Am Rheoli Cynllunio

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r 3 ddisgyblaeth sy'n rheoli datblygiad a defnydd tir er budd y cyhoedd a'r amgylchedd.

Rheoli Datblygiad | Gorfodi | Mwynau

Rheoli Datblygiad

Prif ddyletswyddau'r tîm yw penderfynu amrywiaeth o geisiadau cynllunio sy'n cynnwys preswylwyr tai, hysbysebion, newid defnydd, adeiladau rhestredig ynghyd â chynlluniau datblygu preswyl, masnachol a diwydiannol ar raddfa fawr.

Mae'r dyletswyddau eraill yn cynnwys:

  • Darparu system ymholiadau ffurfiol i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio

  • Darparu cyngor i ymgeiswyr posibl cyn iddynt gyflwyno cais

  • Trafod cynigion ffurfiol gyda datblygwyr ac ymgeiswyr

  • Ymdrin â diwygiadau i gynlluniau cytunedig

  • Paratoi a rhoi tystiolaeth ar ran y Cyngor ar gyfer Apeliadau
  • Ymgynghori a chysylltu gydag adrannau eraill y Cyngor
  • Cynrychioli'r Cyngor ar weithgorau a phwyllgorau allanol

Gorfodi

Mae'r Is-Adran Gorfodi Cynllunio yn ymchwilio i gwynion o bob ffynhonnell ynghylch tor-reoliadau cynllunio.

Maent yn cynnwys:

  • Gwaith adeiladu heb ganiatâd

  • Newid defnydd heb ganiatâd

  • Torri amodau rheoli hysbysebion neu amodau cynllunio

  • Gwaith heb ganiatâd ar adeiladau rhestredig ac adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth

  • Gwaith heb ganiatâd ar goed sydd naill ai'n destun Gorchymyn Cadwraeth Coed neu'n agored i amodau cynllunio neu o fewn ardal gadwraeth

  • Safleoedd anniben sy'n rhoi golwg annerbyniol i'r safle.

Gwneir ymdrechion fel rheol i benderfynu achos drwy drafodaeth ond mae'n bosibl y bydd raid dod â'r gyfraith iddi.

Mwynau

Mae cynllunio mwynau a gwastraff yn golygu rheoli datblygiadau sy'n cynnwys tynnu a phrosesu mwynau a chael gwared ar wastraff. Mae safleoedd yn cael eu monitro o'r adeg maent yn cychwyn a thrwy gydol eu cyfnod cynnal o bum mlynedd.

  • Mae'r mwynau a reolwyd yn Wrecsam yn cynnwys tywod, gro, glo, clai, lludw, mawn a cherrig calch.

  • Mae claddfeydd sbwriel o sawl maint ar gyfer gwastraff tai, masnachol, diwydiannol yn ogystal â gwastraff dymchwel ac adeiladu.

Cyhoeddwyd dogfen o'r enw "Datganiad Dros Dro o'r Polisi Mwynau" ym Mawrth 1997. Mae'n cynnwys ystod o bolisïau manwl mewn perthynas â gwaith mwynau i gynnwys cyfnod paratoi'r Cynllun Datblygu Unedol.

Penderfynu Cais CynllunioD

Cysylltwch â: Lles Cymunedol a Datblygiad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG. Ffôn: 01978 292016.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk


Rheoli Cynllunio

yn ôl i'r brig