skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 13 - Tai Yng Nghefn Gwlad

 

Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn esbonio'r ymagwedd y mae'r Cyngor yn ei chymryd tuag at ymdrin â chynigion ar gyfer datblygiadau tai yng nghefn gwald. Mae'n cefnogi ac yn amlygu'r polisïau perthnasol (yn arbennig GDP1, H3, H4, H5, H8 a H10) a gynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol Wrecsam.

Bydd y nodyn yn ffurfio ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar y ceisiadau cynllunio.

Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn ymdrin â'r agweddau canlynol ar dai yng nghefn gwlad:-

Rhan 1: Datblygiad priodol;
Rhan 2: Estyniadau i anheddau;
Rhan 3: Dyluniad a gosodiad;
Rhan 4: Datblygiad a ganiateir;
Rhan 5: Gwybodaeth ofynnol i gyd-fynd â'r cais cynllunio.

Cefndir

Mae polisïau cenedlaethol a lleol yn gosod rheolau llym ar gyfanswm datblygiadau tai newydd mewn cefn gwlad agored. Mae'r polisïau hyn yn berthnasol i ardaloedd sydd wedi'u dynodi yn ffurfiol gan gynnwys rhwystrau gwyrdd; ardaloedd â thirluniau arbennig; a safleoedd o ddiddordeb bioamrywiaeth; ac i dir arall nad yw'n cael ei amddiffyn yn benodol. Y nod yw amddiffyn cefn gwlad agored oherwydd ei bwysigrwydd fel rhan o dreftadaeth y tirlun; fel cynefin naturiol; ac i sicrhau bod y tir amaethyddol gorau'n cael ei gadw fel adnodd cenedlaethol ar gyfer y dyfodol.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn cydnabod y gellir darparu tai newydd yng nghefn gwlad mewn amgylchiadau cyfyngedig, heb niweidio'r amgylchedd. Yn wir, gall tai newydd mewn ardaloedd gwledig helpu i gefnogi siopau, ysgolion a gwasanaethau lleol eraill. Gallant helpu i gynnal yr economi leol a hyrwyddo cymunedau gwledig hunan-gynaliadwy.

Rhan 1 - Datblygiad priodol

Mae chwe chategori o ddatblygiadau tai newydd a allai fod yn dderbyniol yng nghefn gwlad. Fodd bynnag, nid yw'r ffaith eich bod yn gynwysedig yn un o'r categorïau hyn yn golygu y cewch ganiatâd cynllunio o reidrwydd. Er enghraifft, efallai y bydd manylion y safle, dyluniad neu ystyriaethau eraill yn gwneud cynlluniau penodol yn annerbyniol.

Y chwe chategori yw:-

1 Tai ar gyfer gweithwyr hanfodol

Fel arfer, mae angen i rywfaint o staff gweithrediadau amaethyddol neu goedwigaeth fod yn bresennol bob amser. Os nad yw nifer y tai presennol sydd ar gael yn ddigonol (neu os nad oes unrhyw dai ar gael ar gyfer menter newydd) gallai annedd newydd fod yn dderbyniol. Fodd bynnag, cyn cymeradwyo unrhyw gynigion, rhaid i'r Cyngor fod yn sicr bod:-

  • angen swyddogaethol i'r gweithiwr/gweithwyr dan sylw fod ar gael yn rhwydd;
  • y fenter yn ddichonadwy yn economaidd; a bod
  • graddfa a dyluniad yr annedd arfaethedig yn gynaliadwy.
Bydd angen nodi cyfiawnhad am annedd newydd mewn arfarniad manwl a gyflwynir o blaid y cais cynllunio. Cynhwysir gwybodaeth ar sut i baratoi arfarniad yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 2 : Arfarniadau Amaethyddol.

Yn achos mentrau newydd, gall y Cyngor ystyried rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer ty ar ffurf dros dro. Byddai hyn yn rhoi cyfle i ddarganfod p'un a yw'r fenter yn ddichonadwy.

2 Adleoli anheddau

Mewn egwyddor, gellir codi annedd newydd i gymryd lle annedd arall. Fodd bynnag, mae'r cyfyngiadau canlynol yn berthnasol:-

  • rhaid i'r annedd bresennol fod yn gyfanheddol ar ei ffurf bresennol neu dylai fod modd ei wneud yn gyfanheddol heb unrhyw waith adeiladu sylweddol. Ni fydd adeilad sydd wedi dymchwel neu adfail yn gymwys i'w adleoli.
  • gellir adleoli annedd ar sail un-am-un yn unig;
  • ni ddylai maint yr annedd newydd fod yn fwy nag un rhan o dair yn fwy na'r annedd bresennol - y nod yw darparu ty ar lefel sy'n bodloni dyheadau byw rhesymol y preswylwyr gan ddiogelu'r cefn gwlad rhag datblygiad diangen a thu hwnt i'r raddfa;
  • er yr anogir tynnu adeiladau allanol anneniadol, ni fydd eu bodolaeth na'u maint yn cael eu derbyn fel "lwfans datblygiad safle" wrth asesu'r achos ar gyfer annedd newydd mwy;
  • ni chaniateir adleoli annedd sydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol;
  • fel arfer, dylai'r annedd newydd fod yn yr un lleoliad â'r annedd bresennol - fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, efallai y bydd lleoliad gwahanol o fewn yr un cwrtil yn dderbyniol os yw hyn yn datrys cyfyngiad cynllunio allweddol (er enghraifft, datrys mater diogelwch priffyrdd, lliniaru perygl o lifogydd neu wella amwynder gweledol).

3 Datblygiad mewnlenwi

Mae grwpiau arunig o anheddau yng nghefn gwlad ac mae rhai (ond nid pob un) yn ffurfio tir blaen wedi'i adeiladu a'i ddiffinio'n glir wrth briffordd. Fel arfer, gellir mewnlenwi bwlch bach o fewn tir blaen tebyg ag un, neu ddau annedd ar y mwyaf, heb effeithio'n ddrwg ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal. Fodd bynnag, wrth ystyried ceisiadau am ddatblygiad mewnlenwi, bydd y Cyngor yn gosod y cyfyngiadau canlynol:-

  • ni chaiff anheddau sydd wedi'u gosod oddi ar y briffordd o fewn gerddi mawr eu gweld fel tir blaen wedi'i adeiladu;
  • rhaid i'r annedd arfaethedig fod ar raddfa debyg i'r rhai sy'n rhan o'r grwp tir blaen cyfan;
  • rhaid i'r safle arfaethedig fod yn fach ac ni fydd yn lletach nac yn ddyfnach na'r gerddi cyfagos - ni fydd annedd unigol yng nghanol llain mawr yn gymwys fel mewnlenwi;
  • ni ddylai cwrtilau ymestyn y tu hwnt i gwrtilau anheddau cyfagos;
  • dylid cadw llinell tir blaen yr anheddau presennol;
  • rhaid cyrraedd y safonau a gynhwysir yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 21 : Lle o amgylch annedd.

4 5 Tai fforddiadw

Mae'r Cyngor yn ymwybodol bod angen tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, rhaid i'r rhain fod yn gytbwys â'r angen i warchod cefn gwlad. Mae'r Cynllun Datblygu Unedol yn mynd i'r afael â'r mater hwn trwy ganiatáu, mewn amgylchiadau penodol, adeiladu hyd at bump o dai fforddiadwy ar safleoedd y tu allan ond ar ffiniau cyfyngiadau aneddleoedd. Cynhwysir gwybodaeth bellach yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 28 : Tai fforddiadwy.

Er hynny, cymerir i ystyriaeth yr angen i gadw a chynyddu, lle bo hynny'n bosibl, y cyflenwad o dai gwledig fforddiadwy wrth asesu cynigion am ddatblygiad preswyl o fewn categorïau 1,2, 3, 5 a 6.

5 Trosi adeiladau

Mewn amgylchiadau penodol, gall trosi adeiladau gwledig yn anheddau ddarparu tai o ansawdd uchel heb effeithio'n ddrwg ar gymeriad ac ymddangosiad y cefn gwlad. Cynhwysir cyngor manwl pellach yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 3: Trosi adeiladau gwledig.

6 Is-rannu anheddau

Mewn egwyddor, bydd is-rannu annedd yng nghefn gwlad i ffurfio dwy neu fwy o unedau llai fel arfer yn dderbyniol, cyn belled â bo:-

  • cymeriad yr adeilad presennol, yn arbennig adeilad o bwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol, yn aros yr un fath heb newidiadau arwyddocaol;
  • cwrtil domestig digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer pob eiddo newydd;
  • yr israniad yn golygu nad oes problemau parcio neu ddiogelwch priffyrdd.
  • Rhan 2 - Estyniadau i anheddau

    Caiff estyniadau i anheddau yng nghefn gwlad eu caniatáu mewn achosion priodol. Cynhwysir cyngor manwl am y materion y bydd y Cyngor yn eu cymryd i ystyriaeth wrth ystyried cynigion am estyniadau yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 20 : Estyniadau tai.

    Fodd bynnag, oherwydd eu heffaith weledol bosibl, bydd graddfa estyniadau ar anheddau yng nghefn gwlad yn ystyriaeth arwyddocaol arbennig. Felly, bydd y canllawiau canlynol yn berthnasol:-

    • Rhaid i estyniad fod yn amlwg yn ategol i'r annedd wreiddiol ac ni ddylai arwain at gynnydd o fwy nag un rhan o dair yn arwynebedd llawr yr annedd wreiddiol*. Yn y mwyafrif o achosion, bydd estyniadau hyd at y maint hwn yn darparu cydbwysedd rhesymol rhwng darparu arwynebedd llawr ychwanegol a chynnal ystod eang o letyau dai gwledig;
    • Bydd estyniadau sy'n arwain at gynnydd o fwy nag un rhan o dair o arwynebedd llawr yr annedd wreiddiol* yn briodol:-
      (a) yn achos anheddau bach lle mae'r lle ychwanegol yn hanfodol er mwyn cyrraedd safonau modern; a
      (b) lle y gellir cyflawni dyluniad o ansawdd uwch sy'n cyd-fynd yn well â chymeriad yr annedd wreiddiol;
    • Caiff maint estyniadau eu cyfyngu i lai nag un rhan o dair o arwynebedd llawr yr annedd wreiddiol* lle y byddai datblygiad adeiladu ychwanegol yn cael effaith niweidiol ar ymddangosiad yr adeilad presennol neu ei amgylchedd. Mae'n debyg mai dyma fydd yr achos:-
      (a) gydag anheddau mawr;
      (b) os yw'r annedd wreiddiol wedi cael estyniad blaenorol;
      (c) os caiff yr annedd ei greu trwy drosi adeilad pan fydd y pwyslais ar gadw estyniadau i'r lleiafswm (gweler Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 3).

      *Arwynebedd y llawr gwreiddiol yw'r arwynebedd llawr a fodolai yn yr annedd ar 1 Gorffennaf 1948; neu, os adeiladwyd yr annedd ar ôl hynny, yr arwynebedd llawr ar yr adeg y cafodd ei hadeiladu gyntaf. Yn y naill achos neu'r llall, dylid cyfrifo maint y llawr trwy fesur dimensiynau mewnol pob llawr a ddefnyddir, heb gynnwys gofod yn y to ond yn cynnwys garejys ac adeiladau allanol eraill o fewn 5 metr i'r annedd.

    • Caiff cynigion ar gyfer garejys newydd ac adeiladau allanol parhaol eraill eu trin fel estyniadau i'r eiddo ac asesir eu graddfeydd gan gymryd y cyfyngiadau uchod i ystyriaeth;
    • Rhaid i'r garejys fod yn gymesur ag anghenion yr annedd ac anaml y bydd amgylchiadau lle y gellir cyfiawnhau lle ar gyfer mwy na dau gar i bob annedd;
    • Ni fydd blociau garejys trefol yn briodol;
    • Ni fyddai estyniad y gellir ei addasu'n rhwydd i fod yn annedd newydd ar wahân yng nghefn gwlad yn cydsynio â'r cynllun datblygu ac ni chaiff ei ganiatáu;
    • Mae'n bosibl na fyddai cynigion ar gyfer estyniadau olynol i'r un annedd yn cael eu caniatáu pe bai eu heffaith cronnus yn dinistrio cymeriad ac ymddangosiad yr adeilad gwreiddiol;

    Rhan 3 - Dyluniad a gosodiad

    Bydd dyluniad, graddfa a gosodiad tai newydd, tai adleoli ac estyniadau yng nghefn gwlad yn ystyriaeth allweddol wrth bennu p'un a yw datblygiad arfaethedig yn dderbyniol. Felly, dylai datblygiadau gymryd i ystyriaeth amwynderau gweledol ac ansawdd y tirlun a cheisio gwneud cyfraniad mwy cadarnhaol i ymddangosiad ardaloedd gwledig y Fwrdeistref Sirol.

    Rhaid i'r dyluniadau fod ar raddfa a chymeriad sy'n briodol i'r ardal leol. Yn gyffredinol, mae'n debyg mai dyluniadau sy'n adlewyrchu cymeriad cynhenid anheddau eraill yn yr ardal o amgylch safle'r cais sydd fwyaf priodol.

    Fodd bynnag, caiff dyluniadau arloesol o ansawdd uchel sy'n dangos dealltwriaeth gydymdeimladwy o'r tirlun presennol eu hystyried.

    Yn arbennig, dylai'r cynigion:-

    • ystyried eu lleoliad yn y tirlun - ni fydd tai trefol yn dderbyniol;
    • geisio defnyddio prif ddeunyddiau traddodiadol yr ardal;
    • fod yn briodol ar gyfer maint y darn o dir a pheidio ag arwain at or-ddatblygu'r safle;
    • gadw nodweddion gwreiddiol y safle megis waliau, gwrychoedd ar ochr ffyrdd a choed aeddfed;
    • beidio ag arwain at broblemau mynediad neu beryglon i ddiogelwch priffyrdd;
    • yn achos estyniadau, parchu graddfa, cyfrannedd, ffurf a manylion yr adeilad gwreiddiol;
    • mewn achosion o adleoli anheddau, ceisio cadw meintiau cyffredinol yr adeilad gwreiddiol a defnyddio deunyddiau tebyg - fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle nad yw'r deunyddiau presennol yn gydymdeimladwy â'r ardal leol, fe'ch anogir i ddefnyddio deunyddiau eraill;
    • beidio â gofyn am estyniad i gwrtil preswyl presennol;
    • beidio â difrodi nodweddion o werth hanesyddol, bioamrywiaeth neu gadwraeth
    • lle bynnag y bo hynny'n ymarferol, defnyddio deunyddiau hydraidd ar arwynebau'r ddaear er mwyn lleihau dwr ffo.

    Rhan 4 - Datblygiad a ganiateir

    Fel arfer, caniateir i ddeiliaid y ty ymgymryd â gwaith adeiladu bach amrywiol a/neu newidiadau eraill i'w hanheddau heb orfod cael caniatâd cynllunio.

    Fodd bynnag, mewn lleoliad cefn gwlad, gall hyd yn oed gwaith bach gael effaith weledol sylweddol. Os rhoddir caniatâd ar gyfer datblygiad preswyl (p'un a yw ar gyfer annedd newydd neu ar gyfer trosi neu estyn adeilad presennol) caiff yr hawliau datblygu hyn a ganiateir eu tynnu o'r herwydd.

    Y bwriad yw atal annibendod mewn gerddi, golau diangen a strwythurau domestig eraill rhag casglu. Mae'r rhain yn nodweddion maestrefol ac felly nid ydynt yn briodol mewn lleoliad cefn gwlad.

    Efallai y caiff gwaith bach ei ganiatáu ar ôl hynny, ond bydd angen cais cynllunio i wneud y rhain.

    Rhan 5 - Gwybodaeth ofynnol

    Caiff ceisiadau am ganiatâd cynllunio amlinellol eu hystyried os yw'r datblygiad arfaethedig wedi'i gyflwyno i ddarganfod:-

    • p'un a ellir cefnogi annedd ar gyfer gweithiwr hanfodol; neu
    • p'un a yw'r safle ar ddarn o dir mewnlenwi derbyniol; neu
    • p'un a fyddai tai fforddiadwy yn cael eu caniatáu ar ymyl anheddiad

    Dylai unrhyw gynigion eraill ar gyfer:-

    • anheddau newydd (gan gynnwys y manylion ar gyfer gweithwyr hanfodol);
    • adleoli anheddau;
    • is-rannu anheddau;
    • trosi adeiladau yn anheddau; ac
    • estyniadau i anheddau

    fod yn geisiadau am ganiatâd cynllunio llawn. Dylai'r ceisiadau hyn gynnwys gwybodaeth gefnogol i alluogi'r Cyngor i asesu effaith y cynigion ar gefn gwlad. Dylai'r wybodaeth gynnwys:-

    • cynlluniau a gweddluniau manwl o unrhyw adeiladau presennol a effeithir gan y datblygiad;
    • cynlluniau a gweddluniau manwl o'r holl waith adeiladu newydd;
    • cynlluniau ac atodlenni yn dangos unrhyw rannau sydd wedi'u trwsio, wedi dymchwel ac/neu wedi'u hail-adeiladu;
    • manylion lefelau presennol ac arfaethedig y safle;
    • cynlluniau tirluniau a manylion o leoedd agored;
    • mewn cynlluniau cadwraeth, croestoriadau yn dangos y lefelau llawr presennol a'r rhai arfaethedig;
    • manylion y modd y bydd y datblygiad yn cydymffurfio ag egwyddorion adeiladu cynaliadwy (gweler Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 22 : Adeiladau Cynaliadwy).

    Am wybodaeth bellach a ffurflenni cais, cysylltwch â'r:

    Prif Swyddog Cynllunio,
    Stryt y Lampint,
    Wrecsam,
    LL11 1AR.

    Ffôn: (01978) 292016
    Ffacs: (01978) 292502

    E-bost: Planning@wrexham.gov.uk

    Mabwysiadwyd Mawrth 2006

    Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 13 - Tai Yng Nghefn Gwlad

    Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.

    Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 13 - Tai Yng Nghefn Gwlad - PDF fformat 174kb

    I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

    Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

    Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


    2 - Arfarniadau amaethyddol

    3 - Trosi adeiladau gwledig

    7 - Tirlun a datblygiad

    14 - Estyniadau gerddi

    16 - Parcio

    17 - Coed a datblygiad

    20 - Estyniadau tai

    21 - Lle o amgylch anheddau

    22 - Adeiladau cynaliadwy

    28 - Tai fforddiadwy

    Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol

     
    English
     

    Cyswllt i

    Rheoli Cynllunio
    Rheoli Adeiladu
    Grantiau Adeiladu
    Cynllunio Amgylchedd
    Polisi Cynllunio
    Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
    Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
    Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
    Daflenni Gwybodaeth
    Ffurflenni Cais Cynllunio
    Cysylltwch â Cynllunio
    Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
     
             
         
    Yn ôl i'r brig

    Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
    Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     

     
     


    CBSW
    Hawlfraint