|
Mae hwn yn un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd cynllunio lleol a fwriadwyd i ymhelaethu ar bolisïau yn y cynllun datblygu a nodi'r amgylchiadau a'r lleoliadau lle y bydd angen cyfraniadau gan ddatblygwyr er mwyn darparu cyfleusterau addysg. Cymeradwywyd y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) gan y Cyngor at ddibenion gweithredol ar 18 Mai 2004 ac mae'r nodyn hwn nawr yn ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar yr holl bolisïau cynllunio perthnasol.
Cynllunio Addysg yn Wrecsam
Mae gan Wrecsam Gynllun Trefniadaeth Ysgolion blynyddol sy'n dangos sut y bydd y Cyngor yn cwrdd ag anghenion addysg yr holl blant yn ei ardal. At ddibenion cynllunio addysg, mae gan yr Awdurdod gysylltiadau rhwng ysgolion babanod a iau a rhwng ysgolion iau/cynradd ac ysgolion uwchradd mewn grwpiau ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae polisi derbyn yr Awdurdod yn caniatáu dewis y rhieni, oni bai fod gwneud hynny'n anfanteisiol i ddefnydd effeithlon ac effeithiol o'i adnoddau. Neilltuir lleoedd i dros 96% o ddisgyblion yn unol â dewis cyntaf eu rhieni. Mae gan y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion gynigion ar gyfer adolygu darpariaeth lleoedd mewn ysgolion uwchradd yn nhref Wrecsam.
Cefndir i'r Nodyn Cyfarwyddyd
Mae awdurdodau lleol dan bwysau ariannol cynyddol i gwrdd â'r anghenion addysgol sy'n codi o ddatblygiadau preswyl. Yn gynyddol, gall hyd yn oed ddatblygiadau cymharol fach gael effaith sylweddol ar ddarparu lleoedd ysgol. Mae Cylchlythyr 13/97 y Swyddfa Gymreig, 'Ymrwymiadau Cynllunio', yn caniatáu i gyfraniadau datblygwyr wrthbwyso canlyniadau negyddol datblygiad ar yr amod y ceir cyfarwyddyd ar hyn yn y cynllun datblygu lleol. Mae CDU Wrecsam yn rhoi cyfarwyddyd drwy ei bolisi ar allu'r isadeiledd a chyfleusterau cymunedol.
Mae gweddill y nodyn hwn yn rhoi gwybodaeth bellach am sut y gweithredir y polisi hwn.
Meini Prawf
Bydd unrhyw gyfraniadau gan ddatblygwyr yn seiliedig ar yr ystyriaethau canlynol:
-
Bydd yn berthnasol yn unig i ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer pedwar t~ a mwy, p'un ai ydynt yn cael eu hadeiladu o'r newydd neu eu haddasu, neu'r defnydd ohonynt yn cael ei newid. Cymerir gofal i sicrhau nad yw'r datblygiad cyfan yn cael ei is-rannu neu ei gyflwyno'n raddol mewn ymgais i osgoi'r trothwy hwn.
-
Bydd yn berthnasol yn unig i ysgolion â phrinder lleoedd ar ôl cynnwys y disgyblion ychwanegol sy'n debygol o gael eu creu gan y datblygiad arfaethedig.
-
Nifer yr unedau preswyl arfaethedig a'u math (tai mawr neu fychain, byngalos neu fflatiau). Rhoddir mwy o fanylion yn Nhabl 1.
-
Cymhareb y disgyblion i bob uned dai sy'n berthnasol i'r ysgol briodol neu ysgolion priodol ar lefel gynradd ac uwchradd.
-
Lleoliad y datblygiad a'i effaith debygol ar ysgolion presennol. Asesir hyn gan ddefnyddio'r un meini prawf â pholisi derbyn ysgolion Cyngor Wrecsam mewn perthynas ag agosrwydd ac ysgolion sy'n bwydo. Mae map o ddalgylchoedd yr ysgolion ar gael.
-
Os nad oes lle mewn ysgolion presennol ar gyfer y disgyblion posibl a grëir gan y datblygiad arfaethedig, cyfrifir tâl cymudo drwy luosi'r lleoedd ychwanegol sydd eu hangen â'r gost ar gyfer y disgyblion (gweler Tabl 1) i greu'r swm sydd i'w gynnwys yn yr ymrwymiadau cynllunio. Yn ôl doethineb y Cyngor, gall cyfraniadau a wneir drwy ryddhau tir ar gyfer ysgol newydd neu drwy adeiladu uniongyrchol gael eu hystyried fel dewis arall yn lle talu swm cymudo.
Amseru cyfraniadau
Bydd angen i unrhyw ddarpariaeth addysgol adeiledig gael ei chwblhau i adlewyrchu'r preswyliad a fwriedir ar gyfer y cartrefi. Ar gyfer datblygiadau mwy, ystyrir talu'n raddol er mwyn cyd-fynd â rhaglenni adeiladu a phreswylio.
Cyfarwyddiadau ynghylch costau
Bwriad y cyfarwyddiadau canlynol yw rhoi syniad i ddarpar-ddatblygwyr o oblygiadau posibl eu cynigion. Am gyngor penodol ynghylch eich cynnig arbennig chi, cysylltwch â Phrif Swyddog Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
-
Mae 100 o dai'n cynhyrchu tua 28 o ddisgyblion oed cynradd a thua 20 o ddisgyblion oed uwchradd.
-
Ar gyfer datblygiadau sy'n cynhyrchu 100 o ddisgyblion a mwy, rhoddir ystyriaeth i ysgol newydd ar safle newydd, gan ddibynnu ar leoliad a chynnydd posibl yn y dyfodol, a disgwylir i'r ymgeisydd gyfrannu'n unol â nifer y lleoedd ysgol y mae'r datblygiad yn ei gynhyrchu.
-
Bydd Cyngor Wrecsam yn nodi'r ysgolion lleol a natur y gwaith y bydd y cyfraniad yn ei ariannu.
-
Mae Cytundeb Adran 106 ar gael trwy gais.
Tabl 1: Canllawiau ynghylch costau
| Math o Ysgol |
Nifer y disgyblion a grëir gan bob ty 2-3 ystafell wely |
Lluosydd Costau Adeiladu £ |
Cyfraniad
£ |
Cynradd
4 - 11 oed |
0.28 |
7000 |
1960 |
Uwchradd
11 - 16 oed |
0.20 |
10000 |
2000 |
| Ôl-16 |
0.04 |
12000 |
480 |
| Cyfansymiau |
 |
 |
 |
| Ysgol â 6ed Dosbarth |
0.52 |
 |
4440 |
| Ysgol heb 6ed Dosbarth |
0.48 |
 |
3960 |
Nodiadau
-
Lluosyddion costau adeiladu yn seiliedig ar gyfarwyddyd yr Adran Addysg a Sgiliau ynghylch dyraniadau disgyblion ac asesiad o gyfartaledd y gost adeiladu.
-
Pwysoliad 1 ystafell wely a llety ar gyfer yr henoed dim tâl, 2/3 ystafell wely tâl safonol (gweler uchod), 4+ ystafell wely dros 20%
-
Mae dalgylchoedd ysgolion yn golygu ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo ynghyd â pholisi'r Awdurdod Addysg Lleol ar agosrwydd disgyblion at ysgolion.
-
Amserlenni ar gyfer costau ac asesiadau o boblogaeth yr ysgol i'w hadolygu'n flynyddol fel rhan o Adolygiad Cynllun Trefniadaeth Ysgolion.
Enghraifft ar gyfer dalgylch Ysgol Fabanod Johnstown
Ar gyfer datblygiad o :-
- 10 - 1 ystafell wely
- 10 - 2 ystafell wely
- 10 - 3 ystafell wely
- 10 - tai/fflatiau 4 ystafell wely
Taliadau ar lefel ysgol gynradd
10 - 1 ystafell wely dim tâl
10 - 2 ystafell wely tâl safonol
10 * £1960 = £19600
10 - 3 ystafell wely tâl safonol
10 * £1960 = £19600
10 - 4 ystafell wely tâl safonol +20%
10 * £2352 = £23520
Taliadau ar lefel ysgol uwchradd
Dim prinder, dim tâl.
Ysgolion lle mae'n debygol y bydd angen cyfraniadau
Mae'r rhestr isod yn dangos yr ysgolion lle mae'n debygol y bydd angen cyfraniadau. Mewn ysgolion eraill, mae'n debygol y bydd ychydig o leoedd dros ben ar gyfer rhywfaint o ddatblygiad. Nid yw hon yn rhestr derfynol, ond yn ganllaw i ddatblygwyr. Cysylltwch â'r Cyngor am gyngor penodol.
Cymerwyd y rhestr hon o Gynllun Trefniadaeth Ysgolion Wrecsam, a adolygir yn flynyddol bob mis Hydref. Pan fydd y newidiadau mawr i ysgolion uwchradd tref Wrecsam wedi'u cwblhau, bydd y newidiadau nesaf yn digwydd yn Rhosllannerchrugog a Choedpoeth. Mewn lleoedd eraill, mae'n debygol mai ychydig o newidiadau a geir i'r rhestr isod.
Ysgolion Uwchradd
Ysgol Bryn Alun, Gwersyllt
Ysgol Darland, Yr Orsedd
Ysgol Maelor, Llannerch Banna (11 i 18 oed)
Ysgol Rhiwabon
Ysgolion Cynradd
Dalgylch Ysgol Clywedog, Wrecsam
Ysgol Marchwiel
Ysgol Fabanod Fictoria
Ysgol Iau Fictoria
Ysgol Fabanod San Silyn
Ysgol Iau San Silyn
Dalgylch Ysgol Sant Joseff, Wrecsam
Ysgol y Santes Anne, Wrecsam
Ysgol y Santes Fair, Wrecsam
Dalgylch Ysgol Bryn Alun, Gwersyllt
Ysgol Gymorthedig Brymbo
Ysgol Brynteg
Ysgol New Broughton
Ysgol Pentre Broughton
Ysgol Tanyfron
Dalgylch Ysgol Maelor, Llannerch Banna
Ysgol Marchwiel
Dalgylch Ysgol Y Grango, Rhosllannerchrugog
Ysgol Fabanod Johnstown
Ysgol Iau Johnstown
Ysgol Fabanod Penycae
Ysgol Iau Penycae
Dalgylch Ysgol Rhosnesni, Wrecsam
Ysgol Fabanod Acton, Wrecsam
Ysgol Iau Acton, Wrecsam
Ysgol Alexandra, Wrecsam
Ysgol Lôn Barcas, Wrecsam
Ysgol Fabanod Parc Borras, Wrecsam
Ysgol Iau Parc Borras, Wrecsam
Dalgylch Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam (11 i 18 oed)
Ysgol Plas Coch, Wrecsam
Dalgylch Ysgol Dinas Brân, Llangollen (Sir Ddinbych)
Dim ysgolion
Dalgylch Ysgol Rhiwabon Rhiwabon (11 i 18 oed), Rhiwabon
Ysgol Acrefair
Ysgol Maes y Llan, Rhiwabon
Ysgol y Santes Fair, Rhiwabon
Dalgylch Dim ysgolion Darland, Yr Orsedd
Gresffordd
Merffordd
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'r:
Prif Swyddog Cynllunio
Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR
Ffôn: (01978) 292019.
Ffacs: (01978) 292502
Prif Swyddog Gwasanaethau Eiddo
Adeiladau'r Goron, Stryt Caer, Wrecsam, LL11 1WP
Ffôn: (01978) 297205.
Ffacs: (01978) 292502
Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Diweddarwyd ym mis Mawrth 2005
Nodyn 27 - Cyfraniadau Datblygwyr i Ysgolion
Cliciwch yn cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Nodyn 27 - Cyfraniadau Datblygwyr i Ysgolion - Fformat PDF 200kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|