Bwriad y nodiadau hyn yw egluro’r amrediad a’r wybodaeth sy’n cydfynd â chais Caniatâd Adeilad Rhestredig. Mae angen caniatâd ar gyfer gwaith sy’n mynd y tu hwnt i adnewyddu a chynnal a chadw ac sy’n effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol arbennig neu o ddiddordeb hanesyddol. Gall gwaith o’r fath amrywio o ychwanegu arwyddion i chwalu, neu ddarparu estyniad. Dylid nodi y gall fod angen caniatâd ar gyfer gwaith mewnol hefyd a dylid darparu manylion priodol o’r cynnig.
Bydd angen y wybodaeth sylfaenol ganlynol fel rhan o’r cais fel rheol:-
- datganiad i gyfiawnhau’r cynnig ac i ddangos pam fod newidiadau neu chwalu yn
angenrheidiol neu’n ddewisol;
- bydd angen adroddiad strwythur lle bo’n ymwneud ag addasu neu lle bo gwaith neu
newidiadau o’r math fel bo angen dangos y gall yr adeilad gynnal y newidiadau arfaethedig;
- dyluniadau arolwg o’r sefyllfa bresennol yn cynnwys cynlluniau a drychiadau - yn cael eu
cefnogi gan drawsdoriad(au) lle fo’n briodol e.e. lle bo’n ymwneud ag adeilad sydd â ffrâm bren;
- dyluniadau gyda nodiadau llawn o’r cynnig yn cynnwys cynlluniau a drychiadau - gweler y
rhestr wirio. Bydd angen i’r cynlluniau hyn fod yn fwy manwl na chynlluniau cais cynllunio.
Nid oes ffi cais ar gyfer ceisiadau Caniatâd Adeilad Rhestredig. Bydd darparu 6 set o gynlluniau i ddiben ymgynghori’n sicrhau y caiff eich cais sylw ynghynt.
Gweler Ffurflenni Cais pryd eich copi o ffurflenni cais a thystysgrif perchnogaeth hon ar gael i'w lawr lwytho.
Manylion Masnaschu
- Arwyddion
- Tu blaen siop ar y llawr isaf
- Canopïau
- Caeadau
- Newidiadau mewnol
Rhestr Wirio Manylion
Manylion y Ffenestri
- Math
- Dull agor
- Defnyddiau
- Manylion lintel
- Manylion silffoedd
- Dull gosod gwydr
- Safle/dyfnder yn agoriad y wal
- Gorffeniad amddiffynnol/addurniadol
- Cloriau (mewnol ac allanol)
- Gwaith haearn addurniadol
Manylion y To
- Simneiau
- Cyfluniad y to
- Gorchudd y to, yn cynnwys y grib
- Manylion y bargod
- Soffit
- Ffenestri’r to
- Gwteri dwr glaw
- Gorffeniad addurniadol/amddiffynnol
- Manylion am y pwynt lle mae’r to yn cyfarfod â’r wal (y bondo)
- Awyru
Manylion Cwrtil
- Triniaeth wyneb y tir o gwmpas yr adeilad
- Triniaeth y ffiniau - waliau, ffensys/rheiliau
- Newidiadau i adeiladau eraill o fewn y tir/cwrtil
Manylion y Waliau
- Adeiladwaith y waliau a’r deunyddiau
- Morter/pwyntio
- Llin-gwrs
- Gwaith briciau addurniadol
- Cyntedd/canopi
- Drysau, math a deunydd
- Ffenestri (trefniant y ffenestri)
- Gorffeniad amddiffynnol/addurniadol
Am fanylion neu gyngor pellach cysylltwch â’r Adran Gynllunio yn y cyfeiriad isod:
Prif Swyddog Cynllunio, Adran Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt
y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL.
Ffôn: 01978 292019
Ffacs: 01978 292502
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 71Kb 
Ardaloedd Cadwraeth
Cynllunio Amgylchedd
Nodiadau Canllawiau Cynllunio Lleol
yn ôl i'r brig