Gwrychoedd uchel

Gwrychoedd uchel

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 - Rhan 8

Gall y gwrych cywir fod yn derfyn perffaith i’ch gardd, ac os yw’n cael ei gadw’n dda gallai fod yn nodwedd dirweddol ac ecolegol deniadol a pharhaus mewn ardal drefol. Maent yn diffinio ffiniau eiddo, yn darparu preifatrwydd, cysgod a diogelwch, yn lleihau swn ac yn annog bywyd gwyllt.

Fodd bynnag, gall dewis y gwrych anghywir greu problemau yn y dyfodol. Gall caniatáu i wrych dyfu’n rhy uchel arwain at waith cynnal a chadw anodd a gormod o gysgod i gartrefi cyfagos, gan effeithio ar eu mwynhad rhesymol o’r eiddo.

Crynodeb

  • Daeth y ddeddfwriaeth i rym yng Nghymru ar 31 Rhagfyr 2004.
  • Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i ddau neu mwy o goed bythwyrdd a lled-fythwyrdd yn unig a llwyni sydd dros 2 fetr o uchder o'r ddaear.
  • Mae troi at y Cyngor am gymorth yn cael ei ystyried fel y cam olaf yn y broses ar ôl i bob dull arall o ddatrys y broblem fethu. Nid rôl y Cyngor yw darparu gwasanaeth cyflafareddu.
  • Mae’r Cyngor yn codi tâl o £320 am bob cwyn, gan gynnig gostyngiad o 50% os ydych yn bensiynwr, wedi’ch cofrestru’n anabl neu’n cael un o fudd-daliadau’r wladwriaeth.
  • Gall y naill ochr neu’r llall apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor.

Ymholiadau

Pwyntiau allweddol

  • Nid yw’n berthnasol i bob gwrych, dim ond y rheiny sy’n bodloni’r diffiniad.
  • Dylai achwynyddion droi at y Cyngor pan fetho popeth arall yn unig, gan gynnwys gwasanaeth cyflafareddu.
  • Rydym yn codi tâl (£320).
  • Mae’r gwasanaeth a ddarperir yn archwilio’r gwrych yn erbyn yr ystyriaethau canlynol ac yn gwneud penderfyniad ynghylch p’un a oes angen gwneud gwaith i’r gwrych ai peidio: preifatrwydd, cysgod, sŵn, arogl a mŵg, difrod i blanhigion, brigau gordo, sbwriel, atal golau’r haul rhag dod trwodd, rhwystro golygfeydd, llethol/anghymesur.
  • Gellir apelio yn erbyn y penderfyniad yn yr un modd â phenderfyniadau cynllunio a cheir broses orfodi hefyd.

Os ydych am wneud cwyn:

  1. Dylech siarad gyda Swyddog Coedyddiaeth y Cyngor i weld a yw eich amgylchiadau’n cyfateb i’r ddeddfwriaeth – Ffôn: 01978 292529.
  2. Gofynnwch am becyn gwybodaeth.

Mae hwn yn cynnwys:

  • Ffurflen gwyno
  • Nodiadau am sut i lenwi’r ffurflen
  • Taflen am ddewis y math o wrych cywir
  1. Cyflwyno Cwyn am Wrych Uchel gan ddefnyddio’r ffurflen uchod ynghyd â’r ffi briodol

Beth sy’n digwydd ar ôl hynny?

  • Cwblheir archwiliad o’r safle.
  • Bydd asesiad o effaith y gwrych yn cael ei gwblhau mewn perthynas â’r ystyriaethau a nodwyd gynt.
  • Gwneir penderfyniad ynghylch p’un a oes angen gwneud gwaith i’r gwrych ai peidio. 
  • Pan fo angen gwneud gwaith ar y gwrych, byddwn yn anfon rhybudd atoch sy’n nodi beth sydd angen ei wneud.  Bydd y rhybudd hwn yn edrych ar y broblem bresennol a materion sy’n ymwneud ag aildyfu a gwaith cynnal a chadw.
  • Gellir addasu’r rhybudd mewn amgylchiadau penodol a gall y derbynnydd, yr achwynnydd neu berchennog y tir (os yw’n wahanol) apelio yn ei erbyn.

Y ddeddfwriaeth

Sefydlwyd cwynion am wrychoedd uchel gan Ran 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.

Cwyno

Os ydych am gwyno, cwblhewch y ffurflen isod a darllennwch y canllawiau sy’n dod gyda hi.

Ffurflen gwyno: Gwrychoedd uchel

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Ffurflen gwyno: Gwrychoedd uchel - Fersiwn PDF 66Kb

To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Download the free Acrobat reader from the Adobe website

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Accessible Adobe® Reader.


Canllawiau ar gyfer cwblhau’r ffurflen gwyno: gwrychoedd uchel

Bwriad y canllawiau hyn yw eich helpu i lenwi’r ffurflen i gwyno am wrych uchel yn agos at eich tŷ. Dylech ddarllen y daflen ‘Gwrychoedd Uchel: Cwyno i’r Cyngor’ hefyd.

Bydd oedi o ran ystyried eich cwyn os na fyddwch yn ei chwblhau’n gywir neu os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Os ydych yn dal yn ansicr sut i ateb unrhyw rai o’r cwestiynau, ffoniwch 01978 292529 neu anfonwch e-bost at planning@wrexham.gov.uk.

1. Manylion cyswllt

1.1 Yr unigolyn hwn fydd ein prif gyswllt at gyfer unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r gŵyn. Byddwn yn cyfeirio unrhyw ymholiadau neu ohebiaeth atyn nhw. A fyddech cystal â chadw hyn mewn cof os gwelwch yn dda.

Mae gofyn i ni anfon rhai dogfennau at berchennog a phreswylydd yr eiddo dan sylw yn ôl y gyfraith. Mae’r rhain yn cynnwys ein penderfyniad am y gŵyn.

1.2 Ticiwch y blwch ‘ydw’ os ydych yn ymgynghorydd proffesiynol, perthynas, ffrind neu gynrychiolydd arall.

1.3  Ticiwch y blwch ‘ydw’ os byddai’n well gennych i ni gysylltu â chi dros yr e-bost. Ni allwn anfon dogfennau atoch yn electronig oni bai eich bod yn cytuno i ni wneud hynny.

2. Eiddo sy’n cael ei effeithio gan y gwrych

2.2 Cadwch y disgrifiad yn gryno. Er enghraifft, fflat uwchben siopau; cartref a meddyfga gyfunol. Rhaid i’r eiddo gynnwys annedd neu ni allwn ystyried y gŵyn.

2.3 Mae angen y wybodaeth hon arnom gan y bydd angen i ni gysylltu â’r unigolyn hwn i drefnu i ymweld â’r eiddo sy’n cael ei effeithio gan y gwrych.

2.5 Yr unigolyn sy’n berchen ar rydd-ddaliad yr eiddo yw hwn – nid cwmni rheoli. Dylai’ch cytundeb tenantiaeth neu brydles gynnwys y wybodaeth hon. Os na, gellwch wirio gyda’r Gofrestrfa Tir. Mae’r ffurflen berthnasol (313) ar gael ar y wefan (www.landregistry.gov.uk) neu gellwch ei chael o’ch swyddfa leol. Y gost ar gyfer y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd yw £4 os ydych yn gwybod cyfeiriad post llawn yr eiddo.

Nid oes raid i chi fod yn berchen ar yr eiddo sy’n cael ei effeithio gan wrych uchel i wneud cwyn, ond dylech roi gwybod i berchennog yr eiddo beth ydych yn ei wneud.

3. Lleoliad y gwrych

Mae angen y wybodaeth hon arnom gan y bydd raid i ni gysylltu â’r bobl hyn i gael eu hochr nhw o’r stori a threfnu i ymweld â’r safle lle mae’r gwrych yn tyfu.

3.2 Fel rheol, yr unigolyn yr ydych wedi siarad â nhw i geisio datrys y sefyllfa yw hwn.

3.3 Os oes gennych unrhyw amheuon o ran pwy sy’n berchen ar yr eiddo, gweler y nodyn yng nghwestiwn 2.5 uchod.

4. Y gwrych

Darperwch lun o’r gwrych. Byddai’n gynorthwyol pe bai’r llun yn cynnwys unigolyn yn sefyll yn ymyl y gwrych er mwyn i ni gael syniad o’i faint. Mae angen hyn arnom i sicrhau bod y gwrych yn bodloni’r diffiniad cyfreithiol.

Darperwch gynllun hefyd sy’n dangos lleoliad y gwrych a’r tai cyfagos. Wrth lunio eich cynllun, edrychwch ar yr enghraifft isod a sicrhewch eich bod yn:

  • Enwi’r ffyrdd perthnasol
  • Nodi lleoliad eich tŷ a’r eiddo y mae’r gwrych yn tyfu ynddo.  Dylech rifo neu enwi’r tai.
  • Marcio lle mae’r gwrych yn glir a pha mor bell y mae’n ymestyn

Hyd yn oed os ydych wedi ticio’r holl flychau ‘ydy’ yn yr adran hon, nid yw’n golygu o reidrwydd bod y gwrych yn bodloni’r holl brofion cyfreithiol. Bydd dal angen i ni benderfynu a yw’r gwrych yn rhwystro golau rhag dod trwodd neu’n rhwystro unrhyw un – neu unrhyw beth – sy’n ceisio mynd heibio iddo. Dyna pam bod angen y llun arnom.

5. Sail y gŵyn

Byddai o gymorth i ni petaech yn darparu cymaint o wybodaeth â phosibl gan gadw at y ffeithiau. Canolbwyntiwch ar y gwrych a’r problemau ymarferol y mae’n eu hachosi trwy fod yn rhy uchel.

Ni allwn ystyried problemau nad ydynt yn ymwneud â maint y gwrych. Er enghraifft, os yw’r gwreiddiau’n gwthio llwybr i fyny.

Ni allwn ystyried unrhyw bethau nad ydynt yn ymwneud â’r gwrych dan sylw chwaith.  Er enghraifft, bod pobl eraill yn torri eu gwrychoedd i fod yn llai neu bod poeni am y peth yn eich gwneud yn sâl.

Cynhwyswch gopïau o unrhyw adroddiadau proffesiynol yr ydych wedi’u paratoi.  Os ydych yn cwyno bod y gwrych yn rhwystro golau, marciwch ba ffordd y mae’r gogledd ar eich cynllun (gweler y nodyn yn adran 4 uchod) a darperwch fesuriadau perthnasol (e.e. maint yr ardd, pellter rhwng y gwrych a’r ffenestri sy’n cael eu heffeithio).  Rhaid i bob mesuriad fod mewn metrau (m) a chentimetrau (cm).

6. Cynigion blaenorol i ddatrys y gŵyn

Cadwch eich disgrifiadau’n gryno ond dywedwch sut y gwnaethoch gysylltu (e.e. wyneb yn wyneb, ffôn, llythyr) a beth oedd y canlyniad.

Enghraifft 1
13 Tachwedd 2004 – ffonio i ofyn a allem drafod y gwrych; cyfarfod ar 20 Tachwedd ond yn methu â chytuno ar ateb; 14 Rhagfyr – ymweliad gan gyfryngwyr; cynnal cyfarfod ar y cyd ond yn dal i fethu â chytuno ar ateb a oedd yn plesio pawb; 4 Ionawr 2005 – ysgrifennu i roi gwybod i’r cymydog fy mod am gwyno i’r Cyngor.

Enghraifft 2
13 Tachwedd 2004 – ysgrifennu i ofyn a allem drafod y gwrych; dim ateb pythefnos yn ddiweddarach; 4 Rhagfyr 2004 – ysgrifennu i ofyn a fyddai’n fodlon siarad â chyfryngwr; dim ateb pythefnos yn ddiweddarach; 18 Rhagfyr 2004 - ysgrifennu i roi gwybod i’r cymydog fy mod am gwyno i’r Cyngor.

Nid oes raid i chi anfon copïau o’r holl ohebiaeth gyda’ch cymydog am y gwrych – yn enwedig os yw’r anghydfod wedi bod yn mynd ymlaen ers amser maith. Dim ond tystiolaeth o’ch ymdrechion diweddaraf i ddatrys y sefyllfa sydd ei hangen.

8. Gwirio ac anfon

Sicrhewch eich bod wedi ticio’r holl flychau

Gwnewch eich siec yn daladwy i Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.


Cysylltu â’r Cyngor

Gellwch gysylltu â ni am fwy o gyngor a thaflenni, neu i wneud cwyn ffurfiol:

Ffôn: 01978 292529
Ebost: planning@wrexham.gov.uk

Cysylltiadau i gyngor a chyfarwyddyd

Taflenni gwybodaeth (Cymerwyd o www.communities.gov.uk)

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Cysylltiadau allanol

Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol
Sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am wrychoedd uchel.

Cyfryngu Cymru - www.cyfryngucymru.org.uk
I ddod o hyd i’ch Swyddfa Cyfryngu Cymunedol agosaf

Arolygiaeth Gynllunio Cymru
Gellwch gyflwyno apeliadau i Arolygiaeth Gynllunio Cymru


Bioamrywiaeth

Cynllunio Amgylchedd

yn ôl i'r brig