|
Mae
angen caniatâd cynllunio i ymestyn gardd ty ar dir a ddefnyddir
at ddiben arall. Mewn ardaloedd adeiledig, bydd cynigion i ymestyn gerddi
fel rheol yn cynnwys tir a ddatblygwyd eisoes, sydd yn segur neu'n wag.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cynigion hyn yn cydymffurfio â
pholisïau cynllun datblygiad
y Cyngor ac yn debygol o fod yn dderbyniol mewn egwyddor: yn wir, gallant
fod ag effaith gadarnhaol ar olwg y gymdogaeth.
Yng nghefn gwlad, fodd bynnag, rhaid ystyried cynigion i ymestyn gerddi
yng nghyd-destun rhychwant ehangach o bynciau cynllunio. Mae'r Cyngor
yn ymroddedig i gynnal cymeriad a golwg cefn gwlad a'i warchod rhag datblygiad
anaddas. Drwy ehangu cwrtilau preswyl, newid ffiniau lleiniau a dod â
defnydd domestig i dir oedd gynt yn dir amaeth, gall ymestyn gerddi fod
â chryn effaith weledol. Mewn amryw o achosion, mae'r fath estyniadau
yn arwain yn raddol at ddyfodiad nodweddion trefol (er enghraifft, cytiau,
modurdai, lloriau caled, ac ati) i gylchoedd lle rhoddir gwerth uchel
ar dirlun agored a deniadol.
Mae'r Cyngor yn cydnabod bod rhai deiliaid tai yng nghefn gwlad eisiau
gerddi mwy. Lle gellir creu'r rhain yn y fath fodd ag i beidio amharu
ar dirlun a chymeriad y cylch, gall estyniad i ardd fod yn dderbyniol.
Serch hynny, egwyddor arweiniol y Cyngor yw'r angen i warchod amgylchedd
cefn gwlad. Mae'r canllaw hwn, felly, yn trafod y materion y bydd y Cyngor
yn eu hystyried wrth benderfynu ceisiadau i ymestyn gerddi yng nghefn
gwlad.
Ystyriaethau Cyffredinol
(a) Maint a Graddfa
Bydd maint y tir y bydd y Cyngor yn ei ystyried yn addas i'w gynnwys
mewn ymestyniad i ardd yn amrywio gan ddibynnu ar faint y cwrtil preswyl
presennol. Pan fo gan dy ardd sylweddol bresennol, mae estyniad yn debygol
o gael ei wrthod: fodd bynnag, pan fo maint cwrtil presennol yn gyfyng
iawn, gall estyniad fod yn dderbyniol ond iddo gael ei gyfyngu i'r darn
lleiaf o dir sy'n addas i'r teulu allu ei fwynhau. Wrth ystyried os yw
maint ymestyniad arfaethedig i ardd yn briodol, bydd y Cyngor yn ystyried
yn arbennig :-
-
wynebwedd a lleoliad y safle;
-
presenoldeb nodweddion tirlun fel newid goleddf, gwrychoedd, cwrs
dür neu goetir allai ffurfio terfyn newydd rhesymegol i'r cwrtil
preswyl;
-
faint o dir amaeth o ansawdd uchel fyddai'n cael ei ddwyn o waith
cynhyrchiol.
(b) Gwasanaethau Hanfodol
Mae ymestyn gerddi er mwyn cael lle i danciau tanwydd gwres canolog,
tanciau carthion neu wasanaethau hanfodol eraill cartrefi yn debygol o
fod yn dderbyniol lle nad oes digon o le ar gael i'r gwasanaethau hyn
yn y cwrtil preswyl presennol. Fodd bynnag, rhaid cyfyngu'r estyniad i'r
arwynebedd lleiaf sydd ei angen i gydymffurfio â gofynion y cyfarpar.
Yn achos cyfarpar arwyneb, bydd angen i strwythurau ac offer fod wedi
eu lliwio, eu cuddio neu eu gosod yn y fath fodd ag i leihau'r effaith
ar y tirwedd.
(c) Mynediad a Pharcio Cerbydau
Os yw'r ty heb fynediad i gerbydau, mynediad gyda gwelededd gwael neu
heb le i barcio oddi ar y ffordd, gellir caniatau ymestyniad i ardd pe
bai hynny yn diddymu perygl sylweddol i ddiogelwch ar y ffordd. O dan
yr amgylchiadau hyn, cyfyngir yr estyniad fel rheol i'r arwynebedd lleiaf
sydd ei angen i gydymffurfio â safonau ffyrdd a pharcio'r Cyngor.
Amgylchiadau Arbennig
Mewn rhai mannau, yr angen i amddiffyn yr amgylchedd a gwarchod amwynder
gweledol fydd y prif ystyriaethau wrth benderfynu cynigion i ymestyn gerddi.
Bydd y mannau hyn yn cynnwys safleoedd:-
(a) sydd o fewn rhwystr gwyrdd
Diffinnir rhwystrau gwyrdd yn y cynllun datblygu a'r rhain yw'r ardaloedd,
agored gan mwyaf, sy'n gwahanu'r prif drefi a phentrefi. Bwriedir iddynt
atal aneddiadau rhag cyfuno drwy gyfyngu datblygiad i ddefnyddiau a gweithgareddau
na fyddai ddim yn effeithio ar eu cymeriad agored. Byddai ymestyn gerddi
yn sylweddol o fewn y rhwystrau gwyrdd yn difa'r nodwedd hon ac, os nad
yw cynnig yn fychan neu'n ddi- nod iawn, mae'n annhebygol felly y byddai
caniatâd cynllunio yn cael ei roddi.
(b) lle byddai'r estyniad yn effeithio'n andwyol ar olwg ardal nodedig,
arbennig neu dirwedd lleol
Y rhain yw'r tirluniau pwysicaf yn y Fwrdeistref Sirol. Dynodwyd hwy
yn y cynllun datblygu oherwydd eu hansawdd weledol ac amgylcheddol a'r
cyfraniad a wnânt i sefyllfa, amwynder a chymeriad yr aneddiadau.
Gallai ymestyn gerddi newid golwg y cylchoedd hyn yn sylweddol ac maent
yn debygol o gael eu gwrthod.
(c) lle byddai'r estyniad yn effeithio'n niweidiol ar dir sydd o ddiddordeb
sylweddol i gadwraeth natur
Os bydd yr estyniad arfaethedig yn cynnwys safle, neu ran o safle, sy'n
cynnwys nodweddion o gryn ddiddordeb i gadwraeth natur, mae'r angen i
warchod y nodweddion hyn yn debygol o ddwyn blaenoriaeth ar yr achos dros
ymestyn gardd ty.
(d) ar bwys terfyn aneddiad
Mae'r cynllun datblygu yn diffinio terfynau aneddiad ac ni chaniateir
datblygiad tu hwnt iddynt. Mae'r terfynau hyn, sydd fel rheol yn dilyn
ffiniau adeiladau presennol neu dir a ddynodwyd ar gyfer datblygiad yn
y dyfodol, yn sefydlu gwahaniaeth amlwg rhwng tref, pentref a chefn gwlad.
Byddai'r gwahaniaeth hwn yn cael ei wanhau'n sylweddol pe byddai gerddi
tai yn cael eu hymestyn yn ddiwahân tu allan i'r terfynau cymeradwy
hyn. Y canlyniad terfynol fyddai i ddatblygiad lechfeddiannu cefn gwlad
bob yn dipyn. Felly, nid yw caniatâd cynllunio i ymestyn gerddi
tu hwnt i derfynau aneddiad yn debygol o gael ei roddi ond mewn achosion
eithriadol lle byddair cwrtil preswyl newydd yn cael ei gynnwys rhwng
gerddi tai cyfagos.
(e) lle byddai'r estyniad yn llenwi bwlch sylweddol rhwng tai
Mae'r cynllun datblygu yn dangos y gellir caniatáu mewnlenwi preswyl
lle bo bylchau bach rhwng tai ar ffordd yn dderbyniol ond bod dim niwed
amgylcheddol yn digwydd: fe ellir caniatau ymestyn gerddi i'r fath fylchau
felly hefyd. Fodd bynnag, mae cynigion fyddai'n ymestyn gerddi fel ag
i gau bylchau sylweddol rhwng tai yn annhebygol o gael caniatâd.
Mae'n hanfodol bod y bylchau hyn yn cael eu cadw os yw cymeriad agored
cefn gwlad i'w gynnal.
(f) os rhoddwyd caniatâd blaenorol
Os rhoddwyd caniatâd eisoes i ymestyn gardd, mae'n annhebygol dros
ben y gellid cyfiawnhau estyniad pellach oherwydd yr effaith ychwanegol
ar dirlun ac amwynder.
(g) pan fo angen yr estyniad i greu lle i ehangu ty
Dylid cynnwys estyniadau i dai gwledig o fewn y cwrtil preswyl presennol
(gweler Canllaw Cynllunio Lleol 13: Tai yng Nghefn
Gwlad). Bwriad polisïau'r cynllun datblygiad yw lleihau datblygiadau
adeiladu yng nghefn gwlad ac, o'r herwydd, mae'n annhebygol y rhoddir
caniatâd cynllunio i ymestyn gerddi er mwyn creu lle i ehangu ty.
Amodau
Fel rheol gosodir amodau ar ganiatâd cynllunio i ymestyn gerddi.
Diben yr amodau hyn yw lliniaru effaith weledol estyniadau ar y tirlun
a gallant gynnwys:
- diddymu hawl datblygiad y deiliad i godi cytiau, tai gwydr a strwythurau
gardd eraill;
- gofyniad bod ffin yr estyniad (a thir arall ym meddiant deiliad y
ty, pan yn briodol) yn cael ei gau un ai gan wrych a ffurfir o rywogaethau
planhigion cynhenid neu glawdd cerrig naturiol;
- gofyniad tirlunio i sicrhau bod yr ardd newydd yn ymdoddi ir
wlad o amgylch.
Gwybodaeth Bellach
Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â'r polisïau cynllunio
perthnasol sy'n trin datblygiad yng nghefn gwlad. Cynhwysir y rhain yn
y cynllun datblygiad, gyda chopïau
o hwnnw ar gael i'w harchwilio yn Adran Gynllunio'r Cyngor. Bydd swyddogion
cynllunio yn falch o drafod cynigion yn anffurfiol cyn i gais am ganiatâd
cynllunio gael ei gyflwyno.
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam, LL11
1WL.
Ffôn: (01978) 292013
Ffacs: (01978) 292502
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Mabwysiadwyd Ebrill 1998
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 14 - Ymestyn Gerddi Yng Nghefn Gwlad
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 14 - Ymestyn Gerddi Yng Nghefn Gwlad - fformat PDF 88kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
13 - Tai Yng Nghefn Gwlad
Cynllun Datblygiad Unedol Wrecsam
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|