skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 21- Lle o Gwmpas Anheddau

 

Lle o Gwmpas Anheddau

Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn manylu ar bolisïau mewn cynlluniau datblygu ar amwynder preswyl. Mae'n gymwys ar gyfer adeiladu a throsi tai newydd a bydd yn ffurfio ystyriaeth bwysig wrth benderfynu pob cais cynllunio perthnasol.

Mae'n ddymunol gwneud y defnydd gorau posibl o dir drwy gynyddu amlder tai. Fodd bynnag, mae gan breswylwyr hawl i fwynhau gradd resymol o le, preifatrwydd a golau dydd yn ac o gwmpas eu cartrefi - ffactorau a elwir yn 'amwynderau preswyl' fel arfer. Mae'r nodyn hwn yn gosod allan cyfres o ganllawiau i sicrhau bod datblygiad newydd yn diogelu amwynder preswyl.

Pellterau rhwng anheddau

Dylai tai newydd gael budd o radd foddhaol o breifatrwydd a golau dydd. Ni ddylai preswylwyr tai presennol gael eu heffeithio'n ormodol gan y datblygiad.

I gyflawni hyn, dylid cynnal pellterau gwahanu lleiaf rhwng tai ac yn arbennig rhwng ffenestri sy'n rhoi golau i ystafelloedd y gellir byw ynddynt. Mae'r ystafelloedd hyn yn cynnwys ystafelloedd byw, ystafelloedd gwely, astudfeydd, a cheginau bwyta. Nid ydynt yn cynnwys cynteddau, pennau grisiau, coridorau ac ystafelloedd defnyddiol.

  • Lle mae dwy ystafell y gellir byw ynddynt yn wynebu ei gilydd fel bo modd gweld i mewn i'r ystafelloedd, dylai'r ffenestri fod yn 22 metr ar wahân.
  • Lle mae ffenestr mewn ystafell yn wynebu wal wag y mae ei huchder yn fwy na phen y ffenestr honno, dylid cael pellter yn mesur lleiafswm o 13 metr rhyngddynt.

Yn achos ffenestr cegin, gellir llacio’r safonau hyn os oes sgrîn briodol yn ei lle.

Mae’r safonau hyn yn berthnasol i dir gwastad.

Lle mae’r tir yn gogwyddo, bydd angen mwy o bellter er mwyn i’r pellter yn y safon gynyddu un fetr am bob hanner metr o wahaniaeth yn yr uchder. Gofynnir i ddatblygwyr nodi lefel(au) llawr gorffenedig eu hadeilad(au) ar eu cynlluniau mewn perthynas â phwynt sail penodol a, lle ceir ffenestri ar eiddo cyfagos presennol, lefelau’r eiddo.

Pellterau rhwng anheddau ar lethr

Pellterau Gwahanu ar Tir ar Ogwydd Yn achos datblygiadau tri llawr neu fwy ger datblygiad un neu ddau lawr, bydd y safon 13m/22m yn cynyddu 2 fetr am bob llawr ychwanegol (yn ogystal ag unrhyw gynnydd o ganlyniad i wahaniaethau yn lefel y tir).

Gerddi

Dylai pob tÿ newydd gael budd o ardd breifat ar gyfer sychu dillad, cadw anifeiliaid anwes, lle i blant chwarae, mwynhad tawel, ayb. Nid yw gerddi blaen yn gyfystyr â gerddi preifat. Dylid dilyn y safonau canlynol er mwyn sicrhau bod yr ardd yn adlewyrchu maint a phwrpas y tÿ arfaethedig. Mae’n bosibl y bydd angen gosod gwrychoedd, waliau neu ffensys er mwyn sicrhau nad yw tai a gerddi cyfagos yn edrych i mewn ar yr ardd dan sylw. Rhaid cynllunio mannau preifat fel bod preswylwyr yn cael haul/golau dydd rhesymol. Ni ddylent gael eu hamgylchynu gan wal nac adeiladau uchel.

  • Ar gyfer anheddau a gynlluniwyd ar gyfer 3 unigolyn neu fwy, lleiafswm yr ardd breifat yw 50 m.sg
  • Ar gyfer anheddau a gynlluniwyd ar gyfer hyd at 2 unigolyn, lleiafswm yr ardd breifat yw 30 m.sg
  • Ar gyfer fflatiau, mae balconi neu fan preifat ar lefel tir yn ddymunol, wedi ei sgrinio'n ddigonol ac yn mesur o leiaf 10 m.sg.

Mae'r uchod yn lleiafswm safonau. Bydd gerddi mwy yn cael eu cefnogi gan y gallant gefnogi datblygiad cynaliadwy drwy alluogi preswylwyr i dyfu ychydig o fwyd eu hunain a chompostio eu gwastraff cartref.

Biniau

Rhaid gwneud darpariaeth ar y safle ar gyfer storio biniau gwastraff/ailgylchu. Dylid sgrinio’r man hwn yn briodol.

Parcio Ceir

Lle darperir lle i barcio ceir ar y safle, ni ddylai cerbydau wedi eu parcio fod ar nac ymyrryd â defnyddio'r ffordd neu'r palmant. I wneud hyn, dylai pob tramwyfa newydd fesur o leiaf 5.5 m o hyd. Dylid gosod garej mor bell yn ôl o'r ffordd i alluogi drws y garej i gael ei agor a'i gau tra bod car wedi ei barcio ar y dramwyfa.

Mae angen caniatâd cynllunio i adeiladu mynediad i gerbydau neu gerddwyr ar dir annedd o ffordd ddosbarthedig neu briffordd. Lle ystyrir cynigion mynediad yn dderbyniol ar sail diogelwch y ffyrdd a sail weledol, bydd angen lle i droi cerbydau hefyd. Bydd hyn yn sicrhau na orfodir ceir i facio allan i'r ffordd neu'r palmant. Dylai'r lle troi ddilyn yr esiampl a osodir allan yn y diagram isod.

Fodd bynnag, bydd eangderau helaeth o darmac neu goncrid tu blaen i eiddo’n hyll fel arfer ac mae’n well lleoli’r rhain tu ôl i linell yr adeilad. Gall plannu coed a gwrychoedd a defnyddio defnyddiau gwahanol ymrannu’r man parcio a lleddfu effaith ceir wedi eu parcio o’r ffordd ac o’r eiddo.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam LL11 1AR.

E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Ffôn: (01978) 292017
Ffacs: (01978) 292502

Adolygwyd Ionawr 2007

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 21 - Lle o Gwmpas Anheddau

Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.

Canllaw Rhif 21 - Lle o Gwmpas Anheddau - fformat PDF 136kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


10 - Lle Agoredd Cyhoeddus ar gyfer Datblygiadau Tai Newydd

Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint