|
Mae'r
nodyn cyfarwyddyd hwn yn amlinellu polisïau'r Cyngor ynglyn â
beicio ac mae'n manylu ar yr arweiniad a gynhwysir oddi mewn i'r strategaethau
cludiant a chynlluniau datblygu presennol. Bydd y nodyn yn ystyriaeth
faterol wrth benderfynu pob cais cynllunio perthnasol.
I annog mwy o deithio ar gefn beic, mae'r nodyn hwn yn datgan sut y disgwylir
i ddatblygwyr ddarparu cyfleusterau ar gyfer beicwyr wrth baratoi cynlluniau
datblygu perthnasol. Mae hefyd yn rhoi arweiniad dylunio ar adeiladu llwybrau
beicio a darparu cyfleusterau parcio beiciau.
Llwybrau Beicio
Mae llwybrau beicio diogel, cyson a dymunol naill ai ar
y ffordd neu oddi ar y ffordd yn hanfodol i annog mwy o ddefnydd o'r beic.
Adeiladwyd nifer o lwybrau beicio yn ddiweddar ac mae llawer mwy yn yr
arfaeth. I gadw cyfanrwydd y rhain, gwrthwynebir unrhyw gynnig a fyddai'n
torri ar lwybr beicio presennol neu arfaethedig, oni fo'r cynnig yn gwneud
darpariaeth i wneud iawn digonol am hyn. Dylai datblygwyr gysylltu datblygiadau
a fyddai'n cynhyrchu neu'n denu nifer sylweddol o deithiau â'r rhwydwaith
o lwybrau beicio ac yn ei dro i ardaloedd poblog a/neu gyfleusterau pob
dydd. Mewn rhai achosion efallai bydd angen ychwanegu at neu wella'r rhwydwaith
bresennol hefyd. Rhaid darparu llwybrau diogel o fewn ffiniau safle datblygu
er mwyn sicrhau bod beicwyr yn gallu cael mynediad cyfleus a diogel i
feysydd parcio beiciau.
Lle mae safle datblygu'n cael ei wahanu o dai, ysgolion neu siopau ger
ffyrdd prysur, bydd angen darparu croesfannau diogel. Croesfannau twcan
neu belican fydd y rhai mwyaf priodol, lle cydymffurfir â meini
prawf sy'n ymwneud â lefelau llif traffig. Bydd angen cymysgedd
o lonau beicio a chroesfannau gwasgarog, llinellau stopio ymlaen llaw
ac arwyddion cyfeirio i alluogi beicwyr i ymdrin â neu osgoi peryglon
fel prif gylchfannau a chyffyrdd yn ddiogel.
Yn aml, mae angen gwahanu beicwyr rhag traffig peryglus sy'n teithio'n
gyflym ar ffyrdd prifwythiennol. Fodd bynnag, i ffwrdd o ffyrdd prifwythiennol,
pan ddefnyddir ffyrdd ar gyfer traffig lleol, mae'n ddymunol rhoi lle
ar y ffordd i feicwyr. Dylid cynllunio ffyrdd preswyl newydd, yn arbennig,
gan ystyried anghenion beicwyr a chyflymdra traffig isel. Mae'n bosibl
y bydd angen mesurau arafu traffig i gyflawni hyn. Fel arfer nid oes angen
llwybrau beicio lle byddai beicwyr yn defnyddio ffyrdd llai sy'n cario
llai na 4,000 o gerbydau y dydd, sy'n teithio 20mya neu lai.
Dylai ffyrdd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer teithio rhwng ardaloedd poblog
gael eu goleuo'n dda i alluogi teithio gyda'r nos ac yn ystod misoedd
y gaeaf. Dylid lleoli colofnau golau ac arwyddion fel nad ydynt yn rhwystro
beicwyr neu defnddwyr anabl. Dylid defnyddio marciau cyffwrdd a/neu â
lliwiau i wahanu'r ardaloedd a ddefnyddir gan feicwyr o ardaloedd a ddefnyddir
gan gerddwyr. Lle bo angen gwaith i ffwrdd o'r safle, bydd y Cyngor yn
gosod amod a fydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyflawni'r gwaith cyn y
gellir dechrau'r defnydd neu'r datblygiad newydd a'i gadw wedyn.
Hen Reilffyrdd
Cefnogir ail ddefnyddio ac adfer hen reilffyrdd i greu llwybrau beicio.
Lle bo beicwyr yn rhannu'r llwybrau hyn gyda cherddwyr, dylent fod o leiaf
3.0m o led.
Lle disgwylir y bydd pobl yn marchogaeth ceffylau ar ddarn o lwybr sydd
wedi ei drosi, bydd angen llwybr ceffyl ar wahân sy'n mesur o leiaf
2.0m o led. Dylid gosod arwyneb o gerrig mân â glaswellt.
Mae'r arwyneb yn cynnwys 150mm o sylfaen o gerrig mân, wedi ei orchuddio
â 150mm o gymysgedd dwfn o gerrig mân a phridd ar ei ben â
hadau rhygwellt.
Dylai llinellau rheilffyrdd wedi eu trosi gadw eu cymeriad agored a gwyrdd
ac ni chaniateir datblygu ar ochr neu'n gyfagos i'r llinellau os byddant
yn amharu ar gymeriad yr ardal. Mae'n bosibl y bydd angen mesurau yn y
cynllun i atal mynediad gan feiciau modur neu feiciau sgrialu.
Ar rai achlysuron, bydd angen cryfhau pontydd presennol ac ail godi pontydd
sydd wedi eu daduno dros ffyrdd prysur, lle byddai hyn yn cynorthwyo cysylltu
datblygiad ag ardaloedd poblog a/neu gyfleusterau cymunedol. Lle'n briodol,
bydd yn ofynnol i ddatblygwyr ddod i Rwymedigaeth dan Adran 106 o Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i sicrhau taliadau cyfnewid i gynnal a chadw
pontydd fel hyn.
Llwybrau Halio Camlesi
Gall llwybrau halio camlesi hefyd ddarparu llwybrau diogel a chyson ar
gyfer beicwyr. Lle caniateir beciwyr gan British Waterways i rannu llwybr
halio gyda defnyddwyr eraill, mae'n ddymunol i'r llwybr fesur 3.5 m o
led. Dylid defnyddio defnydd geo-gweadol wrth adeiladu neu ailosod llwybr
a dylai ei lefel derfynol fod yn uwch na'r tir cyfagos er mwyn caniatáu
dwr i ddraenio. Dylai'r holl gynigion i addasu a gwella llwybrau halio
ystyried costau cynnal a chadw cyfredol.
Ystyried Amwynderau
Mae materion tirlunio ac amwynderau'n ystyriaethau pwysig wrth asesu
cyfaddasrwydd llwybrau beicio. Dylai llwybrau newydd osgoi ardaloedd o
dan led corun coed amwynderol pwysig gan fod cywasgedd a gwaith tyllu
yn gallu peri difrod difrifol i wreiddiau. Mae llwybrau beicio dolennog
yn well yn esthetaidd na rhai syth neu onglog.
Dylai unrhyw waith sy'n cymryd lle'n agos at goed pwysig gydymffurfio
â BS 5837 1991 - "Cyfarwyddyd am Goed Mewn Perthynas ag Adeiladu",
i sicrhau nad oes difrod iddynt. Ni ddylai llwybrau beicio dorri trwy
goedwrychoedd aeddfed a dylent hefyd osgoi mannau gwreiddio gwrychoedd.
Dylid cyflwyno arolwg manwl o holl goed a gwrychoedd cyfagos gyda'r cynigion
i adeiladu neu wella'r llwybr beicio.
Mae'n rhaid i bob cynnig i adeiladu llwybrau beicio fod o safon cynllunio
uchel. Ni chaniateir mesurau peirianyddol anghyson fel bolardiau dur,
ffensys neu ffensys palisad dur lle byddent yn cael effaith annerbyniol
ar dirlun a chymeriad eu lleoliad. Mae'n well defnyddio cerrig mân
wedi eu rhwymo â resin na defnyddio asffalt du neu goch wedi ei
rolio ar lwybrau beicio i ffwrdd o'r ffyrdd mewn ardaloedd gwledig. Ni
chaniateir llwybrau a fydd yn tynnu oddi ar ansawdd y treflun a'r tirlun
na chymeriad a safle Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth.


Parcio Beiciau
Mae'n rhaid i ddatblygiadau newydd wneud darpariaeth i barcio beiciau.
Mabwysiadwyd cyfres o safonau isafswm ar gyfer gwahanol ddatblygiadau.
Dangosir y rhain ym Mlwch 1.
Gwrthwynebir unrhyw ddatblygiad a fydd yn golygu colli cyfleuster parcio
beiciau, oni bai fod y datblygiad yn gwneud darpariaeth ddigonol i wneud
iawn am hyn.
Ynghanol Tref Wrecsam ac yng nghanolfannau siopa ardal Cefn Mawr, Y Waun,
Coedpoeth, Gresffordd, Gwersyllt, Rhiwabon a Rhosllannerchrugog, gall
ddatblygwyr gyfrannu tuag at ddarparu cyfleusterau parcio beiciau cymunedol
oddi ar y safle yn lle cyfleuster i wasanaethu defnydd yr unigolyn.
Lle cynigir datblygiadau sylweddol (uned ddiwydiannol fawr, cyfadeilad
swyddfa neu gynllun tai er enghraifft) gellir gostwng safonau parcio ceir
pe byddai'r datblygiad yn cynnwys mesurau i leihau dibyniaeth ar deithio
mewn car. Dylid manylu ar fesurau o'r fath o fewn Cynllun Cludiant Gwyrdd,
a gynhyrchir gan yr ymgeisydd. Mae Cynlluniau Cludiant Gwyrdd yn argymell
mesurau sy'n rhoi blaenoriaeth i ddulliau amgen o deithio na'r car. I
annog beicio, gallai mesurau gynnig tâl anogaeth i feicwyr a darparu
cyfleusterau fel ystafelloedd newid a chawodydd.
Lle bo'n briodol bydd gofyn i'r datblygwr ddod i rwymedigaeth dan Adran
106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i sicrhau bod y mesurau a gytunwyd
arnynt yn cael eu gweithredu a'u bod yn cadw atynt wedyn.
Cynllunio Cyfleusterau Parcio Beiciau
Stondinau Sheffield (sef bariau dur siâp n a osodir yn y ddaear)
sy'n fwyaf addas ar gyfer parcio tymor byr. Dylai'r rhain fod:
-
yn 750 mm o uchder ac wedi eu gosod o leiaf 250 mm yn y ddaear;
-
ag o leiaf 800 mm rhyngddynt;
-
wedi eu gorchuddio a phowdr polyester wedi ei liwio (neu wedi eu
peintio'n ddu) i gydweddu â dodrefn stryd neu adeiladau sydd
eisoes yn bodoli; ac
-
wedi eu diogelu rhag y tywydd gan wal, lloches neu ganopi.
Os nad oes llawer o le a lle na ellir defnyddio stondinau Sheffield,
gellir defnyddio cylchoedd sydd wedi eu cysylltu i waliau ac adeiladau.
Dylid lleoli cylchoedd wal 750 mm uwch ben lefel y llawr bob 1.8 m.
Mewn ardaloedd lle bo angen cyfleusterau parcio beiciau tymor hir (yn
hwy nag wyth awr) dylai datblygwyr ddarparu cyfleusterau parcio mwy diogel
ar ffurf caets beiciau neu lochesi cloadwy. Fel arall, gall ffald ddiogel
o fewn adeilad fod yn dderbyniol, os yw wedi ei lleoli ar y llawr isaf
gyda mynediad rhwydd.
Mae'n rhaid i geisiadau cynllunio ar gyfer datblygu neu ail ddatblygu
cludiant cyhoeddus ddarparu ar gyfer beicwyr drwy gynnig cyfleusterau
diogel a llwybrau beicio. Mae llochesi beiciau a chaetsis cloadwy yn well
na stondinau Sheffield neu gylchoedd yn y mannau hyn.
Gall paneli hysbysebu sengl neu baneli nawdd sy'n cynnwys logo neu arweiniad
sydd ynghlwm wrth grwpiau o stondinau beicio fod yn dderbyniol lle nad
ydynt yn creu llanast gweledol. Lle tybir bod hysbysebion yn dderbyniol,
ni ddylai arwyneb y panel hysbysebu fod yn hwy na 600 cm².
|
Safonau isafswm parcio beiciau
{Dimensiynnau beic : 1.8 m(H) x 0.6 m(Ll)}
|
|
Math o Ddefnydd
|
Nifer y lleoedd beiciau angenrheidiol
|
|
Siopau
|
|
Siopau/Rhodfeydd unigol
|
1 fesul 100m² allc (neu ran o hynny)
|
| Archfarchnadoedd bwyd |
1 fesul 150m² allc (neu ran o hynny) |
| Archfarchnadoedd di-fwyd |
1 fesul 200m² allc (neu ran o hynny) |
| Banciau, cymdeithasau adeiladu, siopau betio a swyddfeydd
eraill a geir o fewn ardaloedd siopa |
1 fesul 60m² allc (neu ran o hynny) |
| Siopau bwyd a diod |
1 fesul 60m² allc (neu ran o hynny) |
|
Defnydd diwydiannol
|
| Swyddfeydd gweinyddol, defnydd ymchwil a datblygu |
1 fesul 350 m² allc (neu ran o hynny) |
| Defnydd diwydiannol cyffredinol |
1 fesul 500 m² allc (neu ran o hynny) |
| Defnydd storio a dosbarthu |
1 fesul 1000 m² allc (neu ran o hynny) |
|
Defnydd preswyl
|
| Gwestai |
1 fesul 10 ystafell gwely |
| Cartrefi gofal preswyl, cartrefi nyrsio ac ysbytai |
1 fesul 10 gweithiwr |
| Ysgolion preswyl, colegau preswyl a chanolfannau hyfforddi
preswyl |
1 fesul 10 staff & 1 fesul 5 myfyriwr |
| Tai |
Dim safon benodol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd
angen ardaloedd parcio beiciau cyfleus a diogel mewn amgylchiadau
priodol (e.e. datblygiadau
dwysedd uwch heb ddim neu nifer gyfyng o leoedd parcio) |
|
Defnydd addysgiadol
|
| Ysgolion cynradd ac uwchradd |
4 fesul ystafell ddosbarth |
| Colegau 6ed Dosbarth ac Addysg Bellach |
1 fesul 35m² allc |
| Canolfannau meddygol ac iechyd |
2 fesul ystafell ymgynghori |
|
Defnydd hamdden
|
| Orielau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd |
1 fesul 150m² allc |
| Sinemâu, canolfannau hamdden, neuaddau bingo,
neuaddau cyngerdd |
1 fesul 75m² allc |
|
DS: allc = arwynebedd llawr cyfan
Dylid darparu o leiaf 1 lle ymhob achos
|
Lleoli Cyfleusterau Parcio Beiciau
Dylid lleoli mannau parcio beiciau:
- mewn safle amlwg a chyfleus, fel arfer gerllaw mynedfa'r adeilad arfaethedig
ac wedi eu goleuo neu'n agos at ffynonellau golau;
- fel bod modd eu monitro gan deledu cylch caeëdig neu'n weladwy
i staff diogelwch ar y safle ac wedi eu lleoli;
- i ffwrdd o unrhyw goed, i leihau difrod i ffurfiannau gwreiddiau ac
i rwystro difrod i'r beiciau gan nodd y coed a baw adar.
Mae clystyrau bychain o gyfleusterau parcio beiciau yn well na ffald
parcio fawr ganolog. Dylid lleoli'r stondinau i gyd fel nad ydynt yn rhwystro
cerddwyr, yn enwedig cerddwyr dall neu rannol ddall a defnyddwyr cadeiriau
olwyn. Mae'n bosibl y bydd angen bolardiau â streipiau gwahanol
i roi diogelwch ychwanegol. Mae hefyd yn bosibl y bydd angen amgylchynu
meysydd parcio beiciau â marciau cyffwrdd.
Ni ddylai cyfleusterau parcio beiciau ddifrodi treflun neu dirlun yr ardal.
Mewn Ardaloedd Cadwraeth ac yn agos i Adeiladau Rhestredig, dylid rhoi
sylw arbennig i'r safiad, dylunio a'r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer
y cyfleuster parcio. Gwrthwynebir mesurau sy'n amharu ar gymeriad neu
safiad Adeilad Rhestredig neu sy'n difrodi cymeriad Ardaloedd Cadwraeth.
Am fwy o wybodaeth neu gyngor cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam, LL11
1WL.
Ffôn: (01978) 292019
Ffacs: (01978) 292502
Mabwysiadwyd Ebrill 2000
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 15 - Beicio
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 15 - Beicio - fformat PDF 132kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
16 - Safonau Parcio
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|