|
Mae'r
nodyn hwn yn diweddaru safonau parcio'r Cyngor a fu'n weithredol ers 1989.
Bydd y nodyn yn ystyriaeth faterol wrth benderfynu pob cais cynllunio
perthnasol. Diweddarwyd y safonau i adlewyrchu polisïau cynllunio
defnydd tir a chludiant y llywodraeth a'r Cyngor.
Fe'u seiliwyd ar safonau diweddar awdurdodau lleol eraill sy'n rhannu'r
un nodweddion â Wrecsam a'r safonau hynny yn yr Atodiad i ddrafft
PPG13, Hydref 1999. Sefydlwyd y cyd-destun ar gyfer y safonau hyn gan
Strategaeth Cludiant Integredig Wrecsam, Ionawr 1999 a'i chwaer ddogfen
y Strategaeth Parcio a gymeradwywyd ar gyfer ymgynghori ym mis Rhagfyr
1999. Maer ddogfennau hyn rwan wediw mabwysiadu gan y Cyngor.
Mae'r cyd-destun hwn yn cynnwys:
-
cydnabod bod argaeledd parcio yn dylanwadu'r dewis o ddull teithio;
-
yr angen i leihau'r ddibyniaeth ar y car a hyrwyddo dulliau teithio
amgen;
-
gwneud y defnydd gorau o'r rhwydwaith cludiant presennol a'r adnoddau
ar ei gyfer a'r
-
angen i hyrwyddo adfywiad a buddsoddiad yn Wrecsam.
2. Safon y Ddarpariaeth
Dangosir y safonau yn ffigyrau A-D ac fe'u seilir ar Orchymyn Dosbarthiadau
Defnydd 1987 (fel y'i diwygiwyd). Maent mewn grym trwy'r Fwrdeistref Sirol
ac eithrio'r canlynol:
(i) Lle byddai gweithredu'r safonau hyn yn creu anawsterau diogelwch
y ffordd neu dagfeydd bydd angen darpariaeth ychwanegol.
(ii) Gellir caniatáu amrywiadau yn unol ag amgylchiadau
lleol sydd yn cynnwys: argaeledd parcio cyfagos a chludiant cyhoeddus.
Mae polisïau cynllunio, sy'n ceisio cadw canol y dref a mannau eraill
a ddynodwyd fel prif ganolfannau gweithgaredd datblygu yn y Fwrdeistref
Sirol, hefyd yn ystyriaethau perthnasol. Y cwbl sydd ei angen o fewn ardal
siopa canol y dref, fel ag y'i diffiniwyd yn y Cynllun Datblygu, yw parcio
gweithredol, hynny yw ar gyfer gwasanaethu yn unig. Bydd angen taliadau
gwahanol yn lle darpariaeth parcio. Anogir paratoi Cynlluniau Cludiant
Gwyrdd sydd yn cynnwys pecyn o fesurau i leihau dibyniaeth ar y car a
hyrwyddo cerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus yn lle hynny.
(iii) Lle nad yw'r defnydd yn cael ei nodi yn Ffigwr A-D, defnyddir
yr ystyriaethau a amlinellir yn (ii) uchod i benderfynu uchafswm anghenion
parcio yn unol â'r defnydd tir dan sylw a'i botensial i greu traffig.
(iv) Ystyrir cynlluniau arloesol ar gyfer tai heb gar yn ôl
eu haeddiant.
A
|
Math o Ddefnydd Tir
|
Safon
|
|
A1 Siopau
|
|
Manwerthu Bwyd
|
1 lle car fesul 14m2 o grynswth gofod llawr
|
|
Siopau bach
|
1 lle car fesul 15m2 o grynswth gofod llawr
|
| Manwerthu nad bwyd mohono |
1 lle car fesul 20m2 o grynswth gofod llawr |
|
A2 Gwasanaethau
|
|
Gwanaethau cyllidol a broffesiynol
|
1 lle car fesul 6m2 o grynswth gofod llawr
|
|
A3 Bwyd a Diod
|
Bwyd a Diod
(e.e tafarnau, bwytai a phryd stryd) |
1 lle car fesul 4m2 o ofod llawr cyhoeddus net |
B
|
Math o Ddefnydd Tir
|
Safon
|
|
B1 Busnes
|
|
Busnes
|
1 lle car fesul 30m2 o grynswth gofod llawr
|
|
B2 Diwydiant Cyffredinol
|
|
Diwydiant Cyffredinol
|
1 lle car fesul 50m2 o grynswth gofod llawr
|
|
B8 Storio a Dosbarthu
|
| Storio a Dosbarthu |
1 lle car fesul 100m2 o grynswth gofod llawr |
C
|
Math o Ddefnydd Tir
|
Safon
|
|
C1 Hotels
|
|
Gwestai
|
1 lle car fesul pob gwely (gweler A3 ar gyfer ystafelloedd achlysur)
|
|
C2 Sefydliadau Preswyl
|
|
Sefydliadau Preswyl
|
1 lle car ar gyfer pob 3 gwely (ac 1 lle beic ar gyfer pob 5 myfyriwr,
lle bo'n gymwys)
|
|
C3 Anheddau
|
| 1 ystafell wely |
1.5 lle car ar gyfer pob uned |
| 2 ystafell wely |
2 le car ar gyfer pob uned |
| 3 a 4 ystafell wely |
3 lle car ar gyfer pob uned |
| 5 ystafell wely |
4 lle car ar gyfer pob uned |
| Dylai rhodfeydd fod yn ddigon llydan i ddefnyddiwr
cadair olwyn fynd heibio i gar wedi ei barcio. |
|
Tai â Gofal
|
| Tai â Gofal |
1 lle car ar gyfer pob 4 uned ac 1 lle i bob staff preswyl
a mynediad i ambiwlans |
|
Llety Myfyrwyr
|
| Llety i Fyfyrwyr |
1 lle fesul dau wely |
2 le beic ar gyfer pob lle car
D
|
Math o Ddefnydd Tir
|
Safon
|
|
D1 Sefydliadau Di breswyl
|
|
a) Gwasanaethau iechyd neu feddygol
|
2 le car ar gyfer pob ystafell ymgynghori
|
|
c) Addysg, Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
|
1 lle car ar gyfer pob ystafell ddosbarth
|
| Colegau Chweched Dosbarth a Cholegau Addysg Bellach |
1 lle car fesul 35m2 o grynswth gofod llawr |
| (d), (e) a (f), Orielau Celf, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd |
1 lle car fesul 30m2 o grynswth gofod llawr |
|
D2 Ymgynnull a Hamdden
|
|
Ymgynnull a Hamdden
(sinema, neuadd gyngerdd, bingo, neuadd ddawns, canolfan chwaraeon)
|
1 lle car ar gyfer pob 4 sedd yn y neuadd neu
1 lle car fesul 15m2 o arwynebedd llawr crynswth ar gyfer neuadd
ddawns neu ganolfan hamdden
|
3. Nodiadau Ychwanegol
Dylid nodi'r pwyntiau canlynol:
(i) Dyma uchafswm y safonau ar gyfer parcio ceir
ym mhob categori defnydd tir. Lle ni roddir yr uchafswm mae'n rhaid i'r
datblygwr ddangos graddfa teithiau i'r safle'n eglur a sut y diwellir
y diffyg hwn os yw'r teithiau hyn yn fwy na'r ddarpariaeth parcio arfaethedig.
Mae atebion posibl yn cynnwys Cynllun Teithio
a/neu ddarparu swm
yn lle hynny ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor megis cyfraniad
tuag at welliannau i feysydd parcio cyhoeddus (e.e. gwella goleuo neu
ddiogelwch), adeiladu meysydd parcio ychwanegol neu wasanaeth Parcio a
Theithio. Cyfrifir y swm o gost y tir ac adeiladu maes parcio.
(ii) Mae Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 15 yn ymdrin â safonau
parcio beiciau.
(iii) Parcio beiciau modur - mae'r safonau yn ychwanegol
at y rhai ar gyfer beiciau, a dylid eu darparu mewn safleoedd sydd angen
25 neu fwy o leoedd parcio ceir ar raddfa o 1 i bob 25 lle parcio ceir.
(iv) Dylid talgrynnu i fyny ffracsiynau o leoedd parcio a gyfrifir
o'r ffigyrau hyn.
(v) Bydd cyfrif darpariaeth parcio ar gyfer datblygiadau defnydd
cymysg yn amrywio yn ôl math y defnydd arfaethedig. Mewn achosion
lle bo defnydd cymysg yn gweithredu'r un pryd yn gyffredinol, cyfunir
y lefelau sydd yn gymwys ar gyfer pob defnydd. Lle bo defnydd cymysg yn
creu gofynion ar adegau gwahanol yn ystod y dydd, seilir darpariaeth lleoedd
ar y math llywodraethol o ddatblygiadau ar y safle penodol hwnnw.
(vi) Er mwyn diwallu gofynion pobl ag anableddau corfforol,
pobl ag anawsterau symudedd a'r rhai hynny gyda phlant bach, dylid
darparu 10% o'r holl leoedd parcio i 'safon symudedd' (lleiafswm lled
o 3.6 metr). Dylai o leiaf 60% y lleoedd hyn fod wedi eu harwyddo ar gyfer
defnydd pobl anabl yn unig.
(vii) Mae Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 5 yn ymdrin â
safonau parcio ar gyfer Trosi Anheddau i Dai Amlbreswyl.
Mwy o wybodaeth a
Safonau Parcio
Am fwy o wybodaeth neu gyngor cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11
1ar
Ffôn: (01978) 292013
Ffacs: (01978) 292502
Tachwedd 2000,
Diwygiwyd Hydref 2005
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 16 - Safonau Parcio
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 16 - Safonau Parcio - fformat PDF 149kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Mwy o wybodaeth a Safonau Parcio
5 - Addasu Eiddo Preswyl yn Dai Amlbreswyl
15 - Beicio
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|