anfanteisio defnyddwyr eraill.

Canol Tref Wrecsam

Yng Nghanol Tref Wrecsam mae ystyriaethau ychydig yn wahanol yn gymwys ac anaml y gellir dod o hyd i safle gyda digon o barcio cyfleus. Fodd bynnag byddai dibynnu ar barcio ar y stryd yn anfanteisio siopwyr ac ymwelwyr eraill â chanol y dref. Ni chefnogir cynigion yn y prif strydoedd siopa nac mewn strydoedd sy'n rhan o gynigion rheoli traffig. Cefnogir cynigion yn unig pan fod effaith andwyol ar symudiadau cerbydau yn annhebygol (e.e. nid ar ffyrdd prysur na ger cyffyrdd) nac ar barcio (e.e. gellir ffafrio safle ar linellau melyn sengl).

Ffiniau Anheddiad

Yn unol â pholisïau sefydledig ni fydd yn dderbyniol i osod swyddfeydd llogi preifat ar dir tu allan i aneddiadau fel y diffinnir yn y Cynllun Lleol.

Rhestr Wirio

  • Bod angen caniatâd cynllunio i redeg gwasanaeth llogi ceir preifat o dý.

  • Pan fo caniatâd cynllunio yn cael ei roddi mewn ardaloedd o ddefnydd cymysg, y bydd am gyfnod o flwyddyn ar y dechrau er mwyn cadw golwg ar ei effaith.

  • Gosodir amodau i reoli trefniadau llogi, y ddarpariaeth barcio, oriau gweithredu a'r nifer o gerbydau.

  • Mae'n annhebygol y dyfarnir caniatâd cynllunio:-

    a) Lle bydd y safle mewn ardal breswyl a bod mwy nag un cerbyd i ymweld â'r swyddfa;

    b) Lle bydd y parcio oddi ar y stryd sy'n gysylltiedig â'r safle yn annigonol ar gyfer cyfanswm y cerbydau sy'n debygol o fod yn rhedeg ohoni ar unrhyw adeg;

    c) Lle bydd y rhwydwaith ffyrdd o safon na all dderbyn y traffig ychwanegol fyddai'n cael ei gynhyrchu.

  • Mewn canolfannau siopa cylch bydd angen parcio digonol oddi ar y stryd o dan reolaeth yr ymgeisydd ar gyfer yr holl gerbydau sy'n debygol o fod yn rhedeg ar unrhyw adeg.

  • Yng Nghanol Tref Wrecsam caiff cynigion eu barnu ar eu heffaith ar rediad traffig a diogelwch a pharcio. Ni chefnogir cynigion sy'n debygol o anfanteisio defnyddwyr eraill canol y dref drwy ddefnyddio parcio cyhoeddus cyfyngedig.

Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam LL11 1WL.

E-bost: Planning@wrexham.gov.uk

Ffôn: 01978 292017
Ffacs: 01978 292502

Mabwysiadwyd Ebrill 1993

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 8 - Cerbydau Llogi Preifats

Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.

Canllaw Rhif 8 - Cerbydau Llogi Preifats - fformat PDF 132kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint