|
Dyma un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd cynllunio lleol sy'n manylu ar bolisïau cynllunio lleol mewn perthynas â datblygu tir. Mae'n rhoi canllaw i'r wybodaeth atodol sydd ei hangen ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n cynnwys datblygu safleoedd a allent fod wedi eu llygru. Mae'n anelu at sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw lygredd posibl yn ddigonol fel bod y tir yn addas ar gyfer ei ddefnydd newydd heb berygl i'r amgylchedd - gan sicrhau nad oes perygl i iechyd a diogelwch pobl sy'n debygol o fod yn gweithio neu'n byw ar y safle neu'n ymweld â'r safle.
Bydd y camau sydd eu hangen wrth ystyried y potensial o lygredd tir yn amrywio'n helaeth. Y cam cyntaf fydd ystyried a yw'n debygol bod cefndir o ddefnydd tir a allai fod wedi arwain at lygredd, er enghraifft, hen orsaf petrol. Hyd yn oed os nad oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol bellach o lygredd ar y safle, mae'n beryglus gwneud unrhyw dybiadau. Gallech ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar hen fapiau, ar weithredoedd eiddo neu drwy wybodaeth leol. Er nad oes gan Adran Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor gronfa ddata o safleoedd a allai fod yn llygredig, mae'n bosibl cysylltu â hwy am gyngor.
Cyn penderfynu ar gais cynllunio ar dir lle gallai fod llygredd, bydd angen i'r Cyngor wneud astudiaeth ddesg i farnu a ellir datblygu'r safle'n ddiogel. Dylai'r adroddiad hwn fod ar gael fel rhan o'ch cais cynllunio os na ddymunwch oedi yn eich cais. Lle mae'r astudiaeth yn argymell bod angen ymchwiliadau pellach, mae'n ddoeth gwneud y gwaith hwn cyn cyflwyno eich cais cynllunio.
Yn ddibynnol ar ddifrifoldeb y llygredd, gallai'r Cyngor ofyn am wybodaeth bellach ar sut bydd y safle'n cael ei lanhau. Mewn achosion eithriadol, gallai fod angen gwrthod caniatâd cynllunio er ei fod yn fwy tebygol bod gwaith adfer yn bosibl a bod amodau'n cael eu gorfodi ar unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir. Gellir gorfodi amodau ar gyfer gwaith ymchwilio pellach a/neu ofynion adfer ar unrhyw ganiatâd cynllunio. Y cyngor gorau yw cael cyngor arbenigol ar y cyfle cyntaf posibl.
Gall tir gael ei effeithio gan lygredd ar ffurf cemegau neu nwyon yn y pridd, y dwr, yr adeiladau neu unrhyw ddefnydd arall ar y safle. Fel arfer, mae'r safleoedd hyn yn safleoedd tir llwyd h.y. rhai sydd wedi eu datblygu'n flaenorol, yn aml ar gyfer defnydd masnachol neu ddiwydiannol.
Mae Rhan IIA o Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol 1990 a Rheoliadau Tir Llygredig (Cymru) 2001 olynol yn delio ag etifeddiaeth llygredd tir i sicrhau bod tir yn addas ar gyfer ei ddefnydd presennol. Os yw tir yn destun cais cynllunio a/neu gais Rheoliadau Adeiladu, nid yw Rhan IIA yn gymwys. Fodd bynnag, mae'n rhaid ailddatblygu safle yn unol â safon sy'n ofynnol dan Ran IIA.
Nid yw'n bosibl cwmpasu'r holl faterion sy'n gysylltiedig â llygredd tir yn y nodyn hwn. Felly, gofynnir i ymgeiswyr ac asiantau ddilyn y cyfarwyddyd pellach a ddarperir gan y llyfryn o'r enw 'Cyfarwyddyd ar Ddatblygu Safleoedd â Llygredd Posibl' a baratowyd gan y Cyngor.
Mae'n bwysig nodi bod angen gwneud pob ymchwiliad llygredd ar sail safleoedd unigol gan nad yw unrhyw safle'r un fath ag un arall.
Mewn rhai achosion, mae'n bosibl na fydd y llygredd yn sylweddol - bydd ymchwiliadau safle priodol yn penderfynu ar yr hyn sy'n dderbyniol neu'n annerbyniol ar gyfer safle a'i ddefnydd arfaethedig.
Dan Ran IIA o Ddeddf 1990, mae tir llygredig yn:
"unrhyw dir sy'n ymddangos i'r awdurdod lleol y mae'r tir yn rhan o'i ardal mewn cyflwr, o ganlyniad i sylweddau yn, ar neu dan y tir sy'n golygu bod:
a) niwed sylweddol yn cael ei achosi neu fod posibilrwydd sylweddol o niwed yn cael ei achosi; neu
b) fod llygredd yn cael ei achosi neu'n debygol o gael ei achosi yn y dwr a reolir."
Rhoddir manylion pellach ar sut i gyflawni'r ymchwiliadau canlynol yn y llyfryn:
'Cyfarwyddyd ar Ddatblygu Safleoedd â Llygredd Posibl' a baratowyd gan y Cyngor.
Dylid anfon copïau o'r holl adroddiadau ymchwilio i lygredd i'r awdurdod cynllunio lleol ac Adran Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor er mwyn iddynt farnu pa un a oes angen gwaith pellach.
Cam Cyntaf: Ymchwiliadau Astudiaeth Ddesg
Dylid cyflawni astudiaeth ddesg o'r safle a'r tir o fewn pellter dylanwadol o'r safle. Dylai gynnwys y canlynol o leiaf:
- defnydd presennol a blaenorol y safle a'r ardal o gwmpas a'r peryglon llygredd posibl;
- geoleg (haenau arwynebol a chraig solet);
- hydroleg (dwr arwynebol);
- hydrogeoleg (dwr codi); a
- digwyddiadau o lygredd ar ac o fewn pellter dylanwadol o'r safle.
Bydd asesu'r wybodaeth hon yn nodi a fydd llygredd yn broblem ar y safle. Os yw'r astudiaeth yn nodi bod llygredd wedi bodoli neu os amheuir bod llygredd yn bodoli, dylai'r datblygwr gomisiynu gwaith ymchwilio pellach.
Ail Gam: Ymchwiliadau pellach (Ymwthiol)
Gall ail gam ymchwiliad fod yn ymwthiol h.y. cloddio pyllau arbrofol neu drilio tyllau yn y ddaear i asesu cyflwr y ddaear. Gallai gynnwys casglu samplau (pridd, dwr, trwytholch, nwy) i'w dadansoddi a/neu fonitro'r amgylchedd dwr codi neu nwyon yn y tymor byr neu hir. Bydd y gwaith hwn yn nodi presenoldeb go iawn y llygrwyr yn y ddaear, eu hymlediad a'u dwysedd. Bydd yr ymgynghorydd yn cyflawni asesiad risg wedyn a, lle bo angen, yn cynllunio gwaith adfer.
Er mwyn osgoi ystyriaeth annigonol neu anghyflawn o faterion llygru posibl ar y safle, bydd y Cyngor yn gofyn am gytuno ar nodau, cwmpas a gweithrediad y cam hwn yn yr ymchwiliad cyn dechrau'r gwaith.
Mae'r cynllun, dulliau a'r gweithdrefnau sydd ar gael ar gyfer y cam hwn o waith ymchwilio yn amrywio ac yn dibynnu ar y safle. Dylent fod yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymchwiliad astudiaeth ddesg.
Trydydd Cam: Strategaeth Adfer
Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y llygredd, gallai'r ymgynghorydd argymell bod angen gwaith adfer. Mewn achosion eithriadol, gallai'r gwaith adfer fod mor sylweddol fel y bod angen caniatâd cynllunio. Lle mae gwastraff arbennig dan sylw, gallai fod angen Asesiad Effaith Amgylcheddol. Bydd y Cyngor yn asesu holl adroddiadau'r ymgynghorwyr ac yn eu cael yn ddigonol (ond efallai ag angen i ddilysu'r gwaith adfer i raddau) neu'n annigonol ac angen gwaith asesu pellach.
Bydd y Cyngor yn gofyn i unrhyw waith adfer gael ei wneud gan gwmni cymwysedig ac i'r holl waith gael ei ddogfennu a'i wirio'n briodol er mwyn sicrhau ansawdd. Bydd angen cytuno ar ddull i ddangos cydymffurifad gyda'r Cyngor ymlaen llaw.
Rhaid i unigolyn cymwysedig, er enghraifft, ymgynghorydd amgylcheddol, gyflawni'r holl waith ymchwilio.
Disgrifir manylion y cymwysterau, profiad, yr angen am yswiriant indemniad proffesiynol, ayb yn y llyfryn manylach o'r enw 'Cyfarwyddyd ar Ddatblygu Safleoedd â Llygredd Posibl' a baratowyd gan y Cyngor.
Am wybodaeth bellach ar faterion llygru, cysylltwch â'r:
Prif Swyddog Diogelu'r Cyhoedd,Adeiladau'r Goron, Ffordd Caer,Wrecsam, LL13 8ZE.
Ffôn: 01978 297041
Ffacs: 01978 297003
Am wybodaeth bellach ar faterion cynllunio a rheoli adeiladu, cysylltwch â'r:
Prif Swyddog Cynllunio,Stryt y Lampint,Blwch SP 1290,Wrecsam, LL11 1WL.
Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292017
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Mai 2003
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 23 - Datblygu Safleoedd ar Dir Llygredig
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 23 - Datblygu Safleoedd ar Dir Llygredig - fformat PDF 225kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Mynegai Nodiadau Canllawiau Cynllunio Lleol
Mynegai Cynllunio
|