|
Mae
amryw o ddeiliaid a datblygwyr yn gwneud newidiadau i eiddo heb ystyried
yr effaith ar eiddo cyfagos a golwg y stryd. Maer daflen hon yn
ceisio tynnu sylw at werth tai teras ac ansawdd a chyfoeth y manylion
hynny syn werth eu cadw. Maen arbennig o bwysig fod y gwerth
hwn yn cael ei gydnabod, gan mai grym cyfyngedig sydd gan y Cyngor i reoli
newidiadau i olwg allanol tai.
Cefndir
Tyfodd poblogrwydd tai teras yn ystod y ganrif ddiwethaf fel dull o gartrefu,
am bris isel, y dylifiad o bobl o gefn gwlad ar pentrefi gwledig
ir dref. Yn niwedd y 19eg ganrif yn arbennig bu cryn lewyrch yng
nghyfoethogrwydd ac addurniad mewn tai teras na welwyd ei fath wedyn.
Mae nifer fawr or rhesdai hyn wedi goroesi yn y dref gan roddi cymeriad
unigryw ir ardal.
Fodd bynnag, nid oes un or tai teras hyn or 19eg ganrif yn
parhau fel tai. Yr oedd dyfodiad y rheilffyrdd, deddfau iechyd y cyhoedd
ac ymlediad masnach i gyd yn elfennau yn nifodiant tai teras canol y dref
a symud y trigolion allan.
Fodd bynnag, mae tai teras wedi parhaun yn boblogaidd ymysg perchenogion
tai ac fe welir enghreifftiau modern ar safleoedd llanw ac fel rhan or
gymysgedd dai mewn datblygiadau newydd ar ymyl y dref. Yn anffodus, dim
ond yn gymharol ddiweddar mae datblygwyr wedi gweld gwerth nodweddion
addurnol ac addurnedig i wellar olwg allanol.
Cyfoeth ac Amrywiaeth
Cyfoeth ac amrywiaeth y manylion ar nodweddion arbennig ynghyd
ag amrywiaethau yn y ffurf tai teras sylfaenol syn rhoddi cymeriad
arbennig ir ardal. Yn gyffredinol dawr gwaith manwl hwn o
fedrau a deunyddiau sydd ar gael yn lleol.
Yn aml cymrir y nodweddion hyn yn ganiataol ond, ou symud neu eu
newid yn ddigydymdeimlad, gellir effeithion ddramatig ar olwg yr
adeilad, gan mwyaf er colled ir tai teras a golwg y stryd. Maer
canlynol yn rhestr wirio o nodweddion allweddol, gyda chanllawiau os bwriedir
addasu:-
Bricwaithyw un or nodweddion allweddol lleol, fel rheol
yn gynnyrch y gweithfeydd brics fyddai ir de or dref. Maent
yn ddieithriad o liw coch neilltuol gyda gorffeniad gloyw. Gwneir llawer
o ddefnydd o addurnwaith
terra-cotta un ai mewn cyrsiau stribed neu ar ffurf cribau a therfyniadau.
Os bydd problem gydar bricwaith dylid chwilio i bob dewis arall
cyn gorchuddio neu beintior brics. Yn aml, gall ail-bwyntio ddatrys
amryw o broblemau lleithder treiddiol. Bydd torri ar gwrs stribed fel
rheol yn creu golwg datgymalog anfoddhaol.
Toeau a Simneiau Ar adeiladau hyn maer toeaun anochel
wedi eu gorchuddio â llechi. Fel rheol maer deunydd hwn yn
effeithiol am o leiaf 100 mlynedd ond, os bydd angen ei ailosod, bydd
golwg y ty ar teras yn elwa bob tro o ddefnyddio llechi naturiol.
Erbyn heddiw mae simneiau yn aml yn nodwedd ddiangen ond gallant wneud
cyfraniad sylweddol tuag at yr olwg oherwydd manylwaith addurnol ar
effaith o dorri ar linell y to.
Waliau a chlwydi blaendylid eu cadw lle gellir. Heblaw eu bod
yn nodweddion deniadol ynddynt eu hunain, maent yn helpu i roi undod i
deras ac yn creu rhaniad rhwng mannau cyhoeddus a phreifat. Os bydd waliau
yn cynnal gwaith haearn, gall hyn fod yn fonws. Gall plannu tu cefn ir
wal helpu i ymdoddi a phersonoli tai unigol, fel y gall peintio clwydi
a
rheiliau mewn lliw i gyd-fynd âr ty.
Arddull ffenestrigall hyn au trefn ar yr adeilad (ffenestriad)
fod yn allweddol i olwg y rhes gyflawn. Mae gan ffenestri codi fel rheol
bwyslais fertigol gydar capan (top) ar sil (gwaelod) yn rhoddi
fframwaith manwl.
Mae cwarelau mawr o wydr yn gweddun dda ir ffurf. Mewn rhesdai
hyn byddai ffenestri yn cael eu gosod yn ddyfnach yn yr agoriad nag a
wneir yn awr. Mae hyn yn rhoi golwg dymunol o ddyfnder a chadernid ir
blaen drwy effaith cysgodion. Bydd newid yr arddull bron bob tro yn creu
effaith llai dymunol. Gellir trwsio ac atgyweirio ffenestri codi, gan
ychwanegu gwydru dwbl os bydd ei angen. Mae gorffeniad o baent, er enghraifft
gyda gwyn ir ffenestri codi a ffrâm o liw tywyllach, yn mynd
yn dda gyda bricwaith coch. Rhaid cadw manylion y sil ar capan i
fframio agoriad y ffenestr.
Drysau a chynteddau yn aml maent yn gweithio fel canolbwynt ar
wyneb adeilad. Maen anffodus iawn, felly, os difethir y nodwedd
hon gan newidiadau anaddas. Gall yr effaith gael ei chwyddo os gwneir
newidiadau
anghydweddol i bob ty yn y rhes. Nodweddion allweddol i fod yn ymwybodol
ohonynt yw arddull y drws, gorffeniad y paent, offer drws,
gwydr lliw, ac unrhyw nodweddion amgylchu fel canopïau a chynhalbyst.
Dylid cadw mynedfeydd wedi eu teilio yn agored, lle gellir, i fod yn rhan
o olwg yr adeilad. Mae bron bob amser yn well ceisio trwsio drws wreiddiol
yn hytrach nai gyfnewid am un modern.
Diweddglo
Mae awydd naturiol ymysg perchenogion tai i bersonoli eu cartrefi, ond
dylid cofio bod golwg allanol ar un ystyr yn eiddo cyhoeddus, a dylid
gofalu peidio anghytbwysor teras gydag addasiadau anghydweddol.
Dylid cofio hefyd nad yw gwelliannau anaddas, yn cynnwys colli
manylion a chyfoeth gwreiddiol, bob amser yn codi gwerth y ty, ac fe all
fod yn anoddach ei werthu.
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam LL11
1WL.
E-bost: Planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292019
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Tachwedd 1991
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 11 - Rhesdai yn Wrecsam
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 11 - Rhesdai yn Wrecsam - fformat PDF 216kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
19 - Ardaloedd Cymeriad Tref Wrecsam
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|