|
Mae hwn yn un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd cynllunio lleol sy'n ymhelaethu ar gynigion cynlluniau datblygu ar ffurf glir a chryno er mwyn gwella safonau cynlluniau. Bwriedir i'r cyfarwyddyd hwn gynorthwyo ymgeiswyr i ddeall yn well y materion hynny sy'n ymwneud â'r dirwedd a'r amgylchedd sy'n cael eu hystyried gan y Cyngor wrth benderfynu ynghylch ceisiadau am ddatblygiad diwydiannol. Gall cynllun o ansawdd uchel wella delwedd y busnes, denu staff o ansawdd da ac annog buddsoddiad. Bydd y nodyn yn ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar yr holl geisiadau cynllunio perthnasol.
Ni all y canllawiau hyn gynnwys pob sefyllfa, a gwahoddir ymgeiswyr a gweithredwyr i drafod cynigion gyda'r swyddog tirwedd cyn cyflwyno'r cais yn ffurfiol. Ar gyfer datblygiadau mwy, neu safleoedd anodd, cynghorir ymgeiswyr i gyflogi pensaer tirwedd â chymhwyster proffesiynol o'r dechrau a chyflwyno cymaint o wybodaeth berthnasol â phosibl gyda'r cais.
Ystyriaethau cyffredinol
Mae ystadau diwydiannol, ystadau diwydiannol llai, a pharciau manwerthu a busnes Wrecsam yn cyfrannu'n amlwg at dirwedd y Fwrdeistref Sirol a gall hwn fod yn gyfraniad cadarnhaol. Gall datblygiadau newydd yn arbennig ddarparu cyfle ardderchog ar gyfer cynlluniau cyffrous a chynaliadwy o ran tirwedd ac adeiladau, ar yr amod yr ystyrir yr effaith y gallai cynigion fel hyn eu cael ar yr amgylchoedd.
Mae ystyried y dirwedd yn cynnwys y ffordd mae datblygiad yn effeithio ar yr amgylchedd allanol a barn y cyhoedd am y datblygiad. Mae angen ystyried y dirwedd o ddechrau cyntaf y broses ddatblygu.
Bydd llawer o'r cyngor a geir yn nodyn cyfarwyddyd lleol rhif 7 'Y Dirwedd a Datblygiad', y mae ymgeiswyr hefyd yn cael eu cyfeirio ato, yn berthnasol i ddatblygiad diwydiannol, yn enwedig y cyngor ynghylch yr hyn sydd angen ei gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio. Mae taflenni gwybodaeth ar ystod o bynciau'n ymwneud â'r dirwedd ar gael gan yr Adran Gynllunio a, thrwy wneud cais amdanynt, gellir cyfeirio at adroddiadau asesu manwl ar gyfer ystadau diwydiannol Wrecsam a Llai. Gallai cyfarwyddiadau ar ddatblygu safleoedd fod wedi'u paratoi gan yr Adran Gynllunio ar gyfer safleoedd cyflogi mawr
Cynllun a golwg cyffredinol datblygiad diwydiannol a masnachol
Nid plannu coed a llwyni'n unig yw tirwedd, er y gall hyn fod yn ddymunol neu hyd yn oed yn hanfodol ar rai safleoedd. Yn aml, gall fod yn bwysicach gwella cynllun a lliw adeiladau a ffensys, a chadw a diogelu coed a bywyd gwyllt presennol. Nid oes angen, o reidrwydd, cuddio gwaith, gwasanaeth neu ddefnydd diwydiannol oherwydd gallent fod yn nodwedd ddiddorol mewn lleoliad a fyddai fel arall yn anniddorol neu'n gyffredin, yn enwedig os rhoddir sylw i olwg y rhain yn ogystal ag i brif adeiladau.
Mae'n aml yn hawdd gwella ffensys diogelwch, ardaloedd eang o darmac, meysydd parcio mawr, ychydig o annibendod a mannau storio am gost gymharol fach. Mae adeiladau ar raddfa fawr yn anos - gellir yn aml eu gweld o bell ac maent yn anferth os eir yn agos atynt. Gallai eu hadeiladu olygu colli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Gallai fod angen plannu ardaloedd eang o goed, adleoli cynefinoedd a gollwyd a gosod mesurau i gadw glaw er mwyn lleihau'r effaith amgylcheddol, ac mae'n bwysig caniatáu lle digonol i hyn wrth gynllunio'r safle (gweler y dudalen ôl). Mae cynllunio da a lliw hefyd yn bwysig i sicrhau bod yr adeiladau diwydiannol mawr yn gweddu i'r dirwedd.
Mewn ardaloedd gwledig neu led-wledig dylai golwg adeiladau busnes fod yn gyson â chymeriad y wlad leol. Gellir gwneud hyn drwy ailddefnyddio adeiladau presennol, defnyddio deunydd a lliwiau lleol ar gyfer datblygiad newydd, a diogelu coed a gwrychoedd presennol. Pan fo'r angen am ymlediad amlwg ar bwynt mynediad newydd yn golygu cael gwared ar lwyni, dylid ailosod y gwrychoedd ar y llinell newydd bob amser.
Dylid ystyried anghenion y gweithwyr bob amser wrth ystyried cynllun tirwedd - gall yr amgylchedd lle maent yn gweithio effeithio ar eu hiechyd a'u lles. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan leolir y busnes ar safle sy'n bell oddi wrth gludiant, siopau a chyfleusterau eraill. Er enghraifft, gwerthfawrogir lle eistedd awyr agored cysgodol ond heulog â golygfa braf ar gyfer egwyl a chinio.
D
Arwyddion
Gwiriwch a oes system gyfunedig o arwyddion eisoes yn bodoli ar gyfer ystad ddiwydiannol, a fydd yn helpu i greu hunaniaeth ar gyfer yr ystad neu'r ardal, yn ogystal â'i gwneud hi'n haws dod o hyd i fusnesau. Gwiriwch hefyd a oes angen caniatâd hysbysebu ar gyfer arwyddion newydd.
Mae'n rhaid i arwyddion busnes fod yng nghwrtil y safle, y tu allan i ymlediadau amlwg ac allan o ffordd arwyddion priffordd neu arwyddion cyfeirio hanfodol. Yn gyffredinol, dylid cyfyngu'r maint i'r mwyaf sydd ei angen er mwyn bod yn ddarllenadwy. Mae'n haws darllen cyfuniad o lythrennau bach a phriflythrennau, yn ogystal â thestun lliw golau ar gefndir tywyll. Gall arwyddion da wella adeilad neu safle a fyddai fel arall yn anniddorol, a darparu pwyntiau ffocal yn y dirwedd.
Golau
Mae darparu golau da'n hanfodol er mwyn i gerbydau a cherddwyr symud yn ddiogel; er mwyn diogelu adeiladau, deunyddiau a'r gweithlu; weithiau at ddibenion arddangos, ac ar gyfer gwybodaeth fel arwyddion. Fodd bynnag, dylai cynllun goleuadau osgoi gormod o olau, sy'n goleuo'r awyr (gwastraff golau), llewyrch (disgleirdeb anghyfforddus) a thresmasiad golau (golau sy'n cyrraedd y tu hwnt i derfyn yr eiddo).
Cyfleoedd ar gyfer plannu
Nodyn: mae rhestri o blanhigion ar gael ar eich cais. Mae'n bwysig gwirio'n gyntaf a yw'r cynefinoedd presennol o werth ecolegol.
Ardaloedd sy'n anaddas i'w datblygu:
- Planhigion â rhywogaethau coetir brodorol
Tir gwag i'w ddatblygu:
- Planhigion â rhywogaethau a allai fod o werth masnachol fel cnydau tymor byr sy'n addas fel tanwydd, tomwellt garddwriaethol neu asglodfwrdd e.e. helyg neu boplys, neu gnydau tymor canolig sy'n addas i'w coedlannu i gynhyrchu pyst ffens, polion coed neu foncyffion e.e. castanwydd melys.
Terfynau
- Plannu gwrychoedd, gan gynnwys coedwrychoedd. Ystyriwch ddefnyddio'r rhain yn lle ffensys.
- Planhigion dringo y drws nesaf i ffensys a waliau.
Tiroedd blaen
- Cyfle i gael planhigion mwy addurnedig os dymunir.
- Defnyddiwch blanhigion i harddu maes parcio ac annibendod a gwella mynediadau
Waliau gwag adeiladau a siediau diwydiannol:
- Dringwyr sy'n glynu ohonynt eu hunain
- Cefndir ar gyfer grwpiau o goed.
Cymorth grant ar gyfer gwaith i'r dirwedd
Mae'r cymorth grant sydd ar gael tuag at wella amgylchedd ystadau diwydiannol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond gellir cael cyngor ar y sefyllfa bresennol drwy gysylltu ag Is-adran Amgylchedd yr Adran Gynllunio. Gall Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint (Ffôn 01978 757524) hefyd gynghori busnesau am ddyluniadau a chymhwyster cynlluniau ar gyfer cymorth grant.
Cynllunio safleoedd ar gyfer safleoedd diwydiannol a masnachol
Mae Awdurdod Datblygu Cymru'n argymell paratoi Cynllun Rheoli Amgylchedd Safle, ynghyd ag archwilio'r bioamrywiaeth, dadansoddi'r peryglon posibl ac asesu'r hydroleg a'r draeniad.
Mae'r tabl canlynol yn cynnwys y ffactorau sy'n ymwneud â'r dirwedd a fydd yn cael eu hystyried wrth asesu cais cynllunio ar gyfer safle diwydiannol neu fasnachol:
| Pwnc |
Argymhelliad |
| Arolwg |
Nodwch nodweddion, cyfleoedd a chyfyngiadau ffisegol. Mae angen cynllun cywir o'r safle yn ôl graddfa wybyddus (i'w gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio).
Holwch Is-adran Amgylcheddol yr Adran Cynllunio a fydd angen arolwg ecolegol a/neu arolwg o rywogaethau a ddiogelir. Mewn rhai achosion, mae angen trwydded Ewropeaidd ar gyfer rhywogaethau a ddiogelir. Efallai bydd angen arolygon o goed, pridd neu lefelau |
| Cadw'r tyfiant |
Cyn belled ag y bo'n bosibl, cynlluniwch faint troed y datblygiad i gadw coed, gwrychoedd a mannau natur presennol lle resennol ceir nodweddion cadwraeth sydd o ddiddordeb gwarchodol neu archaeolegol.
Mewn datblygiadau a gyflwynir yn raddol, cadwch y llystyfiant presennol hyd nes bod angen tir ychwanegol |
| Rhwydweithiau o fywyd gwyllt |
Cysylltwch nodweddion gwarchodaeth natur presennol y safle, fel dyfrffosydd, corsydd a llystyfiant lled-naturiol â phlanhigion newydd a mannau agored, ac â mannau allanol a choridorau o werth gwarchodaeth natur. Sicrhewch y cedwir rhywogaethau a ddiogelir a chynefinoedd presennol. Peidiwch â sianelu neu ddargyfeirio dyfrffyrdd a chadwch byffer sydd o leiaf 5m o led ar gyfer bywyd gwyllt a gwaith cynnal a chadw lle bynnag y mae'n bosibl |
| Gwastraff |
Holwch swyddog tir llygredig. Ymdriniwch ag unrhyw lygredd ar y safle os yw'n bosibl, gan gyfyngu ar effaith y llygredd presennol ar fannau cyfagos, a symudwch wastraff i safle claddu sbwriel cymeradwyedig yn unig |
| Cynaladwyedd |
Anogwch lai o ddefnydd o geir drwy ddarparu llochesi beiciau, llwybrau beicio, llochesi bysiau ac ati.
Defnyddiwch ddeunyddiau lleol a thechnegau adeiladu ynni isel pan fo'n bosibl, gan lunio adeiladau sydd o ddefnydd hyblyg, neu sy'n ynni-effeithlon i'w hadeiladu a'u dymchwel pan na fydd eu hangen mwyach.
Ystyriwch gyfeiriad yr adeilad er mwyn cael gymaint o olau haul a chysgod â phosibl a gwneud cymaint o welliannau â phosibl i'r microhinsawdd drwy blannu. Ystyriwch peidio â neilltuo mannau sy'n gysgodol ac sy'n dueddol o gael rhew fl mannau i'w defnyddio'n aml ac ystyriwch ddefnyddio golau dydd naturiol.
Sicrhewch fod y cynllun yn cynnwys storio deunyddiau ar gyfer eu hailgylchu.
Ystyriwch doeau gwyrdd, pan ddefnyddir planhigion nad oes angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt.
Rheolwch ddwr arwyneb er mwyn amsugno cymaint o ddwr â phosibl ar y safle a chael cyn lleied o ddwr-ffo â phosibl i garthffosydd drwy ddefnyddio wynebau athraidd, pyllau a ffosydd. Ailgylchwch ddwr lle bynnag y mae'n bosibl |
| Gwrthgloddiau |
Nodwch ardaloedd o dirwedd bresennol sydd angen eu cau'n ddiogel er mwyn eu gwarchod yn ystod yr adeiladu.
Gwnewch gyn lleied o dorri a llenwi â phosibl drwy leihau maint y mannau a lefelir ar lechweddau, gan ei gwneud hi'n bosibl plannu coed a llwyni ar lechweddau rhwng y mannau a lefelir.
Ystyriwch ble byddwch yn rhoi deunydd a gloddir, ar y safle neu oddi arno. Os cedwir ef, sicrhewch fod lle i'w daenu ar ffurf dderbyniol, gan osgoi byndau serth â llechweddau sydd dros 1 mewn 3. Gallai llechweddau mwy serth fod yn dderbyniol os yw'r byndiau storio am dymor byr yn unig |
| Cynllun yr adeilad |
Cynlluniwch uchder a maint adeiladau, a lliw'r cladin a'r to fel eu bod yn cael cyn lleied o effaith weledol â phosibl ar olwg yr amgylchoedd. Ystyriwch olwg adeiladau a gwrthrychau ategol, gan gynnwys arwyddion, ynghyd â'r prif adeiladau |
| Mannau plannu |
Dylai maint y planhigion fod yn gymesur â maint yr adeiladau arfaethedig - po fwyaf yw'r adeilad, po fwyaf yw'r rhywogaethau a ddefnyddir a'r mannau plannu. Sicrhewch fod lle i blannu, gan gynnwys 'byfferau' tirwedd sydd o leiaf 10m o led o goetir a blennir ar derfynau cefn gwlad. Mae angen plannu coed o amgylch ac o fewn mannau parcio ar gyfer cysgod a harddwch |
| Diogelwch a |
Dylai'r cynllun ddiffinio'n glir mannau i gerddwyr a mannu i gerbydau, mannau cyhoeddus a phreifat, pwrpas lle allanol a phwyntiau mynediad ac ati. Peidiwch â chreu mannau nas defnyddir neu fannau cuddiedig - pan fo angen, defnyddiwch lwyni isel a choed â bonion clir. Mae cynllun a lleoliad goleuadau'n bwysig |
| Hygyrchedd |
Er mwyn sicrhau y gall pob rhan o'r boblogaeth ddefnyddio'r adeiladau, dylid rhoi ystyriaeth fanwl i'r cynllun, y mynediad diogeledd a'r llethrau, yn enwedig ar safleoedd sydd ar lechwedd. Dylid rhoi manylion llawn am rwystrau, gatiau a wynebau, a dylid cadw'r llinell weld ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn (sydd â man gweld is) yn agored |
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â:
Prif Swyddog Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint,
Wrecsam LL11 1AR.
Ffôn: (01978) 292019
Ffacs: (01978) 292502
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Mabwysiadwyd
ym mis Tachwedd
2003
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 26 - Y Dirwedd a Datblygiad Diwydiannol
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 26 - Y Dirwedd a Datblygiad Diwydiannol - fformat PDF 238kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Gwybodaeth berthnasol gan yr Adran Gynllunio Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol:
1 - Hysbysebion
7 - Y Dirwedd a Datblygiad
17 - Coed a Datblygiad
Adeiladu Cynaliadwy
Bydd nodyn CCLl ar ddylunio a fydd ar gael yn y dyfodol agos yn cynnwys egwyddorion dylunio cyffredinol, gan gynnwys tirlunio. Mae cynlluniau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth hefyd ar gael, gan gynnwys un ar dir diffaith, a allai fod yn berthnasol ar gyfer safleoedd tir llwyd.
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau
Cynllunio Lleol
|