Beth Allaf ei Wneud Mewn Ardal Gadwraeth?

Mae ardal gadwraeth yn "ardal o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol arbennig".

Gall awdurdodau cynllunio lleol bennu ardaloedd cadwraeth dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, mae 21 ardal gadwraeth.
Rhaid adnabod cymeriad pob ardal gadwraeth er mwyn gwneud cynnig i'w chadw neu ei gwella ac er mwyn rheoli'r newid yn gadarnhaol.

Mae'n anodd adnabod cymeriad ar adegau ond mae'n deillio o "ymdeimlad ac ansawdd o le" fel arfer. Gall gynnwys adeilad unigol neu grwpiau, eu graddfa a nodweddion pensaernïol, y lle o gwmpas adeiladau, gerddi, waliau ffinio, golygfeydd, tirlun, coed, ffurf y tir, cynllun ffyrdd, lle cyhoeddus, archeoleg a hyd yn oed arogleuon, synau ac awyrgylch.

Beth allaf ei wneud mewn ardal gadwraeth?

Nid yw penodiad yn ardal gadwraeth yn golygu na allwch newid unrhyw beth ond rhaid i chi gadw neu wella cymeriad arbennig yr ardal. Mae hyn yn ychwanegol i reoliadau cynllunio arferol a dylech gael cyngor swyddog cynllunio cyn gwneud cynlluniau i newid neu estyn eich eiddo. Ffoniwch 01978 292017.

Rhaid i chi gael caniatâd cynllunio os bwriadwch:

  • Fwyhau neu wella eich ty fwy na 50m3 neu 10% o'r adeilad gwreiddiol.
  • Gorchuddio unrhyw ran o'r tu allan â meini, meini gwneud, pren, plastig neu deils.
  • Newid y to mewn unrhyw ffordd.
  • Ychwanegu adeilad yn y cwrtil â chynnwys ciwbig o 10m3 neu fwy.
  • Gosod dysglen lloeren ar simnai ar adeilad yn fwy na 15m3 mewn uchder neu ar lethr to sy'n wynebu ffordd (gall ffordd fod yn ffordd, llwybr neu lwybr ceffyl).

Rhaid i chi gael caniatâd ardal gadwraeth os bwriadwch:

  • Ddymchwel unrhyw adeilad â chynnwys ciwbig o 115m3 neu fwy heblaw am garreg fedd sy'n dyddio cyn 1925.
  • Dymchwel unrhyw glwyd, ffens neu ddull amgáu arall sy'n fwy na 1m o uchder ger ffordd, dyfrffordd neu fan agored neu fwy na 2m ger unrhyw fan arall.

Adeiladau Newydd

Caniateir datblygiad newydd mewn rhai achosion, gan gynnwys amnewid adeiladau o ansawdd drwg, os cynlluniwyd hwy'n dda ac os ydynt yn gwella'r ardal.

Mae angen Cais Caniatâd am Waith i Goed os bwriadwch:

  • Wneud gwaith i goed o fewn eich ffiniau (eithrir coed ffrwythau).

Am wybodaeth a chyngor pellach, cysylltwch â'r: Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL. E-bost: planning@wrexham.gov.uk | Ffacs: 01978 292502

Am Ganiatâd Cynllunio ffoniwch: 01978 292017

Am Ganiatâd Ardal Cadwraeth ffoniwch: 01978 292019

Cais am Ganiatâd am Waith i Goed ffoniwch y Swyddog Coedyddiaeth: 01978 292019.

Awst 2003


Am fwy gwobodaeth am Ardaloedd Cadwraeth

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 4 - Ardaloedd Cadwraeth

Caniatâd Adeiladau Rhestredig

Cynllunio Amgylchedd

yn ôl i'r brig