Mae'r
dudalen hon yn darparu gwybodaeth ynghylch pob un o gyfnodau prosesu eich
cais.
Cam 1 - Cydnabyddiaeth
-
Byddwn yn cofrestru a chydnabod holl geisiadau cynllunio dilys o
fewn 3 diwrnod gwaith o'u derbyn.
-
Os yw eich cais yn annilys neu'n anghyflawn, byddwn yn dweud wrthych
o fewn 2 ddiwrnod gwaith ac yn rhoi cyfarwyddyd clir i chi ar y newidiadau
sydd eu hangen.
Cam 2 - Hysbysiad ac Ymgynghoriad
- Byddwn yn cyhoeddi'r holl geisiadau cynllunio drwy hysbysiad (lliw
pinc) wedi ei bostio ger y safle a byddwn yn ysgrifennu at unrhyw eiddo
cyfagos a allent gael eu heffeithio'n uniongyrchol.
- Bydd yr hysbysiad safle a'r llythyr yn rhoi enw a rhif ffôn
y swyddog achos a dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau (21 diwrnod
fel arfer).
- Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i'r Cynghorydd
lleol ac yn anfon copi o'r cais i'r Cyngor Cymunedol.
- Mae'r holl geisiadau cynllunio a chynlluniau ar gael i'w harchwilio
gan y cyhoedd yn y Swyddfa Gynllunio.
- Rydym yn gwarantu y bydd Swyddog Dyletswydd ar gael yn ystod ein
horiau swyddfa i gynghori cwsmeriaid.
Lefel Gwasanaeth
Ymgymerwn i ddelio â cheisiadau cyn gynted ag y gallwn ac rydym
wedi gosod targedau ar gyfer delio â 95% o geisiadau cartref a 70%
o geisiadau'n gyffredinol o fewn 8 wythnos.
Cam 3 - Y Penderfyniad
- Bydd unrhyw lythyrau neu negeseuon ebost o wrthwynebiad neu gefnogaeth
yn cael eu cydnabod a'u hystyried yn ofalus cyn i'r Prif Swyddog Cynllunio
wneud penderfyniad, yn dilyn yr argymhellion a wneir gan y Swyddog Achos.
- Os nad ydym yn cytuno â'r pwyntiau a godir ac na allwn ddod
i gytundeb, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor
Cynllunio'r Cyngor am benderfyniad.
- Bydd Hysbysiadau Penderfyniad yn cael eu cyhoeddi o fewn 2 ddiwrnod
gwaith o'r penderfyniad a byddant yn datgan unrhyw amodau (a rhesymau)
neu byddant yn rhoi rhesymau clir dros wrthod y cais. Mae manylion o
unrhyw hawl apelio'n cael eu cynnwys hefyd.
Cam 4 - Pwyllgor Cynllunio
- Gallwch fynd i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio os dymunwch.
- Mae copïau o'r agenda ar gael i chi ei darllen.
- Hefyd, ceir adroddiad byr atodol. Mae hwn yn nodi'r materion sydd
wedi codi ers i'r agenda gael ei chyhoeddi.
- Mae'r holl gynghorwyr y Cyngor ar y Pwyllgor, h.y.52 ohonynt. Mae
dyletswydd ar Aelodau'r Pwyllgor i ystyried pob cais yn ôl ei
deilyngdod ei hun, ond fel arfer byddant yn dilyn polisïau'r Cyngor
sydd wedi cael eu gosod yn y Cynllun
Datblygu a chanllawiau cynllunio eraill. Gall materion eraill
sy'n berthnasol i'r penderfyniad gael eu hystyried hefyd.
- Nid yw gweithdrefnau'r Pwyllgor yn caniatáu i'r cyhoedd na'r
ymgeiswyr siarad yn y cyfarfodydd.
Y Agenda
- Ceir cofnodion o'r pwyllgor blaenorol ar flaen yr agenda i'w cymeradwyo.
Ni fyddant yn cael eu trafod.
- Fel arfer, bydd adroddiadau byr ar sawl mater yn eu dilyn. Ystyrir
bob adroddiad ar wahân.
- Yr adroddiad ar geisiadau cynllunio yw rhan helaethaf yr agenda fel
arfer.
- Byddaf yn mynd trwy'r adroddiad, tudalen ar y tro. Os na fydd
sylwadau ar y ceisiadau wrth i'r tudalennau gael eu pasio, golyga
hyn bod yr argymhelliad wedi cael ei dderbyn, a bydd y ceisiadau'n
cael eu derbyn neu eu gwrthod.
- Os bydd cynghorydd yn dymuno siarad, mae'n bosibl y bydd hyn
yn arwain at newid yr argymhelliad.
- Weithiau bydd y Pwyllgor yn penderfynu y dylai Is-bwyllgor ymweld â'r safle. Bydd hyn yn digwydd yn yr ychydig wythnosau nesaf
a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud y mis nesaf.
- Hefyd bydd rhai eitemau yn cael eu darparu er gwybodaeth yn unig.
Mae'r rhain yn cynnwys y rhestr o ymgeiswyr annadleuol a benderfynwyd
gan y Prif Swyddog Cynllunio.
Gallwch gysylltu â'ch Cynghorydd lleol ynghylch eich cais os dymunwch. Cliciwch ar Fy Nghynghorydd am fwy o fanylion.
Rheoli Cynllunio
Gwneud Cais am Reoliadau Adeiladu
yn ôl i'r brig