Ardaloedd Cadwraeth

Beth yw Ardal Gadwraeth?

Diffinir Ardaloedd Cadwraeth dan y brif ddeddfwriaeth, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel 'ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y mae'n ddymunol i gadw neu wella eu cymeriad neu eu gwedd'.

Yn ôl y gyfraith, Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddynodi Ardaloedd Cadwraeth a llunio polisïau a chynigion ar gyfer eu diogelu a'u gwella.

Cynllunio Ardal Gadwraeth

Y ffactor pwysicaf wrth ddynodi ardal gadwraeth yw 'ansawdd lle' neu hynodrwydd lleol'. Mae cyfoeth o hanes pensaernïol, cymeriad ac amrywiaeth ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Ardaloedd Cadwraeth yn cynnwys canol pentrefi, maestrefi canol tref, barics milwrol, adeiladwaith camlesi ac adeiladau gwledig.

Er bod cymeriad pob ardal yn unigryw, mae ffactorau pwysig yn cynnwys:

  • adeiladau sengl neu grwpiau;
  • adeiladau a'u perthynas â lle;
  • manylion pensaernïol;
  • deunyddiau adeiladu;
  • golygfeydd;
  • lliwiau;
  • tirlunio;
  • afonydd;
  • celfi stryd,
  • cyflwr amgylcheddol lleol; a
  • newidiadau hanesyddol.

Strategaeth y Cyngor

Mae'r Cyngor yn ymgymryd ag adolygiad o bob ardal gadwraeth ar hyn o bryd, i sicrhau ffiniau amddiffynadwy ac i gadw eu cymeriad arbennig.

Pwrpas hyn yw i: -

  • Ddatblygu strategaeth ar gyfer cydbwyso diddordeb cadwriaethol a datblygiadau newydd
  • Darparu cyfeirbwynt allweddol rhwng swyddogion, datblygwyr a deiliaid tai i gynorthwyo dyfeisio cynlluniau sy'n cyd-fynd, neu sy'n gwella cymeriad Ardal Gadwraeth.
  • Darparu Asesiadau Ardal Gadwraeth a Chynlluniau Gwella, gyda pholisïau manwl ar ei chymeriad, ei diogelu a'i gwella. Mae pob dogfen yn destun i ymgynghoriad cyhoeddus.
  • Targedu ffynonellau cyllido i wella ansawdd yr amgylchedd i ddenu busnes a buddsoddiad ac atgyfnerthu hynodrwydd lleol a balchder dinesig.

Ardaloedd Cadwraeth Wrecsam

Mae 23 Ardal Gadwraeth yn y Fwrdeistref:

  1. Bangor Is-coed
  2. Y Bers
  3. Y Waun (Asesiad Cymeriad ar Gael )
  4. Cefn Mawr
  5. Erbistog
  6. Ffordd y Tylwyth Teg, Wrecsam (Asesiad Cymeriad ar Gael )
  7. Gresffordd
  8. Ffordd Grosvenor, Wrecsam
  9. Hanmer
  10. Barics Hightown, Wrecsam
  11. Holt (Asesiad Cymeriad ar Gael )
  12. Llanarmon Dyffryn Ceiriog
  13. Marchwiel
  14. Marfordd
  15. Y Mwynglawdd
  16. Owrtyn
  17. Penycae
  18. Y Orsedd
  19. Rhiwabon
  20. Parc Salisbury, Wrecsam (Asesiad Cymeriad ar Gael )
  21. Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte
  22. Worthenbury
  23. Canol Tref Wrecsam

Ardaloedd Cadwraeth Wrecsam

Beth alla'i wneud mewn Ardaloedd Cadwraeth?

Mae’r polisïau Ardal Gadwraeth i’w cael yng Nghynllun Datblygu Lleol y Cyngor, sy’n datgan egwyddor datblygu ac sy’n pwysleisio’r angen i ddiogelu a mwyhau cymeriad Ardaloedd Cadwraeth.

Enw’r cynllun cyfredol yw Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam. Mae hwn yn ystyriaeth faterol wrth wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio, fel y mae’r Asesiadau o Gymeriad yr Ardaloedd Cadwraeth, a fabwysiadwyd fel Canllawiau Cynllunio Atodol.

Maes o law bydd Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam 2011, sydd ar adnau ar hyn o bryd, yn disodli’r cynllun yma.

Rheoliadau Cynllunio

Mae rhai rheoliadau'n bodoli sy'n ychwanegol i ganiatâd cynllunio arferol ac fe'ch cynghorir i ofyn am gyngor gan yr adran gynllunio. Nid bwriad y rheoliadau hyn yw bod yn negyddol, ond rheolaeth bositif ar newid er mwyn gwarchod cymeriad arbennig pob ardal.

  • Mae'n bosibl bydd angen caniatâd cynllunio arnoch os byddwch am newid waliau a tho ty.
  • Mae'n bosibl bydd angen Caniatâd Ardal Gadwraeth arnoch er mwyn dymchwel. Nid yw hyn yn cynnwys Adeiladau Rhestredig, sy'n cael eu gwarchod ar wahân (cyswllt i dudalen ARh).
  • Mae'n bosibl bydd angen Caniatâd Gwaith ar Goeden ar gyfer torri canghennau a chael gwared ar goed. Nid yw hyn yn cynnwys Coed sy'n cael eu gwarchod dan Orchymyn Cadwraeth Coed (GCC)

Gweler Beth allaf ei wneud mewn ardal gadwraeth? i wybodaeth eraill.

Dyfarnwyd rhai Ardaloedd Cadwraeth i fod yn arbennig iawn fel eu bod angen rheoliadau pellach, sef Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2). Sef:

  • Y Waun
  • Ffordd y Tylwyth Teg, Wrecsam
  • Holt
  • Parc Salisbury, Wrecsam
  • Stryd Gerald, Ffordd Grosvenor
  • Traphont Ddŵr Pontcysyllte
  • Bangor Is-y-coed
  • Rhiwabon
  • Grenville Terrace, Rhiwabon
  • Owrtyn

Mae hyn yn golygu bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw newid neu ddatblygiad i flaen a thalar blaen tai os ydynt yn wynebu ffordd, llwybr troed cyhoeddus, dyfrffordd neu lwybr ceffyl, fel eu bod yn cael eu gwneud mewn modd sympathetig i gymeriad arbennig yr ardal.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Estyniad ar dy
  • Adeiladu adeilad neu osod wyneb caled ar dalar
  • Newid deunyddiau adeiladu megis fframiau allanol, drysau, ffenestri, cyfarpar dwr glaw, fframiau coed, rendrad ayb
  • Peintio'r ty neu adeilad neu dir caeëdig o fewn talar ty (ond ddim ailbeintio yn yr un lliw)
  • Unrhyw newidiadau eraill i ffenestri a drysau allanol
  • Unrhyw newidiadau i doeau gan gynnwys ffenestri to
  • Codi, newid neu dynnu simnai ar dy neu adeilad yn ei dalar
  • Gosod dysgl lloeren
  • Codi, dymchwel neu newid clwyd, ffens, wal neu unrhyw fodd arall o gau mewn talar

Gweler Asesiadau Ardaloedd Cadwraeth i wybodaeth bellach.

Canllaw ynghylch Cynllun a Deunyddiau

Wrth adeiladu eiddo newydd neu ychwanegu at eich eiddo mewn Ardal Gadwraeth, mae cynllun a deunyddiau yn nodweddion hanfodol i gadw a gwella cymeriad arbennig yr ardal.

Ystyriwch:

  • Lleoliad a chrynswth
  • Math o ddatblygiad- e.e. teras, unigol, unllawr neu aml-lawr
  • Siâp y to a nwyddau dwr glaw
  • Ffenestri, drysau a phyrth
  • Deunyddiau adeiladu
  • Cynllun blaen siop ac arwyddion hysbysebu.

Nid yw cynllun newydd o angenrheidrwydd yn golygu bod rhaid cael union gopi o steil sy'n bodoli eisoes, neu adeilad math safonol, ond steil modern sy'n cymryd ei le yn y stryd neu ardal trwy gyfrannu'n bositif at gymeriad yr Ardal Gadwraeth. Mae'n bosibl bydd gofyn am ddatganiad cynllun fel rhan o'r cais cynllunio.

Ffynonellau Cyllid

Rydym yn gysylltiedig â chynlluniau a all effeithio ar sawl ardal gadwraeth, i sicrhau bod cyllid yn cael ei dargedu i wella eu cymeriad gydag ystod o bartneriaid cyllido, gan gynnwys:

  • twristiaeth,
  • datblygu economaidd,
  • cyrff adfywio,
  • cyrff dyfrffyrdd,
  • tai a
  • chludiant fel rhan o gynllun ehangach a mwy cynhwysfawr.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cynllun Tref Rhiwabon gyda CADW (Cofadeiladau Hanesyddol Cymreig),
  • Blaengaredd Trefi Bychain a Phentrefi'r WDA (STVI) yn y Waun a Dyffryn Ceiriog,
  • Grant Gwella Tref (GGT) yng Nghanol Tref Wrecsam,
  • Leader + yn Maelor (ynghyd â Gresffordd a Merfford) ac
  • Urban II yng Ngorllewin Wrecsam.

Mae'n bosibl bydd cyllid ar gael gan CADW ar gyfer gwella adeiladau heb eu rhestru ac adeiladau rhestredig hyn yn yr Ardal Gadwraeth. Mae hyn yn cyfrannu tuag at atgyweirio ac adnewyddu adeiladau 'pwysig' a chynlluniau gwella yn yr Ardaloedd Cadwraeth.

Gall ffynonellau cyllid eraill fod ar gael gan Fwrdd Croeso Cymru ac ystod o grantiau tai Cyngor megis y

  • Grant Adnewyddu Tai,
  • Grant Cartrefi Uwchben Eiddo Masnachol (HARPS)
  • Grant Landlordiaid.

Gweler Grantiau Ar Gael am wybodaeth bellach.

Atgyweirio Adeiladau Hyn

Mae angen cynnal a chadw pob adeilad yn rheolaidd i rwystro difrod a dadfeiliad. Mae diffyg cynnal a chadw yn creu llawer o anawsterau a cheir pwysau i newid deunyddiau adeiladu i fathau modern megis PVC, sment neu goncrit. Fodd bynnag, fel arfer nid yw deunyddiau fel hyn yn dderbyniol mewn Ardaloedd Cadwraeth, gan nad ydynt fel arfer yn cyd-fynd â'r steil, dyfnder, golwg a'r cymeriad gwreiddiol. Gellir cael mwy o gymorth yn Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol.

Toeau
  • Atgyweirio neu adfer gyda deunyddiau gwreiddiol ar sail tebyg am debyg.
  • Awyriad anweladwy, megis awyriad dan y bondo, nid fent to.
  • Fel arfer tua ugain mlynedd yw bywyd toeau fflat ac nid ydynt yn edrych yn dderbyniol yn aml iawn ar adeiladau hanesyddol, heblaw am adeiladau modernaidd.

Simneiau

  • Adfer os ydynt wedi'u tynnu.
Cwteri
  • Adfer rhai Plwm a Haearn Bwrw.
Rendrad
  • Gan ddefnyddio calch ar eiddo hyn, i alluogi'r adeilad i anadlu.
  • Gall rendrad sment achosi difrod parhaol i garreg, oherwydd ei fod yn rhy galed ac wrth-ddwr i nifer o ddeunyddiau adeiladu hanesyddol. Gall hyn greu lleithder yn y deunyddiau adeiladu gwreiddiol ac o ganlyniad achosi tamprwydd posibl. Gall adeilad sy'n ymddangos fel ei fod â rendrad gwreiddiol olygu bod y brics neu waith carreg wedi'u gorchuddio o'r dechrau.
Pwyntio
  • Ni ddylai wthio allan heibio wyneb y garreg
  • Nid yw pwyntio strap neu rhuban yn dderbyniol, gan ei fod yn tynnu sylw oddi wrth ddeunydd y prif wal.
  • Morterau hanesyddol, fel arfer yn defnyddio calch, i alluogi symudiad naturiol ac anweddiad rhwng cymalau. Mae morter sment yn achosi difrod mawr i garreg, fel arfer oherwydd ei fod yn gryfach, gan achosi i leithder 'ollwng' allan o garreg sy'n achosi asglod a fflawiau.
Ffenestri a Drysau
  • Nid yw staenio na uPVC yn dderbyniol mewn Adeiladau Rhestredig/Ardaloedd Cadwraeth.
  • Mae steil a maint cyfartaledd yn effeithio ar gymeriad a golwg adeilad.
  • Ystyriwch drwch a mowldin bariau ffenestri, maint a threfn cwareli a manylion eraill megis paneli a phedimentau.

Cysylltwch â: Cynllunio Amgylchedd, Adran Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: 01978 292019.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk


Beth allaf ei wneud mewn ardal gadwraeth?

Caniatâd Adeiladau Rhestredig

Cynllunio Amgylchedd

Mynegai Cynllunio

yn ôl i'r brig