|
Mae'r
cyfarwyddyd hwn yn ehangu ar gyfarwyddyd cynllun datblygu presennol mewn
perthynas â chynllunio tirlun trefol (adeiladau a'r bylchau rhyngddynt)
o fewn ardal anheddiad Wrecsam.
Mae'r cyfarwyddyd yn ffurfio ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar bob
cais cynllunio a allai effeithio ffurf a golwg y dirwedd a'r treflun yn
nhref Wrecsam.
Amcan y Cyfarwyddyd yw:
a) rhoi gwell dealltwriaeth i ddatblygwyr a thrigolion lleol o'r agweddau
sy'n gwneud Wrecsam yn wahanol;
b) ei gwneud hi'n haws i baratoi ac asesu cynlluniau datblygu ar sail
gyson;
c) rhoi cyfarwyddyd i gynorthwyo i sicrhau y bydd newidiadau yn bositif
a phriodol ar gyfer yr ardal, gan arwain at wella'r tirlun trefol.
Rhannwyd y dref i nifer o ardaloedd cymeriad, sy'n rhannu'r un nodweddion
o ran oed, ffurf, cysyniad neu ddefnydd. Dangosir y rhain ar y map ardal
cymeriad tirlun trefol Wrecsam y dylid ei ddarllen ynghyd â'r nodyn
cyfarwyddyd hwn. Gosodir cyfres o nodau cynllunio ar gyfer pob ardal.
Yn ychwanegol amlinellir cyfres o gyfleoedd gweithredu; mae'r rhain yn
weithrediadau nad ydynt yn perthyn yn uniongyrchol i'r broses cynllunio
y gellir eu gweithredu gan weithgareddau'r awdurdod lleol ac eraill.
Mae'r canllawiau hyn yn cyfannu cyfarwyddyd cynllunio safonau rheoli
datblygu, nodiadau cyfarwyddyd cynllunio lleol a chyfarwyddyd Ardaloedd
Cadwraeth presennol sydd ar gael o'r Adran Cynllunio.
Tra bod y cyfarwyddyd yn cydnabod amrywiaeth a gwerth treflun Wrecsam,
mae'n anelu at warchod nodweddion gorau o fewn pob ardal cymeriad, nid
yw'n diystyru atebion cynllunio tirlun trefol mentrus, anarferol neu arloesol,
lle y bo'n briodol.
Cyfarwyddyd cynllunio presennol
Mae polisïau S4 (b) E1 ac E2 Cynllun Lleol Wrecsam Maelor mabwysiedig
yn anelu at sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn amharu ar gymeriad tirlun
a threflun. Mae gan bolisïau PS2 a GDP1(b) drafft y Cynllun
Datblygiad Unedol amcanion tebyg a byddant yn cymryd lle polisïau'r
cynllun lleol cyn bo hir.
Yr Ardaloedd Cymeriad
Rhannwyd Wrecsam yn 10 ardal cymeriad gwahanol sy'n rhannu i 5 categori
ar sail ymarferol a chronolegol gan ddangos sut mae'r dref wedi tyfu a
newid, yn enwedig ers canol y 19eg ganrif.
Ymgynghori Cyhoeddus
Datblygwyd y canllawiau ar gyfer yr ardaloedd cymeriad yn dilyn ymgynghori
a ddigwyddodd yn ystod haf 2000. Ymgynghorwyd â phob Cyngor Cymuned
Tref Wrecsam, Cymdeithas Preswylwyr a chymdeithas mwynderau. Cynhaliwyd
arddangosfa hefyd yng nghyntedd Llyfrgell Wrecsam i alluogi aelodau'r
cyhoedd i gyflwyno'u sylwadau.
Ardaloedd Cymeriad Tirlun Trefol Wrecsam
| Categori |
Rhif |
Ardaloedd Cymeriad |
|
1. CANOL Y DREF
Mae canol y dref, sy'n cynnwys rhan hynaf y dref, y ganolfan siopa
bresennol, a'r ardal a ddefnyddir ar gyfer pwrpasau 'dinesig' yn
gorwedd i'r gogledd o ddyffryn bach Afon Gwenfro. Mae canol Wrecsam
wedi ei wahanu o'r ardaloedd preswyl gan gylch o ddefnyddiau tir
dibreswyl cymysg i raddau helaeth ond mae'n dal i fod yn brif ganolbwynt
y dref.
|
1a |
Craidd Hanesyddol
Ardal yn amgylchynu Eglwys y Plwyf San Silyn y 14eg Ganrif. Mae
llawer yn gynwysedig yng Nghanol y Dref ac yn Ardaloedd Cadwraeth
Ffordd Grosvenor. Canolfan fanwerthu. |
| 1b |
Craidd Dinesig
Yn cynnwys swyddfeydd y cyngor, llyfrgell, Byd Dwr gorsaf yr heddlu
a'r llysoedd. Yn gymharol ddiweddar a chymeriad agored. |
|
2. PRESWYL CYN Y RHYFEL BYD CYNTAF
Dymchwelwyd Llawer O'r Tai Diwydiannol Hynaf A Adeiladwyd Cyn Y
Rhyfel Byd Cyntaf Yn Agos I Ganol Y Dref Dan Raglenni Iechyd Cyhoeddus
A Chlirio Slymiau, Ond Mae Ardaloedd Sylweddol O Dai Fictoriaidd
Ac Edwardaidd Yn Parhau Y Tu Allan I Ganol Y Dref. Mae'r Tai Hyn
Yn Rhannu Yn Ddau Gategori O Gymeriad Cyferbyniol.
|
2a |
Terasau Traddodiadol
Patrwm Dwys O Strydoedd Cul, Terasau Bric Coch, Adeiladau Cymunedol,
Parcio Ar Y Stryd, Ychydig O Goed Ond Gyda Rhai Ardaloedd Mawr O
Leoedd Cymunedol Agored
|
| 2b |
Maestrefol Cyn Y Rhyfel Byd Cyntaf
Filâu Maestrefol, Gerddi, Coed Aeddfed A Gwrychoedd. Llawer
Ohono Wedi Ei Gynnwys Yn Ardaloedd Cadwraeth Parc Salisbury A Ffordd
Y Tylwyth Teg
|
|
3. PRESWYL RHWNG RHYFELOEDD
Adeiladwyd Tai Rhwng Y Ddau Ryfel Yn Bennaf I'r Gogledd A'r Dwyrain
O Ganolfan Hynaf Wrecsam Gyda Rhai Ystadau Llai I'r De A'r Gorllewin.
Mae'r Ardaloedd Preswyl Hyn Yn Cynrychioli Maestrefoli Wrecsam Ddiwydiannol
Ar Raddfa Fawr. Maent Yn Cynnwys Dau Brif Fath O Dai Yn Bennaf Ond
Maent I Gyd Yn Rhannu Nodweddion Y Mudiad Gardd-Ddinas Gydag Arddulliau
Pensaernïol Tebyg A Nodweddion Tirlun Fel Gerddi Blaen A Chefn,
Gwrychoedd Ffin Ac Yn Aml Ochrau Glaswelltog  Choed Ar Y
Stryd.
|
3a |
Tai Maestrefol Rhwng Rhyfeloedd
Tai Pâr 'Y Siroedd Cartref' Y 1930au. Maent Yn Aml Ar Ffurf
Datblygiad Stribedog Ar Hyd Ffyrdd Prifwythiennol. Gerddi Blaen
A Chefn, Gwrychoedd, Coed Aeddfed.
|
| 3b |
Maestrefi Cynllunedig Rhwng Rhyfeloedd
Stadau Wedi Eu Cynllunio O Dai Teras A Thai Pâr - Garden
Village, Yr Hen Ddatblygiad Parc Acton, Spring Lodge, Huntroyde,
Rhodfa'r Dwyrain
|
| 4. PRESWYL AR ÔL YR AIL RYFEL
BYD
Ers Yr Ail Ryfel Byd Cafwyd Datblygiadau Tai Eang Iawn Ar Gyrion
Wrecsam, Yn Enwedig I'r Gogledd A'r Dwyrain, Â Thair Prif
Is-Adran Cymeriad Tirlun.
|
4a |
Ystadau Tai Yn Gynnar Ar Ôl Yr Ail Ryfel Byd
Terasau Byr O Dai Wedi Eu Gwahanu O'r Priffyrdd, Ychydig O Ddarpariaeth
Ar Gyfer Ceir, Llawer O Leoedd Agored
|
| 4b |
Fflatiau Hightown
Fflatiau Concrit Onglog Uchder Canolig
|
| 4c |
Ystadau Diweddar
Ystadau Diweddar Helaeth O Dai Ar Wahân Gyda Ffyrdd Wedi'u Cynllunio
Ar Gyfer Y Car. |
| 5. DIBRESWYL CYMYSG
Ardal Sy'n Amgylchynu'r Craidd Hanesyddol Ac Sy'n Cynnwys Yn Draddodiadol
Cymysgedd O Ddatblygiad Preswyl, Diwydiannol A Masnachol Ar Raddfa
Fechan Neu Gymedrol Ac Mae Rhai Ardaloedd Yn Weddill.
|
5 |
Dibreswyl Cymysg
Yn Cynnwys Amrywiaeth O Fusnesau Diwydiannol, Manwerthu, Gwasanaethau
A Datblygiadau Hamdden Ynghyd  Datblygiadau Ffyrdd Cysylltiedig
A Meysydd Parcio Yn Bennaf. Mae Adeiladau'n Aml Ar Raddfa Fawr Sy'n
Gallu Edrych Yn Anghydweddol Pan Fônt Ger Adeiladau Hyn
|
Canllawiau Cynllunio Ar Gyfer Ardaloedd Cymeriad Tref Wrecsam
| Rhif
|
Ardal Cymeriad
|
Strategaeth
Ar Gyfer Newid
|
Nodau Cynllunio
|
| 1a |
CRAIDD HANESYDDOL |
Cadwraeth
Adfer
Annog Amrywiaeth
|
|
| 1b |
CANOLFAN DDINESIG |
Gwella
Annog Amrywiaeth
|
-
Cadw A Chryfhau Mannau Cyhoeddus Gyda Chysylltiadau Cerddwyr
A Beiciau Yn Ymestyn Allan I Ardaloedd O Gwmpas Ac Ar Gyrion
Wrecsam.
-
Hyrwyddo'r Defnydd O Gynllunio O Ansawdd Uchel A Defnyddiau
O Ansawdd Uchel.
-
Annog Cynllunio Adeiladau Arloesol Sy'n Gymesur Gyda'r Adeiladau
Presennol Mewn Gosodiad Tirlun Addas.
-
Ymrannu Ardaloedd Eang O Feysydd Parcio Gyda Choed A Gwrychoedd.
-
Dilyn Cyfarwyddyd Ardal Gadwraeth Presennol Lle Y Bo'n Berthnasol.
|
| 2a |
TERAS
TRADDODIADOL
|
Gwella
Annog Cydymffurfiad
|
-
Cadw A Gwella Holl Ardaloedd Agored Cymunedol.
-
Diogelu Ffurf, Dwysedd A Manyldra'r Adeiladau.
-
Gwrthwynebu Colli'r Adeiladau Presennol.
-
Dilyn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Rhif
11 Ar Gyfer Tai Teras O Ran Cadw Ac Adfer Adeiladau.
-
Tai Newydd I Barchu Dwysedd, Ffurf Yr Adeiladau, Llinell Adeiladu,
Defnyddiau A Nodweddion Presennol Ffiniau Adeiladau Cyfagos.
-
Cadw'r Waliau Terfyn Cerrig Neu Fric Gwreiddiol A Cherrig Copa
Amrywiol, Peidio  Chefnogi Amnewidiadau Gan Ffensiau
Neu Ddefnyddiau Eraill.
CYFLEOEDD GWEITHREDU
-
Gwella Palmentydd Ac Amodau Cyffredinol Ar Gyfer Cerddwyr A
Beciwyr.
-
Annog Tynnu/Rhesymoli Pyst Telegraff Ac Arwyddion A Rhwystrau
Diangen.
-
Gwella Parcio Ar Y Stryd Lle'n Bosibl, A Pheidio  Chefnogi
Parcio Mewn Gerddi Blaen.
|
| 2b |
MAESTREFOL CYN Y RHYFEL BYD CYNTAF
|
Cadwraeth
Adfer
|
Cyfeiriwch At Yr Asesiad
Ardal Gadwraeth Presennol, A'r Canllawiau Gwella
Sydd Ar Fin Eu Cyhoeddi.
|
| 3a |
MAESTREFI
RHWNG Y
RHYFELOEDD
|
Cadwraeth
Adfer
Gwella
|
- Cadw A Gwella Ochrau Ffyrdd A Choed Stryd Presennol.
- Mynnu Gwelliannau A Newidiadau Sensitif I Anheddau Sy'n Cadw
Ac Yn Ail Greu Manylion Pensaernïol Presennol.
- Cadw'r Dwysedd Isel O Ddatblygiad A Gwrthwynebu Gor-Ddatblygu
Lleiniau Neu Ddatblygiad Cefnwlad Ansensitif.
- Cadw Waliau Ffin Cerrig Neu Frics Presennol.
- Cadw Gwrychoedd.
CYFLEOEDD GWEITHREDU
|
| 3b |
MAESTREFI
CYNLLUNIEDIG
RHWNG Y
RHYFELOEDD
|
Cadwraeth
Adfer
Gwella
Annog Cydymffurfiad
|
-
Annog Cadw Ac Ailosod Gwrychoedd.
-
Annog Cadw Nodweddion Cynllunio Gwreiddiol 'Celfyddyd A Chrefft'
Mewn Adeiladau Gyda Nodweddion Tirlun Gwreiddiol Fel Clwydi,
Pyst Lampau, Coed Aeddfed Ar Ochrau Glaswelltog.
CYFLEOEDD GWEITHREDU
- Edrych Ar Atebion Eraill I Broblemau Parcio.
- Ail Osod Ochrau Ffordd A Gollwyd.
- Annog Cynnal A Chadw Cost Effeithiol Ystad Dai Gyfan Sy'n Diogelu
A Gwella Nodweddion Pwysig.
- Gwella Amodau Ar Gyfer Cerddwyr.
- Annog Tawelu Traffig Gan Ddefnyddio Defnyddiau Sy'n Briodol
I'r Safle.
|
| 4a |
YSTADAU YN GYNNAR AR ÔL YR AIL RYFEL BYD
|
Gwella Ac / Neu
Ailddatblygu
Annog Amrywiaeth
|
- Sicrhau Bod Materion Tirlun/Treflun Yn Cael Ystyriaeth Gynnar
Mewn Unrhyw Gynigion Gwella Neu Ailddatblygu.
- Cadw'r Hen Byst Lampau, Sicrhau Bod Rhai Newydd Ar Raddfa Debyg.
- Annog Rhesymoli/Symud Polion Telegraff Wrth I Gyfleoedd Godi.
- Cadw Waliau Cerrig, Gan Sicrahu Bod Ailbwyntio Yn Cael Ei Wneud
Gyda Chymysgedd Morter Sy'n Wannach Na'r Garreg. Defnyddio Gwrychoedd
Yn Hytrach Na Ffensiau Ar Ben Waliau Carreg Cynnal Tir.
- Cadw Gwrychoedd (E.E. Ffawydden, Prifet), Ond Defnyddio Ffens
Balis Pren Yn Hytrach Na Ffens Ddolenog Os Ydynt Yn Cael Eu Hailosod.
Lle Mae Gerddi Blaen Cynllun Agored Yn Gaeëdig Defnyddio
Gwrych (Fyddai Orau), Neu Ffens Balis Bren Wedi'i Staenio I Gyd
Fynd A'r Hyn Sy'n Bod Eisoes.
CYFLEODD GWEITHREDU
-
Penderfynu Swyddogaethau Ardaloedd Lleoedd Agored Cyhoeddus
Presennol Ac Angenrheidiol A Datblygu'r Tirlun Yn Unol Â
Hyn.
-
Diffinio Ffiniau Cyhoeddus/Preifat Gyda Phlanhigion, Waliau
A Ffensiau.
-
Darparu Manylion O Ansawdd Uchel Sydd Eu Hangen, Lle Mae Cyfleoedd
Yn Codi, Er Mwyn Cyfoethogi Tirlun Strydoedd, Rhoi Mwy O Unigoliaeth
I Ardaloedd Ac Uwchraddio Delwedd Yr Ardal.
-
Gwella Cyflwr Palmentydd Cul.
-
Creu Lleodd Parcio Ychwanegol Lle Bo Angen Ar Gwr Lleoedd Agored
Glaswelltog, A Phlannu O'u Hamgylch.
-
Defnyddio Cyfleoedd Sydd Ar Gael Mewn Lleoedd Agored Cyhoeddus
Eang I Blannu Coed Mwy A Darparu Llwybrau Troed A Llwybrau Beiciau.
-
Gwella Lleoedd Agored Ym Mhobman I'w Gwneud Yn Fwy Diddorol
A Bod Mwy O Gymeriad Iddynt.
|
| 4b |
FFLATIAU HIGHTOWN
|
Gwella
Ac / Neu
Ailddatblygu
Annog
Amrywiaeth
|
-
Hyrwyddo Newidiadau Sy'n Cynorthwyo Torri Graddfa Adeiladau
I Fyny, Cynorthwyo Intigreiddio A Gwella Delwedd.
-
Ailosod Colledion Mewn Lleoedd Agored Cyhoeddus Mor Aml Ag
Sydd Angen.
CYFLEOEDD GWEITHREDU
-
Cyfoethogi'r Tirlun Gyda Dodrefn Stryd O Ansawdd Uchel Lle
Y Bo'n Briodol.
-
Defnyddio Lliw I Dorri Maint Adeiladau.
-
Annog Plannu Ar Falconïau.
-
Plannu Mwy Mewn Lleoedd Agored Cyhoeddus.
-
Wynebu Llwybrau Cerddwyr Gyda Defnyddiau O Ansawdd Uchel.
|
| 4c |
YSTADAU DIWEDDAR
|
Gwella
Annog Amrywiaeth
|
-
Cyflwyno Coed Mawr A Fydd Yn Cyfrannu Mwy Na Choed Maint Gardd
At Fwynderau Yn Y Dyfodol.
-
Annog Defnyddio Mathau Eraill O Wrychoedd I Leihau Problemau
Yn Y Dyfodol Gyda Choed Leyland A Lawson Sy'n Tyfu'n Gyflym.
-
Darparu Cylchfa Ragod Ar Gyfer Datblygiadau Newydd Ar Ymyl
Cefngwlad A Chynnwys Nodweddion Cefn Gwlad Blaenorol Yn Y Datblygiad
Newydd. Darparu Cysylltiadau I'r Cefn Gwlad O Amgylch Yn Ogystal
 Chysylltiadau I Mewn I Ardaloedd Trefol Presennol.
-
Ystyried Cynlluniau Ffyrdd Mewn Datblygiadau Newydd Sy'n Wahanol
I'r Canllawiau Safonol I Annog Cynlluniau Tai Arloesol Nad Ydynt
Yn Cael Eu Cynllunio O Gwmpas Y Car.
-
Annog Plannu Coed Stryd A Gwrychoedd Terfyn Mewn Datblygiadau
Newydd.
CYFLEOEDD GWEITHREDU
|
| 5 |
DIBRESWYL
CYMYSG
|
Gwella
Ailddatblygu
(Peth)
Annog Amrywiaeth
|
-
Cadw'r Hyn Sydd Orau O'r Tirlun Presennol Mewn Datblygiadau
Newydd Gan Gynnwys Ardaloedd O Ddiddordeb Ecolegol (Hyd Yn Oed
Os Nad Ydynt Wedi Eu Penodi), Gwrychoedd, Waliau Cerrig, Dyfrffosydd
Ac Unrhyw Nodweddion Eraill O Werth Hanesyddol Neu Arall.
-
Defnyddio Cyn Lleied A Bo Modd O Ffensiau Diogelwch Yn Enwedig
Os Oes Angen Ffens Balis. Os Oes Angen Ffens, Defnyddier Lliw
Gwyrdd Tywyll Neu Ddu Gyda Physt Yr Un Lliw.
-
Cynnal A Chreu Cysylltiadau I Dai Oddi Amgylch A Chanol Y Dref,
Gan Ddefnyddio Cyfleoedd Ar Gyfer Llwybrau Troed/Beiciau Ar
Wahân A Hefyd Arosfannau / Llochesi Sy'n Ddeniadol, Diogel
Ac Yn Gyfforddus I'w Defnyddio.
-
Llochesi Bws Newydd Sy'n Ddeniadaol, Diogel Ac Yn Gyfforddus
I'w Defnyddio.
-
Cadw A Gwarchod Coed Aeddfed Presennol Ac Integreiddio Datblygiadau
Manwerthu Mawr I'r Treflun Trwy Ddefnyddio Lliwiau Enciliol
Ar Gyfer Waliau A Thoeau Ynghyd  Phlannu Coed Ar Raddfa
Fawr. Mae'n Bosibl Y Bydd 'Toeau Gwyrdd' Yn Opsiwn Ar Gyfer
Y Dyfodol. Torri Llinellau Toeau I Fyny Er Mwyn Lleihau'r Raddfa
Amlwg (E.E. Mae Hen Doeau Ffatri Dantllif Gyda Ffenestri Sy'n
Wynebu'r Gogledd Yn Enghraifft Dda O Effeithlonedd Egni Ac Yn
Cydweddu Gyda Graddfa Toeau Domestig).
-
Osgoi Gwaith Cloddio A Llenwi Ar Raddfa Fawr Sy'n Dinistirio'r
Dirffurf Wreiddiol A Chreu Hafnau Ac Argloddiau Annaturiol.
Rhoi Ystyriaeth I Ddatblygiadau Lefel Gwahân Fel Dewis
Arall.
-
Cynnal Cylchfa Ragod Ger Dyfrffosydd A Dwr.
-
Cyflwyno Planhigion Newydd Lle Bo'n Briodol.
CYFLEODD GWEITHREDU
- Rhannu Mannau Parcio Eang Drwy Blannu Coed A Llwyni Ac Arwynebau
Cyferbyniol.
- Ailblannu Coed.
|
Am wybodaeth bellach cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio,Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam, LL11
1WL.
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292019
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Chwefror 1993
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 19 - Ardaloedd Cymeriad Tref Wrecsam
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 19 - Ardaloedd Cymeriad Tref Wrecsam - fformat PDF 334kb 
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 19 - Map Ardaloedd Cymeriad Tref Wrecsam
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 19 - Map Ardaloedd Cymeriad Tref Wrecsam - fformat PDF 202kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
4 - Ardaloedd Cadwraeth
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|