skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 9 - Bwytai, Tafarnau, Bwytai Bwyd Parod Poeth

 

Un o gyfres o ganllawiau cynllunio lleol yw hwn sy'n ymhelaethu ar gynigion cynllunio lleol ar ffurf eglur a chryno gyda'r bwriad o wella rheoli datblygiad. Paratowyd a mabwysiadwyd canllawiau sy'n dilyn gan y Cyngor i wella rheoli datblygu.

O nodi'r cyngor syml sydd yn y daflen hon y gobaith yw y bydd gan ddatblygwyr well dealltwriaeth o ofynion a goblygiadau lleoliadol a gweithredol bwytai a bwytai bwyd parod.

Nid oes gobaith i'r canllawiau hyn ymdrin â phob agwedd a chynghorir ymgeiswyr a pherchenogion, pryd bynnag y bydd yr amgylchiadau'n anarferol, i drafod eu cynigion gyda swyddog cynllunio cyn gwneud cais cynllunio ffurfiol.

Cefndir

Mae cynllunio trefol yn ceisio rheoli datblygu newydd er mwyn osgoi aflonyddu ar eiddo cyfagos. Gall bwytai, tafarnau a bwytai bwyd parod effeithio'n andwyol ar y gymdogaeth drwy aflonyddwch ar adegau pan fydd y trigolion am fwynhau heddwch a distawrwydd.

Ar yr adegau hyn gall y busnes ei hun beri niwsans (e.e. swn, arogleuon o geginau) a hefyd drwy i gwsmeriaid ymgynnull tu allan, tanio peiriannau ceir, agor a chau drysau ceir. Rhaid ystyried hefyd y parcio, mynediad i gerbydau a diogelwch ar y ffordd sy'n berthynol i fwytai, tafarnau a bwytai bwyd parod.

Oriau Agor

Tra bo'r rhan fwyaf o fusnesau, siopau ac ati, yn arfer agor o 9.00yb hyd 5.00yh (neu oriau tebyg), mae sefydliadau bwyd yn tueddu i weithredu yn yr hwyr - yn aml hyd oriau mân y bore wedyn.

Felly, mae'n rhaid cyfyngu yn aml ar yr oriau agor i leihau'r problemau. Fodd bynnag, ni fyddai cyfres o gyfyngiadau amser yn briodol drwy'r Fwrdeistref Sirol gan fod ardaloedd yn amrywio cymaint. Bydd rhes o siopau lleol gyda thai gerllaw yn haeddu oriau mwy cyfyngedig na rhan o ganol y dref na fydd angen unrhyw gyfyngiad o gwbl efallai. Fel rheol, gosodir amodau cynllunio gyda'r amseroedd yn y tabl.

LLEOLIAD

ORIAU AGOR

Canol Tref Wrecsam
(fel y diffinnir yn y Cynllun Lleol)

Dim cyfyngiad

Canolfannau Siopa Cylch

Llun-Sad: 10.00yb - 11.30yh
Sul: 10.00yb - 11.00yh

Rhes o Siopau Lleol

Llun-Sul: 10.00yb - 10.00yh

Barnir unedau siopa unig eraill yn ôl eu teilyngdod

Os yn dderbyniol ar sail bynllunio / amgylcheddol, yn debygol o fod yn 10.00yb - 6.00yh

Lleoliad Cyffredinol

Yng Nghanol Tref Wrecsam dynodir rhai strydoedd fel 'prif strydoedd siopa', ac fel rheol ni chaniateir bwytai / bwytai bwyd parod yno gan mai nod y Cyngor yw cadw'r cymeriad adwerthu ac nid yw bwytai bwyd parod yn aml ar agor am lawer o'r dydd siopa. Ystyrir y strydoedd cyfagos yn llawer mwy addas ar gyfer y fath ddefnydd.

Mewn canolfannau cylch a rhesi siopau lleol, gallant fod yn addas ond bydd y Cyngor am sicrhau na fydd y nifer a/neu'r crynhoad gymaint ag i leihau atyniad yr ardal fel canolfan siopa. I gyrraedd y nod hwn, ni ddylid defnyddio mwy na thraean o wyneb y siopau mewn unrhyw stryd, na dim dwy uned gyfochrog, at ddibenion heb fod yn adwerthu.

Gall unedau siopa eraill unigol chwarae rhan bwysig mewn diwallu anghenion lleol ("siop y gornel"). Dim ond os diwallir yr anghenion lleol gerllaw y bydd yn addas i ddefnyddio'r fath unedau.

Parcio a Mynediad

Bydd llawer o'r busnesau hyn yn dibynnu ar gwsmeriaid mewn ceir. Yn achos bwytai, bydd parcio digonol oddi ar y stryd yn angenrheidiol. Rhaid i leoliad y parcio fod fel na fydd gweithgareddau yn y maes parcio a cherbydau yn gadael y fan ddim yn peri niwsans swn i eiddo cyfagos. Fe all fod achosion lle bydd maes parcio yn perthyn i fusnes arall (e.e. swyddfa) yn wag yn yr hwyr a'i fod ar gael. Yn yr achos hwn, fe all y bydd raid cyfyngu ar yr oriau gweithredu yn unol â hynny.

Mae bwytai bwyd parod yn dibynnu ar barcio byrrach o lawer. I fod yn effeithiol, rhaid iddo fod yn agos iawn at yr eiddo ac yn hygyrch (e.e. cilfan o'i flaen). Mae buarth gwasanaethau tu cefn neu faes parcio cyhoeddus beth ffordd i ffwrdd yn annhebygol o gael ei ddefnyddio. Mae eiddo ar linellau melyn dwbl yn anaddas.

Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam LL11 1WL.

E-bost: Planning@wrexham.gov.uk

Ffôn: (01978) 292017
Ffacs: (01978) 292502

Mabwysiadwyd Hydref 1994

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 9 - Bwytai, Tafarnau, Bwytai Bwyd Parod Poeth

Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.

Canllaw Rhif 9 - Bwytai, Tafarnau, Bwytai Bwyd Parod Poeth - fformat PDF 182kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint