|
Un
o gyfres o ganllawiau cynllunio lleol yw hwn syn ymhelaethu ar gynigion
cynllunio lleol ar ffurf eglur, gydar amcan o wella safonau dylunio.
Mae mannau agored cyhoeddus yn gwneud cyfraniad pwysig i ansawdd bywyd
pobl, gan roddi cyfle i hamddenan anffurfiol a gwella golwg yr ardal.
Felly, paratowyd y cynnig ar canllaw syn dilyn, au mabwysiadu
gan y Cyngor i feithrin safon well o ddylunio ac i egluro dulliau o ariannu
costau cynnal yn y dyfodol. O nodir cyngor sydd yn y daflen hon
y gobaith yw y bydd gan ddatblygwyr well dealltwriaeth o anghenion mannau
agored cyhoeddus au cyllido. Ni all y canllawiau hyn ymwneud â
phob amgylchiad a chynghorir ymgeiswyr ac asiantau, pryd bynnag y bydd
yr amgylchiadaun anarferol, i drafod eu cynigion gyda swyddog cynllunio
cyn gwneud cais ffurfiol.
Safon y Gymdeithas Meysydd Chwarae Cenedlaethol
Maer Gymdeithas Meysydd Chwarae Cenedlaethol (NPFA) wedi cynnig
safon o 6 erw (2.43 hectar) o fannau agored cyhoeddus i bob 1,000 or
boblogaeth gan gynnwys:
-
4 erw (1.62 ha) o feysydd chwarae. Dylair rhain fod yn addas
at ddefnydd yr ifanc ac oedolion; maer cyfleusterau yn cynnwys
lleiniau, lawntiau bowlio, cyrtiau tenis a thraciau athletau.
-
0.5 erw (0.20 ha) o fannau chwarae plant, gydag offer.
-
1.5 erw (0.61 ha) o fannau agored cyhoeddus anffurfiol, fel mannau
chwarae anffurfiol a lleiniau amwynder wedi eu tirlunio.
Gofynion Lleol
Dangosodd arolwg diweddar o fannau chwarae agored cyhoeddus yn y Fwrdeistref
Sirol bod prinder o fannau agored cyhoeddus (yn arbennig meysydd chwarae
a mannau chwarae plant) yn y rhan fwyaf o gymunedau oi gymharu â
safon yr NPFA.
Maer Cyngor yn awyddus, felly, i sicrhau bod:
- bod digon o le agored cyhoeddus yn cael ei ddarparu o fewn datblygiadau
tai newydd.
- y dylai datblygwyr lunio cytundebau cyfreithiol fel y gellir darparu
cyllid yn y dyfodol ar gyfer cynnal a chadw lleoedd agored ac offer
chwarae.
- yn eithriadol, mewn achosion cyfyng priodol, lle mae datblygiadau
newydd yn agos i ddarpariaeth chwarae ac amwynderol y mae'r Cyngor yn
berchen arni, dylai datblygwyr lunio cytundebau cyfreithiol fel y gellir
darparu cyllid i wella, uwchraddio, ychwanegu a chynnal a chadw'r cyfleusterau
presennol yn lle darparu darpariaeth newydd ar y safle.
Ym mhob achos, dylai lle agored cyhoeddus:
-
fod yn berthynol i anheddau ond heb achosi niwsans i drigolion (e.e.
cicio peli yn erbyn annedd). Yn ogystal, dylai lleoliad, dylunio,
cynllun a goleuadau geisio sicrhau tawelwch meddwl ar gyfer defnyddwyr
a lleihau unrhyw gyfle ar gyfer fandaliaeth a throsedd.
-
fod wedi ei ddylunio a'i gynllunio er mwyn ei gadw a'i gynnal yn
hawdd.
-
fod yn ddefnyddiadwy. Ychydig o werth sydd mewn darparu darnau bach
o dir sy'n debyg i safleoedd adeiladu gwag, o ran hamdden neu olwg
ac mae'n anodd eu cynnal yn aml. Mae darparu un lle agored anffurfiol,
trefnedig o faint rhesymol â mannau llai wedi eu tirlunio, lle'n
briodol, yn fwy gwerthfawr.
-
gynnwys llwybrau ffordd cyhoeddus neu hawliau tramwy presennol neu
sefydlu hawliau tramwy newydd.
-
gynnwys a, lle'n bosibl, gwella nodweddion ar y safle, fel tirffurfiau,
coed, gwrychoedd, planhigion, nodweddion dwr a chynefinoedd bywyd
gwyllt.
-
fod wedi ei gynnwys o fewn y safle ac wedi ei gynllunio fel rhan
annatod o'r datblygiad, heblaw am amgylchiadau eithriadol. Mae'n hanfodol
bod y lle agored yn cyfrannu at gymeriad y datblygiad ac nad yw'n
cynrychioli man glaswelltog wedi ei ychwanegu at y datblygiad fel
ôl-ystyriaeth.
-
mewn achos offer chwarae i blant, fod yn weladwy ac wedi ei leoli'n
dda, gyda mynediad diogel i gerddwyr er mwyn sicrhau bod plant bach
yn gallu chwarae'n ddiogel. Dylai offer ac arwynebau chwarae fod wedi
eu cynllunio a'u gosod yn unol â'r safonau diogelwch perthnasol
B.S.E.N. 1176/1177.
-
fod â chynllun derbyniol i'w alluogi i gael ei gynnal a'i
gadw gan y Cyngor yn y dyfodol.
Manylion Cynllun
Mewn rhai achosion, yn enwedig lle mae safleoedd wedi eu dosrannu yn
y cynllun datblygu, mae'n bosibl y bydd yr Adran Gynllunio wedi cynhyrchu
manylion cynllun ar gyfer y safle, sy'n nodi math, cynnwys, lleoliad,
maint ayb y lle agored. Yn yr achosion hyn, mae'n hanfodol cael trafodaethau
cynnar rhwng yr ymgeisydd a'r Adran Gynllunio. Gallai hyn helpu i gyflymu
penderfynu ceisiadau a fyddai fel arall yn agored i oedi os ystyrir bod
y cynigion ar gyfer lle agored cyhoeddus yn anfoddhaol. Bydd y Cyngor
yn edrych yn ffafriol ar unrhyw gynlluniau gwreiddiol ac arloesol sy'n
cael eu cyflwyno, heb ystyried a oes manylion cynllun wedi eu paratoi,
ac sy'n bodloni'r safonau a amlinellir uchod.
Safon y Ddarpariaeth
Bydd y safonau canlynol gan y Cyngor yn helpu i weithio tuag at lefel
o ddarpariaeth o le agored cyhoeddus mewn datblygiadau tai newydd yn unol
â'r safonau NPFA a amlinellir uchod.·
-
Dylid darparu lle agored cyhoeddus ym mhob datblygiad tai ar isafswm
lefel o 0.4 hectar fesul 50 annedd ar gyfer pob cynllun o 10 annedd
neu fwy.
-
Dylai darpariaeth gynnwys man(nau) chwarae ag offer i blant a/neu
lleoedd agored anffurfiol a lle mae'r gofynion lle agored hanfodol
yn 0.6 hectar neu'n fwy, cae(au) chwarae.
Cyllid a Chynnal a Chadw yn y Dyfodol
Bydd gofyn i ddatblygwyr gynnal a chadw'r lle agored cyhoeddus a ddarperir
ar eu safleoedd am gyfnod o ddeuddeng mis o gwblhau'n foddhaol ac, fel
amod i unrhyw gytundeb, rhaid iddynt lunio cytundeb 'swm cyfnewidiol'
cyfreithiol gyda'r Cyngor am gynnal a chadw'r safle yn y dyfodol, am gyfnod
o ddeng mlynedd. Y tâl cyfredol yw £1,000 yr annedd i gynnwys
costau cynnal a chadw ar gyfer cyfnod deng mlynedd. Roedd y tâl
hwn yn gymwys yn Awst 2008.
Lle buasai datblygwyr yn dymuno cynyddu nifer yr anheddau yn hwyrach,
bydd angen cynyddu maint y lle agored a'r swm cyfnewidiol yn unol â
hyn. Bydd y swm cyfnewidiol o £1,000 yr annedd yn agored
i arolwg i sicrhau ei fod yn gyfwerth â chostau cyfredol go iawn.
Mae'n debygol y bydd y ffigwr hwn yn codi gyda chwyddiant. Dylid cysylltu
â'r Adran Gynllunio i wybod beth yw'r ffigwr cyfredol ar adeg y
cais cynllunio. Mae'n well gan rai datblygwyr wneud eu trefniadau eu hunain
ar gyfer cynnal a chadw lle agored. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys sefydlu
cwmni i gyflawni'r gwaith cynnal a chadw a bydd trigolion y datblygiad
yn dod yn gyfranddalwyr. Er nad oes gwrthwynebiad i'r trefniadau hyn mewn
egwyddor, bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod
ei hun ac, yn benodol, bydd angen dangos darpariaeth ar gyfer cynnal a
chadw yn y dyfodol sy'n bodloni'r Cyngor. Lle mae'r trefniadau hyn yn
cael eu cymeradwyo, bydd angen llunio cytundeb priodol gyda'r cyngor sy'n
cynnwys y trefniadau sydd wedi eu cymeradwyo.
Darpariaeth a Chyllid i Ffwrdd o'r Safle
Mewn datblygiadau priodol o lai na 20 annedd, gall yr Awdurdod Cynllunio
lleol gytuno bod darpariaeth chwarae ac amwynderau ag offer digonol dan
berchnogaeth y Cyngor yn agos i'r datblygiad arfaethedig y gellir ei defnyddio
gan y trigolion newydd yn hytrach na chael darpariaeth ar y safle. Dylai
fod yn hawdd ac yn ddiogel mynd at y ddarpariaeth bresennol ac ni ddylai
fod yn rhaid croesi ffyrdd mawr i'w chyrraedd. Yn yr achosion hyn, dylai
datblygwyr lunio cytundeb cyfreithiol gyda'r Cyngor i dalu'r swm cyfnewidiol
y cyfeirir ato uchod. Byddai'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio wedyn i
uwchraddio, gwella, ychwanegu a chynnal a chadw'r ddarpariaeth bresennol
gytunedig.
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam LL11
1AR
E-bost: Planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292013
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Ebrill 1993; diwygiwyd Gorffennaf 1998; diweddarwyd Awst 2008.
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 10 - Mannau Agored Cyhoeddus Mewn Datblygiadau
Tai Newydd
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 10 - Mannau Agored Cyhoeddus Mewn Datblygiadau
Tai Newydd - fformat PDF 114kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Parciau a Meysydd Wrecsam
7 - Tirlunio
17 - Coed a Datblygiad
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|