 David Wilson Homes plc, Ty -Eco pedwar ystafell wely.
Llun gan: The University of Nottingham, School of the Built Environment. www.nottingham.ac.uk/sbe
Mae hwn yn un o gyfres o ganllawiau cynllunio lleol sy'n ychwanegu at bolisïau cynllunio lleol ar ffurf eglur a chryno, gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth a gwella safonau dylunio. Mae'n amlinellu gofynion y Cyngor am adeiladau cynaliadwy a bydd yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar bob cais cynllunio perthnasol.
Mae'r canllaw hwn yn cyfeirio a:
-
Anheddau. 10 neu fwy, neu ar safle sy'n 0.5 ha neu fwy, lle na ddangosir nifer yr anheddau.
-
Pob cynnig arall. Pan fo'r llawr arfaethedig yn 1,000 metr sgwâr (gros) neu fwy, neu fod y safle yn 1.00 hectar neu fwy, neu na ddangosir maint y llawr.
Mae Datblygiad Cynaliadwy yn amcan allweddol i gynllunio. Darpara Cynllun Datblygu'r Cyngor y cyd-destun strategol ar gyfer datblygiad cynaliadwy drwy ei bolisïau defnyddio tir, sy'n canolbwyntio ar:
-
Defnyddio tir, ynni a dwr (ac eithrio adnoddau naturiol) yn effeithiol a gofalus.
-
Lleihau gwastraff ac annog ailgylchu deunyddiau.
-
Defnyddio'r dulliau lleiaf niweidiol o gludiant a symud i'r eithaf.
-
Diogelu a datblygu amgylcheddau naturiol a threfol.
-
Hwyluso adfywiad economaidd a chymdeithasol.
Eich Cynnig
Dylai cynigion gynnwys arolwg amgylcheddol o'r safle * a chydymffurfio â phob un o'r chwe egwyddor 'cynllunio cynaliadwy' a amlinellir yn y canllaw hwn.
Ni all y canllawiau hyn gynnwys pob agwedd a chynghorir ymgeiswyr ac asiantau i drafod cynigion yn anffurfiol gyda swyddog cynllunio cyn cyflwyno'r cais yn ffurfiol.
Ar gyfer cynigion sydd o bwysigrwydd lleol neu ranbarthol, dylid ceisio cyngor Comisiwn Dylunio Cymru (manylion yn atodiad 1).
Defnyddir y cyngor yn y canllaw hwn i lunio datganiad cynaliadwyedd a ddylid ei gyflwyno gyda'ch cais cynllunio. Ceir crynodeb ar ddiwedd y canllaw hwn i chi asesu eich cynnig. Dylai eich cynnig lwyddo i gyflawni o leiaf 6 nodwedd gadarnhaol. Bydd y penawdau yn y daflen grynhoi yn eich helpu yn ystod unrhyw drafodaethau cyn cyflwyno'r cais gyda'r swyddogion cynllunio ac ymgynghorwyr statudol eraill, ac yn ddiweddarach ar gyfer cyflwyno eich cais cynllunio.
Dylid darparu digon o wybodaeth fanwl i alluogi'r Adran Gynllunio i asesu eich cynnig yn iawn. Bydd yr Adran Gynllunio yn gwirio a lwyddwyd i lunio adeilad cynaliadwy drwy'r broses gynllunio.
Camau y dylech eu dilyn i gwblhau adeilad cynaliadwy
CAM 1
Cwblhau arolwg amgylcheddol o'r safle *.
CAM 2
Asesu eich cynnig yn erbyn y chwe Egwyddor Cynllunio Cynaliadwy yn y canllaw hwn:
-
Lleoliad a chynllun.
-
Dyluniad yr adeilad.
-
Defnyddio a chyflenwi ynni a d@r.
-
Rheoli gwastraff.
-
Cludiant a mynediad.
-
Hyrwyddo bywyd gwyllt a'r adeilad o ran hynodrwydd naturiol
CAM 3
Cynllunio dyluniad y safle.
1 Lleoliad a chynllun
-
Lle'n briodol, cynnwys defnydd amrywiol i annog llai o siwrneiau yn y car a mwy o siwrneiau o amlbwrpas.
-
Dylunio cynlluniau i leihau'r angen i deithio gyda darpariaeth ar gyfer seiclo, cerdded a chludiant cyhoeddus o fewn a thu hwnt i'r safle.
-
Ystyried y posibilrwydd o ailddefnyddio adeiladau.
-
Cynyddu defnydd golau dydd naturiol ac ynni solar i'r eithaf yng nghynlluniau'r safle. Cyflawnir hyn orau mewn cynlluniau sy'n wynebu tuag at y de. Ymgeisiwch i gynlluniau'r ffyrdd ffurfio echel o'r dwyrain i'r gorllewin, gan fanteisio ar bosibilrwydd manteision solar.
(gweler ffig 1)
Ffig. 1


Ffig. 2
- Cyfeiriwch wyneb hiraf yr adeiladau o fewn 30 0 i'r de; o ddewis cyfeiriad de-ddwyreiniol, gan fanteisio ar olau dydd cynnar y bore, ac osgoi gorboethi yn y prynhawn (gweler ffig.2).
- Ceisiwch osgoi effeithiau cysgodi yn arbennig pan fo'r safle yn ffinio ag adeiladau gerllaw, coed a ffensys. Dyluniwch gyda mwy o bellter rhwng yr adeiladau, yn arbennig ar gyfercynlluniau sy'n wynebu tua'r gogledd.
- Bydd lefel y cysgodi'n amrywio drwy gydol y flwyddyn. Yn gyffredinol, dyluniwch i ddarparu;
adeiladau talach i'r gogledd.
plannu coed yn ofalus i osgoi lleihau manteision ynni a golau dydd naturiol.
lleoli adeiladau dwysedd uwch i'r gogledd i adeiladau ar wahan.
Pellter o 3 i 1 rhwng waliau o'i gymharu ag uchder yr adeiladau. Ni ddylai cynlluniau gyfaddawdu ar fesurau i ddiogelu preifatrwydd (gweler ffig.3). Mae Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Rhif 21, 'Lle o amgylch anheddau,' yn cynnwys canllaw pellach sy'n ymwneud â mesurau preifatrwydd.
- Cynhwyswch ddefnydd dwysedd uchel, yn arbennig os:
Ceir cludiant cyhoeddus yn agos ar hyn o bryd.
Bwriedir cyfleusterau cludiant cyhoeddus newydd / ychwanegol.
Ceir manteision ynni eraill e.e. math o adeilad. Mae gan dai teras, fflatiau a thai pâr fwy o botensial i golli llai o wres. Po fwyaf cywasgedig yw'r adeilad, mwya'r arbedion ynni.
Ceir potensial ar gyfer defnyddio technolegau arail e.e. gwres ac ynni cyfunol (CHP)/ System Wresogi Ardal (cyfeiriwch at Adran 3, tudalen 3).
-
Cynlluniwch y safle i'w ddiogelu rhag y gwynt. Gosodwch adeiladau mewn grwpiau neu darwahanwch adeiladau; osgoi damrwyfeydd hir a bylchau byr rhwng adeiladau. Er mwyn osgoi sianelu gwynt a chreu ardaloedd lle ceir gwyntoedd o gyflymder uchel, dylid gosod adeiladau talach yn ofalus. Lle'n briodol, gosodwch adeiladau dwysedd uwch (tai teras neu adeiladau talach) fel amddiffyniad rhag prifwyntoedd.
-
Gall llystyfiant gysgodi safleoedd rhag prifwyntoedd. Mae Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 7 'Tirwedd a Datblygiad' yn rhoi cyngor am y cynlluniau plannu mwyaf addas.
-
Dylai cynlluniau safleoedd hefyd ddarparu diogelwch rhag y gwynt a chyfleusterau i gerddwyr, beicwyr a phobl sydd ag anableddau synhwyrol neu gorfforol. Mae Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 6, Mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt' yn darparu cyfarwyddydyd manwl pellach.
-
Gosodwch fynedfeydd tai oddi wrth brifwyntoedd a'u diogelu gyda chyntedd neu borth.
Ffig. 3

2 Dyluniad yr Adeilad
-
Dylai gogwydd y toeau ddarparu gwydnwch, hyblygrwydd a mwyhau'r posibilrwydd ar gyfer technoleg solar i'r eithaf.
-
Cynhwyswch fodylau ffotofoltaidd (pv); a phaneli solar gweithredol i gynhyrchu ynni (Mae ynni solar yn gallu cynnig arbedion gwresogi sylweddol).
-
Bydd defnyddio gwagle'r to fel ystafell ychwanegol yn lleihau gorgysgodi, yn hytrach nag adeiladu llawr arall.
-
Lle bo'n ymarferol, defnyddiwch ddeunydd adeiladu a fydd yn mwyhau'r bywyd gwyllt e.e. toeau tywyrch 'gwyrdd' sydd hefyd yn lleihau'r d@r glaw ffo (cyfeiriwch at Egwyddor Rhif 3 am gyngor pellach ynghylch mesurau dwr).
-
Osgoiwch ffenestri mawr ar weddlun gogleddol lle byddai'n well lleoli ardaloedd 'byffer' e.e. toiledau, ceginau, ystafelloedd cotiau, mannau storio a grisiau ac adeiladau allanol cysylltiedig sydd angen llai o wresogi a deiliadaeth lai.
-
Dylai'r prif ystafelloedd byw fod ar yr ochr ddeheuol.
-
Dylech gynnwys ystafelloedd gwydr o ran manteision solar, gan ystyried y posibilrwydd o orboethi ar wynebau deheuol.
-
Ceisiwch osgoi troswydro a fydd yn arwain at orboethi yn yr haf a cholli gwres yn y gaeaf.
-
Defnyddiwch bargodion yn y to i ddiogelu yn erbyn glaw a darparu cysgod yn yr haf.
-
Rhaid awyru adeiladau. Awyru naturiol yw'r dull gorau. Ystyriwch ffenestri a nodweddion eraill e.e. awyru diferu a systemau a ddefnyddia aer cynnes ac oer.
-
Dewiswch deunyddiau'n ofalus; blaenoriaethwch y rheiny sy'n effeithio lleiaf ar yr amgylchedd. Ystyriwch:
-
Ddeunyddiau craidd lleol e.e. carreg, llechi.
Ddeunyddiau sydd â lefel cynhyrchu isel e.e. gwellt, corc, cywarch a phren o ffynhonnell gynaliadwy. Ceisiwch osgoi ddeunyddiau sydd â lefel uchel o gynhyrchu iddynt e.e. dur, plastig, concrit a deunyddiau artiffisial cyn belled â phosibl.
Deunyddiau a ailgylchwyd. Dylai cynigion dymchwel ac ailddatblygu ddarparu datganiadau ar gyfer ailgylchu'r deunyddiau presennol. Gellir ychwanegu amodau cynllunio i ddefnyddio deunyddiau a ailgylchir. Gellir ailddefnyddio neu mae mwyafrif y deunyddiau yn addas yn dibynnu ar eu hansawdd a'u saernïaeth a'u ymddangosiad, e.e. cerrig, llechi, teiliau, pren, briciau a cherrig pafin. Ystyriwch y dull mwyaf priodol o lanhau deunydd i'w ailddefnyddio. Er mwyn lleihau lladradau pensaernïol, dylid sicrhau tarddiad deunyddiau a ailgylchwyd.
- Lleihewch colli gwres yn y gaeaf a gormod o wres yr haul yn yr haf e.e. insiwleiddio'r to, waliau a'r lloriau. O'r mathau o inswleiddiad sydd ar gael ystyriwch y rheini a gynhyrchir yn naturiol e.e. bel gwellt, ffibr seliwlos, gwlân a chorc. Dylai adeiladau sy'n wynebu tua'r gogledd yn arbennig, gynnwys dulliau uwch-inswleiddio e.e gwydrad triphlyg.
3 Cyflenwi a defnyddio ynni a dwr.
-
Dylai cynigion wneud y mwyaf o'r adnoddau ynni naturiol e.e. gwynt, dwr a'r haul a thechnoleg ynni adnewyddadwy arall e.e. geothermol, biomas a threuliad anaerobig. Pan fo defnydd masnachol / diwydiannol ynghlwm wrth hyn, archwiliwch gwres ac ynni cyfunol (CHP) i wresogi'r llecyn a'r gymuned. Mae CHP yn broses sengl i ddarparu trydan a gwres.
-
Cyfyngwch ar y cyflenwad, y defnydd a'r galw am ddwr. Ystyriwch ddwr budr, dwr ffo a draeniad cyn gynted â phosibl e.e. sefydlu addasrwydd Systemau Draenio Cynaliadwy (SUDS) i reoli llygredd a gorlifiant. Gall SUDS hefyd ddarparu cyfleoedd cynefinol.
-
Dyluniwch ar gyfer cadw ac ailgylchu dwr glaw a dwr oddi ar doeau ac arwynebau caled eraill, lle'n briodol trin carthffosiaeth ('dwr du'). Defnyddiwch arwynebau athraidd ar gyfer mannau parcio a cherdded. Ceir cyfarwyddydyd pellach gan Asiantaeth yr Amgylchedd. (Gweler Atodiad1)
4 Rheoli Gwastraff
-
Gwastraff dymchwel ac adeiladu - nodi'r posibiliadau i ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau. Bydd rai i gynigion sy'n cynnwys dymchwel adeiladau ddangos sut y byddant yn ailgylchu'r deunyddiau presennol ar y safle.
-
Lleihau ac ailgylchu gwastraff. Defnyddio'r egwyddorion canlynol;
-
Dylid lleoli'r holl gyfleusterau ailgylchu mewn pwyntiau diogel a chyfleus, a luniwyd yn dda gyda sgrin addas. Dengys Ffig.4 y safonau sylfaenol ar gyfer cyfleusterau ailgylchu. Bydd y Cyngor yn disgwyl pob datblygiad i ystyried technegau newydd ar gyfer gwahanu a chadw gwastraff. Ceir cyfarwyddydyd pellach gan Swyddog Ailgylchu'r Cyngor
Preswyl
Dylai fod gan bob ty, gan gynnwys fflatiau, lecyn i gadw deunyddiau i'w hailgylchu ac ardal gompostio. Ceisiwch gynnwys biniau / cynhwysyddion ailgylchu cymunol deniadol a leolir mewn man addas i wahanu nwyddau e.e. papur, gwydr, alwminiwm a phlastig. Darparwch gyfleusterau i gompostio - ar gyfer compostio ar y safle neu ei gasglu.
Masnachol
Ceisiwch ddarparu man priodol ar y safle ar gyfer gwahanu, cadw a chasglu gwastraff yn rhwydd. Cynigiwch gyfleusterau ailgylchu i gwsmeriaid hefyd.
Ffig 4
Dimensiynau'r ganolfan ailgylchu y gymdogaeth chwech mewn rhes

5 Cludiant a mynediad
-
Dyluniwch i leihau defnyddio ceir drwy gysylltu at rwydweithiau presennol a darparu cyfleusterau newydd i gerddwyr a beicwyr, rhwydweithiau cludiant cyhoeddus a gwasanaethau lleol. Dylai cynigion tai fod o fewn 400m, taith gerdded pum munud oddi wrth ystod o wasanaethau a phellter sydd fan bellaf yn 1km o fuddion cymunedol pellach e.e. ysgolion, canolfan iechyd, coetir / man agored ac anffurifol a chyfleuster compostio.
-
Os ceir hygyrchedd i bob gwasanaeth, dylai dwysedd y safle'n gyffredinol fod o leiaf 30 uned yr hectar ar gyfer tai. Gall dwysedd uwch fod yn dderbyniol mewn rhai achosion yn arbennig safleoedd trefol.
-
Bydd trafodaethau gyda gweithredwyr cludiant cyhoeddus yn dangos yr angen lleol e.e. arosfeydd bws, dargyfeirio taith bresennol bws drwy safle a / neu daith bws newydd i wasanaethu'r safle; arosfan rheilffordd newydd; cymhorthdal ar gyfer gwasanaeth cymunedol megis bws/tacsi lleol (Gweler Traveline Cymru, atodiad 1)
-
Dylai dyluniad llwybrau i gerddwyr a beicwyr a mannau croesi fod yn ddiogel, yn weladwy ac yn ddymunol, gan gysylltu cyfleusterau lleol ac allweddol. Ceisiwch gynnwys pwyntiau dylunio sydd yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 15 'Beicio', a Rhif. 24 'Dylunio i Atal Troseddau'.
-
Dylai dyluniadau gynnwys mesurau rheoli traffig sy'n lleihau llif a chyflymder cerbydau i'r eithaf a rhoi blaenoriaeth a diogelwch i gerddwyr a beicwyr (e.e. 'Parth Cartref')
-
Lleihau meysydd parcio mewn datblygiadau newydd e.e. sefydlu cynllun rhannu car, arferion gweithio hyblyg, teithiau bws cymorthdaledig, cyfrannu at gyfleuster Parcio a Theithio.
6 Hyrwyddo y bywyd gwyllt ac adeiladu â hynodrwydd lleol
-
Amlhewch y cyfle i gefnogi bywyd gwyllt ac yn arbennig rhywogaethau cynhenid e.e. amrywiaeth o adeiladau a defnyddiau, bydd lefelau symud isel yn cefnogi bywyd gwyllt (gweler ffig. 5). Mae gan gynigion sy'n cynnwys nifer o unedau adeiladu bychain 'fannau gwyrdd cyfyngedig', amrywiaeth bychan na defnyddir, lefel uchel o draffig a symudiad o fewn y safle sy'n darparu llai o gyfleodd i gefnogi bywyd gwyllt.
-
Dylid creu a chefnogi lletemau, byfferau a chysylltiadau sy'n darparu llwybrau a rhwydweithiau gyda nodweddion tirweddol presennol o amgylch y datblygiad.
-
Darparwch amrywiaeth o gynefinoedd newydd o fewn ac o amgylch safleoedd e.e. coetiroedd, gwrychoedd, cynefinoedd dwr a gwlypdiroedd ' rhandiroedd cymunol', gwarchodfeydd natur 'parciau cyhoeddus' gerddi a meysydd. Bydd Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Rhif: 7 ' Tirwedd a Datblygiad'; Rhif 17 ' Coed a Datblygiad'; Rhif 10 ' Darparu Mannau Agored Cyhoeddus mewn Datblygiadau Tai Newydd'; ynghyd â Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Wrecsam yn darparu cyngor pellach gan gynnwys cynnal a chadw ac ansawdd tirweddau.
-
Darparwch flychau i adar ac ystlumod, neu lecynnau gwag arbennig o fewn adeiladau gyda phren sydd heb ei drin.
-
Gall y Cyngor eich cynghori am gynefinoedd sy'n cynnal rhywogaethau gwerthfawr neu rywogaethau dan fygythiad.
-
Dylai graddfa a lleoliad datblygiad barchu adeiladau hanesyddol a thirnodau cyfagos a mannau hynod. Dylid rhoi sylw arbennig i gadw a mwyhau cymeriad adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwriaethol. Bydd Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Rhif 4, Ardaloedd Cadwriaethol' yn darparu cyfarwyddydiadau pellach.
-
Dylai'r datblygiad ategu at gymeriad adeiladau lleol sy'n cynnwys ffactorau amgylcheddol a diwylliannol a hefyd ddilyn egwyddorion dyluniad trefol da.

Am wybodaeth bellach cysyllter â'r:
Prif Swyddog Cynllunio
Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR
Ffôn: (01978) 292017
Ffacs: (01978) 292502
Mabwysiadwyd Gorffennaf 2004
Yn ôl i'r brig
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 22 - Adeiladu Cynaliadwy
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 22 - Adeiladu Cynaliadwy - Fformat PDF 282kb 
Arolwg amgylcheddol
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Arolwg amgylcheddol - Fformat PDF 15kb 
Ffurflen Datganiad o gynaliadwyedd
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Ffurflen Datganiad o gynaliadwyedd - Fformat PDF 19kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
10 - Lle Agoredd Cyhoeddus ar gyfer Datblygiadau Tai Newydd
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|