|
Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn amlygu polisïau cynlluniau datblygu mewn ffordd glir a chyson, sy'n cydnabod y gall cynllun amgylchedd corfforol ddylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad. Gall cynllun dymunol, llawn dychymyg a dichonol helpu i leihau troseddu, gofidio am droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i gyflawni amgylchedd diogelach ac o ansawdd uchel a gwelliant yn ansawdd bywyd trigolion. Bydd y nodyn yn ffurfio ystyriaeth sylweddol wrth benderfynu ar holl geisiadau cynllunio perthnasol.
Egwyddorion Cynllunio
Mae cynllunio i atal troseddu'n dibynnu ar gyflawni'r egwyddorion allweddol canlynol:
- lle diffynadwy - sy'n gwahaniaethu rhwng mannau cyhoeddus, lled-breifat a phreifat a nodweddir gan lefelau cynyddol o reolaeth mynediad i unigolion neu grwpiau penodol. Mae rhwystrau corfforol a/neu symbolaidd yn diffinio mannau, yn pwysleisio trosiant rhwng mannau ac yn atal mynediad dieisiau;
- tiriogaethedd - sy'n nodi mannau penodol, a ddiffinnir drwy gynllun neu leoliad unigryw cyfleusterau cymunedol, fel parth unigolyn neu grwpiau penodol. Mae defnydd rheolaidd o'r mannau hyn yn meithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth, diogelwch ar y cyd a pherthyn sy'n atal unrhyw darfu diofyn;
- goruchwyliaeth - sy'n peri i ddarpar droseddwyr fod yn amlwg, o ganlyniad i gyfuniad o gynllun, defnydd cymysg a gweithgareddau cymdeithasol lleol. Gellir gwella ar oruchwyliaeth yn naturiol drwy leihau rhwystrau gweledol a mannau cuddio neu'n ffurfiol drwy TCC neu batrolau diogeledd lle na allgoruchwyliaeth naturiol ddiogelu ardal;
- safonau diogelwch adeilad - sy'n atal pobl rhag cael mynediad, drwy osod caledwedd diogeledd a defnyddiau cryfach i safonau cymeradwy.
Ymagwedd Gyffredinol
Mae mesurau a anelir at wella diogelwch cyhoeddus yn estyn y tu hwnt i swyddogaethau cynllunio defnydd tir. Felly, mae'r ymagwedd a gymerir ar gyfer cynllunio i atal troseddu'n:
- gynhwysfawr - rhaid ystyried cynllun ar y cyd â mesurau diogelwch eraill (e.e. TCC, cloeon, cofrestriad Night Safe, ayb) a'r gymuned yn cadw eu llygaid ar agor
- cydweithredol - bydd estyn cyfrifoldeb am ddiogelwch i bob sefydliad â buddiant (e.e. Heddlu Gogledd Cymru, adeiladwyr tai, ayb) a thrigolion yn hybu ymdeimlad o berchnogaeth a balchder.
Rhestr Wirio
a) Tai
Lleoliad, Cynllun a Symudiadau
- lleolwch adeiladau i ganiatáu golygfa ddi-rwystr o eiddo cyfagos tra'n cadw preifatrwydd digonol a darparu golygfa uniongyrchol dros fannau cyhoeddus;
- cyfyngwch nifer y fflatiau a wasanaethir gan un fynedfa;
- cymysgedd o fathau o anheddau i'w wneud yn fwy tebygol y bydd rhywun gartref yn ystod y dydd yn rhai ohonynt;
- dylai gerddi cefn gysylltu â gerddi cefn eraill i gyfyngu mynediad diofyn o fan cyhoeddus;
- osgowch gynlluniau lle mae anheddau'n cefnu mannau agored neu lwybrau troed;
- dylid gosod mynedfeydd, storfeydd bin, mannau sychu cymunedol a siediau gardd yn glir o flaen prif ystafelloedd anheddau cyfagos i osgoi creu mannau tyw cuddiedig lle gall pobl guddio neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol;
- lleihewch lwybrau drwodd a nifer y mannau mynd a dod i ystadau a gwnewch ddefnydd da o ffyrdd pengaead;
- cyfyngwch gysylltiadau cerdded rhwng ffyrdd pengaead ac osgowch fynediad cefn i anheddau;
- dylid darparu parcio a modurdai o fewn y man preswyl a dylai ystafelloedd y mae pobl yn eu defnyddio edrych allan arnynt;
- dylid goleuo mannau parcio cymunedol yn dda ac ni ddylid eu gosod tu cefn i adeiladau, oni bai y'u rheolir gan glwydi a reolir o bell;
- dylai llwybrau troed fod yn glir, yn olau, yn uniongyrchol a dylai anheddau cyfagos edrych allan arnynt heb gorneli tywyll neu gudd lle gallai pobl guddio;
- mabwysiadwch fesurau arafu traffig i leihau cyflymdra traffig;
- defnyddiwch arwynebau ffordd gwahanol, pileri mynedfa neu culhewch y ffordd i ddangos mynedfeydd i ystadau;
- osgowch is-ffyrdd, yn enwedig lle nad oes modd gweld drwodd.
Adeiladau a Ffiniau
- dylai strwythurau un llawr fel cynteddau, estyniadau a modurdai gael to ar ogwydd i atal pobl rhag defnyddio hwy i gael mynediad i ffenestri neu agoriadau eraill ar y llawr cyntaf;
- gellir cyfyngu mynediad i gefn tai drwy ddefnyddio clwydi y gellir eu cloi oddeutu 2m o uchder heb gymhorthion neu fariau y gellid eu defnyddio i ddringo dros y clwydi;
- darparwch system ffôn fynediad â chlo trydanol mewn mynedfeydd cymunedol i fflatiau;
- gosodwch ddrysau o ansawdd uchel â gwydr wedi ei lamineiddio, o ddewis, clo mortais, tyllau gwylio a chadwyni;
- gosodwch ffenestri gwydr wedi ei lamineiddio o ansawdd uchel â chloeon;
- gall goleuadau diogeledd sy'n sensitif i symudiadau tu blaen a thu cefn i anheddau ond nad yw'n achosi niwsans i gymdogion wella diogeledd a goruchwyliaeth i adeiladau, eu defnyddwyr a'r rhai sy'n cerdded heibio;
- dylid defnyddio ffensys neu waliau i ddiffinio mannau preifat fel bod darpar droseddwyr yn teimlo'n llai hyderus;
- gosodwch drelis â phlanhigion pigog ar ben ffensys ysgafn i atal tresmaswyr mewn sefyllfaoedd risg isel;
- dylai ffiniau rhwng mannau cyhoeddus a gerddi cefn/ochr preifat mewn sefyllfaoedd risg uchel fod o leiaf 1.8 metr o uchder ac o ddefnydd cadarn na ellir ei gicio na'i wthio i lawr;
- gall plannu planhigion pigog helpu i atal graffitti a loetran yn ogystal â gwella diogeledd ffiniau. Mae'r planhigion hyn yn cynnwys celyn (Ilex aquifolium), helyg (Crateagus spp), pren melyn (Bereris julianae), drain tân (Pyracantha spp), drain du (Prunus spinosa) a'r rhosyn (Rosa rugosa/canina). Gellir cael cyngor pellach yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 7 - Tirlunio.
- dylid diffinio ffiniau blaen â waliau neu reiliau isel hyd at 1 metr o uchder neu drwy blannu gwrychoedd isel, mewn lleoliad cytrefol cynllun agored;
- dylai waliau bric gael pen ar ogwydd neu bigog i atal pobl rhag eistedd arnynt ac ymgynnull;
- ni ddylai waliau ffiniol gynnwys pileri y gellir eu defnyddio fel grisiau i gael mynediad.



b) Adeiladau Masnachol a Chyhoeddus
Lleoliad, Cynllun a Symudiadau
- dylid lleihau nifer y mynedfeydd ac allanfeydd i gerddwyr a cherbydau, dylent wynebu'r brif ffordd fynediad a mynd heibio i ddesgiau derbyn a swyddogion diogeledd er mwyn monitro ymwelwyr;
- dylid osgoi llwybrau ochr neu gefn a dylid rheoli mynediad i lwybrau presennol â chlwydi neu ddrysau;
- dylid gosod clwydi mewn mannau cludo, fel arfer tu cefn i ddatblygiad, i rwystro pobl nad oes hawl ganddynt gael mynediad;
- dylid gosod llochesi bws mewn mannau agored â digon o olau fel bod defnyddwyr yn weladwy bob amser;
- gwahaniaethwch rhwng mannau dadlwytho a mannau parcio drwy osod arwynebau gwahanol;
- lle'n bosibl, darparwch lety byw uwchben siopau i annog goruchwyliaeth naturiol;
- dylai llwybrau cerdded i ac o adeiladau ac i fannau cludiant cyhoeddus a meysydd parcio cyhoeddus fod yn uniongyrchol, wedi eu harwyddo ac â digon o olau;
- ni ddylid annog is-ffyrdd i gerddwyr.
Adeiladau a Ffiniau
- dylai mannau derbyn fod yn agored, croesawgar ac â digon o olau;
- dylid gosod drysau dianc rhag tân i atal fandaliaeth;
- gall defnyddio drysau gwydr trwchus helpu i weld mannau cudd neu helpu TCC i wylio o tu mewn i'r adeilad;
- nid yw waliau, ffensys rhannu a phlannu (heblaw am goed) yn uwch na 1m mewn meysydd parcio yn briodol gan eu bod yn cynnig gormod o gysgod
- darparwch barcio diogel gyda'r nos, lle'n briodol;
- dylid lleihau golau disglair sy'n tarfu ar eiddo cyfagos a mannau cyhoeddus;
- gosodwch ddrysau cefn sylweddol â chloeon o ansawdd uchel;
- gosodwch ffenestri â phaneli sefydlog a gwydr wedi ei lamineiddio, yn enwedig tu cefn i eiddo;
- darparwch gynhwyswyr planhigion mawr, bolardiau neu ddodrefn stryd arall i atal pobl rhag gyrru eu cerbydau i mewn i eiddo a siopau;
- dylai ffiniau gynnwys wal frics gadarn, rheiliau neu, lle'n briodol (e.e.mannau diwydiannol), ffensys palisad/paladin o leiaf 1.8 metr o uchder;
- gall plannu planhigion pigog helpu i atal graffiti a loetran yn ogystal â gwella diogeledd. Mae planhigion priodol yn cynnwys celyn (Ilex aquifolium), helyg (Crateagus spp), pren melyn (Bereris julianae), drain tân (Pyracantha spp), drain du (Prunus spinosa) a'r rhosyn (Rosa rugosa/canina). Ceir cyngor pellach yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 7 - Tirlunio.
- gellid defnyddio ffensys gwifrog a phigog mewn amgylchiadau eithriadol i ddiogelu mannau agored rhag difrod ond dylid eu cynllunio a'u lleoli'n ofalus fel nad ydynt yn weledol ymwthgar;
- gosodwch gaeadau mewn sefyllfaoedd risg uchel. Ceir cyngor pellach yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 18 - Diogeledd Blaenau Siopau.


c) Mannau Agored Cyhoeddus a Thirlunio
Lleoliad, Cynllun a Symudiadau
- dylai fod modd edrych allan yn uniongyrchol ar fan agored cyhoeddus;
- peidiwch â chreu darnau annigonol o fannau agored cyhoeddus sy'n anodd i'w cynnal a chadw;
- peidiwch â phlannu coed yn rhy agos i adeiladau lle gellir eu defnyddio i ddringo a chael mynediad i loriau uwch;
- peidiwch â phlannu coed na gwrychoedd lle byddant yn amharu ar oleuadau neu lwybrau i gerddwyr;
- ni ddylai cynlluniau plannu roi cyfle i bobl guddio neu ymgynnull ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol;
- dylid lleoli mannau chwarae i blant a llwybrau i'w cyrraedd o fewn golwg eiddo cyfagos ond nid ger ffyrdd a meysydd parcio.
Materion Manwl
- rhwystrwch gerbydau rhag cael mynediad heb awdurdod drwy osod waliau, ffensys neu folardiau;
- osgowch blanhigion a fydd yn tyfu mwy na metr o ran uchder ger llwybrau troed cyhoeddus;
- dylai tirlunio caled atal fandaliaid ac ni ddylai fod yn bosibl ei ddefnyddio fel teflyn;
- gall plannu planhigion pigog helpu i atal graffiti a loetran yn ogystal â gwella diogeledd. Mae planhigion priodol yn cynnwys celyn (Ilex aquifolium), helyg (Crateagus spp), pren melyn (Bereris julianae), drain tân (Pyracantha spp), drain du (Prunus spinosa) a'r rhosyn (Rosa rugosa/canina). Ceir cyngor pellach yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 7 - Tirlunio.
- dylid bod yn ofalus i beidio â chael goleuadau disglair iawn sy'n disgleirio ar eiddo cyfagos a mannau cyhoeddus
- dylid ffensio mannau chwarae i blant yn ddiogel a dylent fod yn ddiogel rhag fandaliaid.


Ceir cyngor pellach yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 10 - Mannau Agored Cyhoeddus ar Ddatblygiadau Tai Newydd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290 Wrecsam LL11 1WL.
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: (01978) 292017
Ffacs: (01978) 292502
Adolygwyd Mai 2003
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 24 - Cynllunio i Atal Troseddu
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 24 - Cynllunio i Atal Troseddu - fformat PDF 396kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 7 - Tirlunio
Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 10 - Mannau Agored Cyhoeddus ar Ddatblygiadau Tai Newydd
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|