|
Mae hwn yn un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd cynllunio lleol sy'n ymhelaethu ar gynigion cynllunio lleol mewn ffurf glir a chryno gyda'r nod o hybu ymwybyddiaeth a gwella safonau. Bydd y nodyn cyfarwyddyd hwn yn ffurfio ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio perthnasol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a mabwysiad ffurfiol gan y Cyngor.
Ni all y canllawiau hyn gwmpasu'r holl faterion, a chynghorir ymgeiswyr a gweithredwyr, lle bynnag y bo'r amgylchiadau'n anarferol, i drafod eu cynnig yn anffurfiol gyda swyddog cynllunio cyn cyflwyno cais ffurfiol. Fe'ch cynghorir i ymofyn cyngor cyn prynu a gosod dysgl loeren.
Gyda thwf teledu lloeren, bu cynnydd yn nifer y dysglau lloeren a osodir. Mae'r gyfraith cynllunio o ran dysglau lloeren hefyd wedi dod yn gymhleth. Mae'r daflen hon yn canolbwyntio ar ddysglau lloeren sy'n darlledu rhaglenni teledu1. Mae'n amlinellu:
- y gofynion o ran cynllunio,
- sut i leihau effaith weledol dysglau lloeren ar adeiladau unigol a'r strydlun.
Bydd y Cyngor yn penderfynu ar geisiadau ynghylch dysglau lloeren yn unol â'r nodyn cyfarwyddyd hwn, ynghyd ag ystyriaethau perthnasol eraill.
Caiff newidiadau o ran technoleg dysglau lloeren sy'n arwain at newidiadau i'w trawiad gweledol a deddfwriaeth cynllunio eu monitro er mwyn sicrhau y caiff y nodyn cyfarwyddyd hwn ei ddiweddaru.
Er mwyn helpu i leihau effaith ac annibendod dysglau lloeren ar gefn gwlad, pentrefi a threfi, mae polisi'r Cyngor yn gofyn bod dysglau lloeren yn cael eu gosod yn ofalus. Hyd yn oed yn yr amgylchiadau hynny lle nad oes angen caniatâd cynllunio, mae'n ofynnol i osod dysglau lloeren gyda'r effaith leiaf posibl ar adeilad, ac i'w tynnu pan nad oes eu hangen. Mae gosod dysglau lloeren yn ofalus yn osgoi'r angen i'r Cyngor ofyn iddynt gael eu symud neu eu tynnu.
Os oes ei angen, dylid sicrhau caniatâd cynllunio cyn gosod dysgl loeren.
Antena lloeren (neu ddysgl neu erial):
Cyfarpar a luniwyd i drosglwyddo neu dderbyn egni radio microdon i neu o loerennau, a ddefnyddir amlaf i dderbyn signalau darlledu teledu uniongyrchol.
Antena microdon ddaearol:
Cyfarpar a luniwyd i drosglwyddo neu dderbyn signalau gan antenâu eraill sydd ar dir. Telegraffyddion codau trwyddedig sy'n defnyddio'r rhain fwyaf.
Pryd mae angen caniatâd cynllunio?
Mae yna wahanol reolau gan ddibynnu ar y math o adeilad a'r lleoliad. Bydd yr Adran Gynllunio yn gallu eich cynghori os oes angen penodiad arbennig ar adeilad h.y. adeilad rhestredig, neu o fewn ardal cadwraeth neu gydag amodau cynllunio cyfyngedig.
A) Eiddo heb benodiad arbennig
Nid oes angen caniatâd cynllunio os bodlonir yr amodau canlynol:
Tai
Os yw'r eiddo yn d~ annedd sengl (heb ei ymrannu'n fflatiau):
- Dim mwy nag un ddysgl ar yr adeilad neu yn yr ardd.
- Nid yw'r ddysgl loeren yn fwy na 90cm (diamedr). Mae dysgl loeren safonol fel arfer yn llai na'r maint hwn.
- Os yw'r ddysgl yn cael ei gosod ar y to, ni ddylai fod yn uwch na rhan uchaf y to.
- Os yw'r ddysgl yn cael ei gosod ar gorn simnai, ni ddylai fod yn fwy na 45cm, nac yn uwch na rhan uchaf y corn simnai.
Pob eiddo arall
Mae'r rhain yn cynnwys: fflatiau, adeiladau masnachol, siopau, ffatrïoedd ayb.
Adeiladau neu strwythurau sy'n 15 o fetrau o uchder neu'n fwy (neu dros tua 5 o loriau o uchder).
- Dim mwy na 2 ddysgl ar yr adeilad cyfan.
Adeiladau neu strwythurau sy'n llai na 15 metr o uchder (neu'n llai na tua 5 o loriau o uchder).
- Ni ddylid gosod y ddysgl ar simnai, nag ar y wal na goleddf y to sy'n wynebu ffordd gyhoeddus neu lwybr cyhoeddus.
- Dylid gosod y ddysgl o fewn ffiniau'r adeilad neu strwythur.
- Os yw'r ddysgl yn cael ei gosod ar y to, ni ddylai fod yn uwch na rhan uchaf y to.
- Dim mwy nag un ddysgl ar yr adeilad neu'r strwythur.
- Nid yw'r ddysgl loeren yn fwy na 90cm (diamedr). Mae dysgl loeren safonol fel arfer yn llai na'r maint hwn.

Lleoliad derbyniol - y tu cefn i'r adeilad, o dan y llinell doeau

Lleoliad derbyniol - rhan isaf y llinell doeau a thalcen y to, dyluniad rhwyllog tryloyw
B)Eiddo gyda phenodiad arbennig
Mae adeilad yn 'rhestredig' oherwydd ei gymeriad pensaernïol arbennig neu bwysigrwydd hanesyddol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen math gwahanol o ganiatâd gan y Cyngor gyda dysglau lloeren sy'n ymwneud ag adeiladau rhestredig, sef caniatâd adeiladau rhestredig. Mae gan y Cyngor ddyletswydd pwysig i ddiogelu cymeriad adeiladau rhestredig. Gellir cael cyngor pellach ynghylch adeiladau rhestredig gan Swyddog Cadwraeth y Cyngor: 01978 292019.
Mae gan yr ardaloedd hyn gymeriad arbennig y dylid ei ddiogelu a'i gyfoethogi. Mae 21 o ardaloedd cadwraeth o fewn y Fwrdeistref Sirol. Mae yna gyfyngiadau ychwanegol o ran gosod dysglau lloeren ar eiddo a leolir yn yr ardaloedd hyn, ar ben y rhai hynny a nodir yn Adran A.
Mae angen caniatâd cynllunio os bydd gosod dysgl yn cynnwys:
- corn simnai, wall neu oleddf to sy'n wynebu ffordd gyhoeddus neu lwybr cyhoeddus neu ar adeiladau 15 metr neu'n uwch (dros tua 5 o loriau o uchder).
Cwmpesir rhai ardaloedd cadwraeth gan Gyfarwyddyd Erthygl 4. Golyga hyn bod angen caniatâd cynllunio ar gyfer newidiadau i adeilad sydd fel arall y tu allan i ddeddfwriaeth gynllunio - gan gynnwys gosod dysglau lloeren.
Mae gan bum ardal yn y Fwrdeistref Sirol Gyfarwyddiadau Erthygl 4:
- Y Waun,
- Ffordd y Tylwyth Teg
- Wrecsam
- Holt
- Parc Salisbury, Wrecsam
Gallai'r Cyngor benodi rhai ychwanegol yn y dyfodol. Gwelwch Asesiadau Ardaloedd Cadwraeth am wybodaeth pellach am yr ardaloedd uchod.
Hawliau Datblygiad a Ganiateir
Mae gan rai eiddo amodau cynllunio sy'n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio, sy'n dileu eu hawliau 'datblygiad a ganiateir', a all gynnwys gosod dysglau lloeren. Bydd angen cais cynllunio yn yr achos hwn.
Canllawiau ar gyfer yr effaith leiaf.
- Wrth gydnabod bod angen llinell weld llorweddol o 30 gradd mewn cyfeiriad de orllewinol neu dde ddwyreiniol ar bob dysgl fel arfer, nid oes angen iddynt fod mewn safle amlwg nac uchel ar adeilad bob amser. Yn ogystal, nid oes raid i'r dysglau fod yn fawr o ran eu maint. Yn aml gellir defnyddio dysglau 60cm neu lai, gan ddibynnu ar y dechnoleg.
- Yn gyffredinol, ac yn arbennig gyda phenodiadau arbennig, dylid gosod dysglau lloeren, os yn bosibl, y tu cefn i eiddo, a dylent fod yn anamlwg.
- Anelwch at un ddysgl ar adeilad, neu ddewis arall i ddysgl.
- Ar gyfer pob cais sy'n ymwneud â lloerennau, bydd y Cyngor yn ystyried effaith y dysglau lloeren yn unol â'r rhestr wirio canlynol. Gwrthodir caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig os nad yw lleoliad y ddysgl loeren yn bodloni'r effeithiau lleiaf.
Yr hyn y gellir ei wneud ac na ellir ei wneud
Gosod
- Peidiwch â gosod dysglau ar waliau sy'n wynebu priffordd, neu unrhyw fannau cyhoeddus lle gellir eu gweld.
- Peidiwch â gosod dysglau lle fyddai unrhyw ran o'r ddysgl neu strwythurau a ddefnyddir i'w gosod yn amharu ar y gorwel.
- Peidiwch â'u gosod lle byddant yn amharu ar safbwyntiau sensitif.
- Peidiwch ag achosi llwyth anniben o ddysglau mewn un lleoliad gweladwy.
- Peidiwch â'u gosod lle byddai manylion diddorol ar adeilad yn cael eu difrodi neu eu cuddio o olwg y cyhoedd e.e. brics gwreiddiol a theiliau terracotta.
- Sicrhewch na fyddai unrhyw gaenennau metel na fframiau dur mewn adeiladau yn achosi ymyrraeth ar dderbyniad teledu.
Defnyddiwch y lleoliadau canlynol;
- Y tu ôl i barapet to.
- Mewn rhigolau cafnog ar y to.
- Mewn gerddi cefn a ffensys cysylltiol, gyda chysgod neu dirlunio. Bydd dysglau lloeren a osodir yn gywir gyda chysylltiadau o safon yn gweithio mewn amryw leoliadau yn yr ardd.
- Ar do isel estyniad neu garej.
- Defnyddiwch strwythur ymgynnal mor fach ag sy'n bosibl.
- Defnyddiwch ddysgl rwyllog neu dryloyw i greu llai o ymyrraeth.
Lliw, maint a siâp
- Ceir nifer o wahanol fathau o ddysglau lloeren, o wahanol siapiau, meintiau a lliwiau.
- Dylai dysglau fod o siâp addas, ac wedi'u lliwio i gydweddu â'r rhan honno o'r adeilad neu'r ardd y mae wedi'i gosod arni.
- Defnyddiwch y ddysgl leiaf sydd ar gael. Mae systemau teledu lloeren digidol yn defnyddio dysglau llai sydd oddeutu 38cm.

Dewisiadau eraill i ddysglau lloeren
- Ystyriwch ddewisiadau eraill i ddysgl loeren, yn enwedig mewn fflatiau, tai teras neu dai pâr. Mae yna 2 ddewis arall: dysgl a rennir a systemau cebl. Rhaid gwirio yn gyntaf a oes unrhyw ddarpariaethau ar gyfer system a rennir neu system gebl - gan gynnwys unrhyw ofynion cyfreithiol. Dylid ceisio cyngor proffesiynol wrth ymchwilio i'r dewisiadau hyn. Gellir rhannu un ddysgl rhwng hyd at 4 neu 5 o breswylwyr. Mae S.M.A.T.V - 'Satellite Master Antenna Television' yn system gebl fechan sy'n gallu gweini fflatiau neu eiddo ar wahân o ddysgl neu ddysglau cymydol. Bydd angen Trwydded y Ddeddf Delathrebu gan y Swyddfa Delathrebu, Oftel. Mewn sefyllfaoedd pan fo'r dewisiadau a'r ceisiadau ar gyfer gosod dysgl loeren yn debygol o fod yn aflwyddiannus, mae systemau cebl yn ddewis posibl arall i ddarparu teledu lloeren. Mae'n bosibl y bydd amodau'n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio, a fydd yn eich gorfodi i ddefnyddio systemau a rennir.
Lleoliad derbyniol - y tu cefn i'r adeilad, o dan y llinell doeau

Lleoliad derbyniol - rhan isaf y llinell doeau a thalcen y to, dyluniad rhwyllog tryloyw
Materion cyffredinol
-
Os ydych yn denant, bydd angen i chi wirio a oes angen caniatâd y landlord a/neu berchennog arnoch.
-
Dylid ceisio osgoi gosod dysglau ger ffenestri a drysau tai cyfagos.
-
Bydd y Cyngor yn disgwyl i bob datblygiad adeiladu newydd fod wedi ystyried anghenion gosod systemau teledu cebl, gan gynnwys tirlunio, neu ffurf arall o system teledu lloeren anamlwg.
-
Dylid tynnu dysglau nad oes eu hangen bellach. Er enghraifft, os cyflwynir system loeren wahanol gan ddefnyddio system gebl. Gellir rhoi caniatâd cynllunio dros dro, gydag amod sy'n gofyn am iddynt gael eu tynnu o fewn cyfnod penodol.
Os yw lleoliad y ddysgl loeren yn methu â bodloni'r cyfarwyddyd a amlygir yn y daflen hon, a/neu os gwrthodir caniatâd, gallai'r Cyngor ddwyn achos cyfreithiol. Bydd y Cyngor bob amser yn ceisio cyd-drafod lleoliad derbyniol ar gyfer y ddysgl loeren a fydd yn lleihau ei olwg cyn ystyried unrhyw achos cyfreithiol ffurfiol. Byddai gweithred ffurfiol gan y Cyngor yn gofyn i'r ddysgl gael ei symud neu ei thynnu, os bydd cyd-drafodaethau'n methu. Mae hawl i apelio yn erbyn unrhyw weithred ffurfiol a gymerir gan y Cyngor. Gellir cael manylion pellach gan yr Adran Gynllunio.

Lleoliad annerbyniol - yn wynebu'r stryd
Cyfeiriadau defnyddiol ychwanegol
Independent Television Commission (ITC)
ITC Engineering Information,
Staple House, Staple Gardens,
Winchester SO23 8SR.
Ffôn: 020 7255 3000
Confederation of Aerial Industries (CAI)
Foulton House Business Centre,
Fulton Road, Wembley Park,
Middlesex HAA9 OTF
Ffôn: 029 8902 8998
Radio, Electrical and Television Retailers' Association (RETRA)
RETRA House, St John's Terrace,
1 Amphill Street,
Bedford MK2 9EY
Ffôn: 01234 269110
NTL
NTL House,
Bartley Wood Business Park,
Bartley Way Hook,
Hampshire, RG27 9UP
Ffôn: 01256 752000 /
0800 183 1234
The Digital Television Group
7 Old Lodge Place,
St Margarets,
Twickenham, TW1 1RQ
Ffôn: 020 8891 1830
Office of Telecommunications (OFTEL)
Licensing Policy Branch,
50 Ludgate Hill,
London EC4 M7JJ
Ffôn: 020 7634 5370
Department for Communities and Local Government - gynt Office of the Deputy Prime Minister
Eland House, Bressenden Place, London, SW1E 5DU
Ffôn: 020 7944 4400
The National Assembly for Wales
Planning Division,
Cathays Park,
Cardiff CF1 3NQ
Ffôn: 029 20 8235 85
Telewest
Ffôn: 0500 500 100
Planning Portal
The Planning Inspectorate,
3/20 Hawk Wing, Temple Quay House, 2 The Square, Temple Quay,
Bristol, BS1 6PN.
yn darparu rhestr wirio ryngweithiol ynghylch gosod dysglau lloeren
Am wybodaeth pellach, cysylltwch a:
Prif Swyddog Cynllunio,Stryd y Lampint,Blwch SP 1290,Wrecsam, LL11 1WL.
Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292017
Ffacs: 01978 292502
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 25 - Lleoli dysglau lloeren teledu
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 25 - Lleoli dysglau lloeren teledu - fformat PDF 195kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Ffurflenni Cais ac Ymholiadau
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|