skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 12 - Wyneb Siopau

 

Un o gyfres o ganllawiau cynllunio lleol yw hwn sy’n ymhelaethu ar gynigion cynllunio lleol ar ffurf eglur a chryno gyda’r amcan o wella safonau dylunio.

Croesawir dylunio da ymhob man ac mae’r egwyddorion yn y canllaw hwn yn gymwys drwy’r Fwrdeistref Sirol. Paratowyd a mabwysiadwyd y canllawiau a ganlyn gan y Cyngor i feithrin safon well o ddylunio. O nodi’r cyngor syml sydd yn y daflen hon y gobaith yw y bydd datblygwyr a pherchenogion siopau yn sylweddoli’r angen am gynlluniau dylunio deniadol at drwsio neu wella wyneb siopau a’u hysbysebion perthynol, ac yn cynnwys nodweddion angenrheidiol ar adeg ceisiadau cynllunio. Nid yw’n dileu’r angen am gyngor pensaernïol medrus.

Mae’r term "wyneb siop" yn cyfeirio at y cyfan o ddrychiad stryd yr adeilad o’r pafin i’r to ac ar draws ei led cyfan ac nid y ffenestr arddangos a’i ffrâm yn unig; mae "hysbysebion" yn cyfeirio at ddeunydd hysbysebu ar wyneb siopau yn unig– ni fwriedir iddo drafod unrhyw fath arall o hysbysebu o dan amgylchiadau eraill.

Nid oes gobaith i’r canllawiau ymdrin â phob agwedd a chynghorir ymgeiswyr ac asiantau, pryd bynnag y bydd yr amgylchiadau’n anarferol, i drafod eu cynigion gyda swyddog cynllunio cyn gwneud cais ffurfiol. Ystyrir y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd gyda golwg ar y cynigion canlynol.

Egwyddorion Cyffredinol

Prif atyniad y treflun lleol yw cymeriad ei adeiladau a’i strydoedd. Mae dylunio o safon yn gaffaeliad, drwy beri balchder a phleser i lawer ac mae’n elfen ychwanegol at wella atyniad masnachol yr ardal. I gadw’r fantais hon, neu hyd yn oed ei hail greu, rhaid i bob adeilad gyfrannu at gymeriad arbennig y stryd, neu fe fydd erydiad parhaol ar atyniad unigryw yr adeiladau nes iddynt gael eu cyfnewid am dreflun digymeriad o apêl gyfyngedig.

I sicrhau bod golwg y stryd ac atyniad pob adeilad yn cael ei gadw, dylid ystyried yr egwyddorion dylunio canlynol:

Wynebau Siopau

Ni fydd y Cyngor yn caniatáu dileu wyneb siop sydd yn cyfrannu ar hyn o bryd i gymeriad yr adeilad neu’r cylch.

Ni fydd y Cyngor yn rhoddi caniatâd cynllunio am wynebau siop newydd os nad yw’r cynnig yn cyd-fynd â golwg yr adeilad a’r stryd o gwmpas.

Ni ddylai cynigion:

  • newid hierarchaeth naturiol golwg y stryd;

  • geisio tynnu sylw tu hwnt i derfynau safonol;

  • newid pwyslais fertigol yr adeilad a greir gan drefniant y drysau, y ffenestri a’r agoriadau.

Ni fydd dyluniadau blaen siopau safonol yn dderbyniol ond mewn achosion eithriadol ac os byddant yn gweddu i’r adeilad a’r stryd arbennig dan sylw.

Mae’n well cadw dyluniad gwreiddiol blaen siopau, ffenestri codi a drysau na’u cyfnewid am rai modern..

Deunyddiau

Dylai’r dewis o ddeunydd adlewyrchu cymeriad yr adeilad a’r tirlun o gwmpas.

Dylai’r manylion lliwio ac arddull a ddefnyddir gyd-fynd â’r adeilad a’r cylch.

Dylid defnyddio / cynnal manylion addurnol i greu diddordeb ac amrywiaeth.

Dylai’r ffasgia barchu maint, maintioli a dyluniad yr adeiladau unigol gan dalu sylw arbennig:

  • ddyfnder y ffasgia mewn perthynas i’r adeilad;

  • i beidio cuddio ffenestri’r llawr cyntaf gyda’r ffasgia ac;

  • iddo beidio ymestyn yn ormodol tu hwnt i weddill blaen y siop.

Hybir dyluniad sy’n "fframio" y ffenestr arddangos i sicrhau bod soletrwydd gweledol yn cael ei gadw ac yn annog y llygad i symud tuag at fynedfa’r siop.

Hysbysebion

Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau na fydd hysbysebion yn effeithio’n andwyol ar bensaernïaeth yr adeiladau a’r cylch cyfagos a’u bod yn cael eu dylunio i wella golwg yr ardal.

Dylid cyfyngu hysbysebion fel rheol i hysbysebu "er gwybodaeth" – enw’r cwmni, y math o fusnes sydd yno a’r cynnyrch a werthir. Ni chaniateir hysbysebion "hyrwyddo".

Dylid bod yn ofalus wrth ddewis llythreniad, lliw a deunyddiau mewn perthynas â’r adeilad a’r cylch.

Dylai arwyddion ffasgia ategu’r adeilad presennol a dylai eu maint a’u safle adlewyrchu adeiladau cyfagos a golwg y stryd yn gyffredinol.

Mae arwyddion i fod heb eu goleuo os na fydd oriau agor yn gofyn am hynny.

Pan yn briodol, caniateir arwyddion crogi bargodol traddodiadol a dylid eu cyfyngu i un i bob adeilad, os nad yw’r siop yn wynebu ar ddwy stryd. Ni ddylent fod uwchlaw’r ffasgia.

Asesir arwyddion blaengwrt drwy sylwi ar eu heffaith ar amwynderau gweledol ac iddynt beidio ychwanegu at "annibendod". Mewn ardaloedd siopa gwrthwynebir arwyddion sy’n sefyll yn allanol gan eu bod yn rhwystr i symudiad, yn enwedig i’r anabl a’r henoed.

Am fwy o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â’r:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam, LL11 1WL

E-bost: Planning@wrexham.gov.uk

Ffôn: 01978 292017
Ffacs: 01978 292502

Mabwysiadwyd Hydref 1993

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 12 - Wyneb Siopau

Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.

Canllaw Rhif 12 - Wyneb Siopau - fformat PDF 182kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


1 - Hysbysebion

18 - Diogelwch Blaen Siop

Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint