|
Dyma
un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd lleol sy'n ymhelaethu ar gynigion cynllunio
lleol mewn dull clir a chryno, gyda'r amcan o wella safonau cynllunio.
Ei amcan yw arwain perchnogion siopau a dodrefnwyr siopau tuag at fesurau
diogelwch effeithiol ar gyfer adeilad unigol sydd hefyd yn parchu ei gymeriad
presennol a diwyg y stryd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'i bartneriaid wedi ymrwymo i
fynd i'r afael â throseddu, gwella diogelwch cymunedol a diogelu
a gwella bywiogrwydd a hyfywedd canolfannau siopa ardal, ac yn enwedig
canol tref Wrecsam. Mae mesurau diogelwch sydd wedi eu cynllunio'n wael
yn gweithio yn erbyn creu canolfan siopa hanfodol, fywiog a deniadol ac
yn gallu bod yn wrthgynhyrchiol i hyfywedd economaidd yr ardal. Maen
bosibl y bydd buddsoddwyr posibl yn cael eu perswadio i beidio â
buddsoddi a bydd siopwyr yn amharod i ymweld â lle syn agored
i droseddau neu syn ymddangos felly.
Mae'r nodyn hwn yn amlinellu'r canllawiau sylfaenol yr anogir cynllunwyr
i'w hystyried a'u mabwysiadu wrth gynllunio blaen siopau newydd. Ni fwriadwyd
iddo gymryd lle'r angen am gyfarwyddyd pensaernïol, ond yn hytrach
mae'n cynnig fframwaith y gellir datblygu cynllunio creadigol o'i fewn.
Cefndir
Mae caeadau rholio dur solet yn rhoi lefel uchel o ddiogelwch ond mae
ganddynt eu hanfanteision:
-
Nid yw'n bosibl gweld a oes rhywbeth yn digwydd y tu mewn i'r siop,
felly mae'n bosibl i ladron ddal ymlaen i ladrata heb i neb eu gweld;
-
Mae stryd o gaeadau rholio dur solet yn creu amgylchfyd difywyd
a gelyniaethus, sy'n annog cerddwyr i beidio â defnyddio'r strydoedd,
ac felly'n cynyddu'r cyfleoedd ar gyfer troseddu;
-
Mae edrych ffenestri siopau y tu allan i oriau agor yn amhosibl
ac yn cadw pobl rhag ymweld eto; ac
-
Mae caeadau, offer gosod a bocsys yn gallu tynnu oddi ar ddyluniad
a diwyg blaen siopau, yn enwedig os nad ydynt yn rhan o gyfanwaith
integredig.
Mae sefydlu Fforwm
Canol y Dref, gweithredu camerâu teledu cylch caeëdig ymestyn
cynlluniau pedestreiddio a gwella strydoedd yng nghanol tref Wrecsam wedi
cyfrannu at welliant sylweddol yn niogelwch y cyhoedd a blaen siopau.
Diogelwch Trwy Gynllunio
Dylid edrych ar ddiogelwch fel rhan sylfaenol o'r broses cynllunio ac
nid fel ychwanegiad munud olaf. Mae cynllunio da yn gallu gwella diogelwch
blaen siop trwy:
-
uddefnyddio codwyr stolion a physt wedi eu hatgyfnerthu;
-
ddefnyddio gwydr gwydn neu wydr wedi ei laminadu;
-
ymrannu ac atgyfnerthu'r gwydro i arwynebeddau llai;
-
ddefnyddio systemau larymau a chamerâu gwylio yn yr eiddo;
-
osod atalfeydd i amddiffyn ffenestri a drysau'r siop, trwy eu cynnwys
ym mlaen y siop os yw'n bosibl neu fel rhan o gynllun cyffredinol
i wella'r stryd, ond heb achosi rhwystr i gerddwyr, mynedfeydd argyfwng
na gwaith ysgubo strydoedd;
-
osod golau mewnol da sy'n weledol o'r stryd;
-
osod goleuadau stryd, nad ydynt yn achosi cysgodion, ym mhob man
sydd mewn perygl;
-
ddod â bywyd nôl i'r adeilad trwy ddefnydd preswyl o'r
lloriau uchaf;
-
osod rhwyllau latis/rhydyllog mewnol;
-
osgoi cilfachau drysau sy'n creu mannau cuddio;
-
osgoi gwydro ar lefel y llawr yn enwedig mewn drysau; ac
-
osgoi canopïau dros flaen siopau sy'n gallu denu grwpiau o
bobl mewn tywydd garw, sydd yn ei dro yn denu difrod a sbwriel.
Egwyddorion Cynllunio
Lle mai rhwyllau neu gaeadau yw'r unig ateb i fandaliaeth a phroblemau
diogelwch difrifol mae angen mynd i'r afael â'r pwyntiau canlynol:
-
mae'r dulliau sy'n fwyaf derbyniol yn weladwy yn cynnwys defnyddio
gwydr gwydn i rwystro fandaliaeth, gwydr wedi'i laminadu i rwystro
bwrgleriaeth a lladrata a ffilmiau adlynol annhoradwy ar ffenestri
sy'n bodoli eisoes a rhwyllau latis mewnol rhydyllog;
-
dylai paen allanol uned wydr dwbl fod yn wydn a'r paen mewnol wedi
ei laminadu;
-
mae rhwyllau mewnol neu rwyllau rholio allanol y gellir eu tynnu
yn fwy derbyniol na chaeadau; ac
-
ni roddir caniatâd cynllunio i gaeadau rholio metel solet.
Dan amgylchiadau arbennig, lle bo achosion rheolaidd o fandaliaeth, lle
nad yw dulliau diogelwch eraill wedi datrys y problemau, a lle nad yw
camerâu diogelwch cylch caeëdig yn gwylio'r siop, yna gellir
ystyried gosod caeadau polycarbonad rhydyllog (wedi eu goleuo o'r tu ôl
os yw'n bosibl) neu gaeadau ais tyllog, yn y drefn uchod.
Dylai'r system diogelwch:
- fod wedi ei hintegreiddio i ddyluniad blaen y siop;
- fod ar y raddfa leiaf bosibl i amddiffyn y gwydro ond nid y cyfan
o du blaen siop;
- beidio â sefyll allan o wyneb y siop na chuddio unrhyw nodwedd
bensaernïol, ac os yw'n bosibl dylid defnyddio unrhyw amgaead wyneb
gwreiddiol;
- fod heb unrhyw arwyddion ychwanegol;
- beidio â defnyddio gorffeniad metel sy'n cyferbynnu'n rhy lym
â blaen traddodiadol siopau: mae gorffeniadau wedi eu hanodeiddio
neu haenau wedi eu powdro yn fwy derbyniol;
- ddefnyddio cloeon, bolltau a dulliau gosod sy'n cael eu cymeradwyo
gan eich Swyddog Atal Troseddu lleol; a
- pheidio ag ymwthio allan i briffordd gyhoeddus.
Oes angen caniatâd cynllunio arnoch?
Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw newidiadau sylweddol
sy'n effeithio ar ddiwyg allanol eiddo masnachol, gan gynnwys gosod caeadau
diogelwch allanol parhaol neu rwyllau. Fel arfer nid oes angen caniatâd
cynllunio ar gyfer rhwyllau na chaeadau ffilmiau na gwydr gwydn mewnol.
Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio i osod y rhain mewn adeiladau
rhestredig neu o bwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam LL11 1WL.
Ffôn: (01978) 292017
Ffacs: (01978) 292502
Mabwysiadwyd Hydref 1993; Diwygiwyd Hydref 2000
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 18 - Diogelwch Blaen Siop
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 18 - Diogelwch Blaen Siop - fformat PDF 163kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
12 - Wynebau Siopau
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|