Nod y Côd Ymarfer hwn yw arwain y gweithdrefnau a ddefnyddir gan Gynghorwyr ('Aelodau') a Swyddogion y Cyngor wrth ymdrin â materion cynllunio, a gosod y safonau o onestrwydd ac ymddygiad y gall pobl Wrecsam eu disgwyl ganddynt.
Mae'r system cynllunio gwlad a thref yn cynnwys gwneud penderfyniadau gan y Cyngor ynghylch datblygiad a defnydd o dir er budd y cyhoedd. Mae deddfau cynllunio'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r holl geisiadau cynllunio gael eu penderfynu'n unol â chynllun datblygu mabwysiedig Wrecsam oni bai fod ystyriaethau cynllunio pwysig yn dangos fel arall.
Gan fod cynllunio'n effeithio ar fywydau a buddiannau preifat, gall fod yn ddadleuol iawn. Felly mae'n bwysig fod pobl Wrecsam yn deall y system a bod ganddynt hyder yn ei gonestrwydd a'i heglurder, a bod Aelodau a Swyddogion yn osgoi unrhyw amhriodoldeb neu hyd yn oed amheuaeth o amhriodoldeb. Cadarnheir yr ymagwedd hon gan y Pwyllgor ar gyfer Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Pwyllgor Nolan), yr Arolygwyr Rhanbarthol a Chymdeithas y Llywodraethau Lleol.
Dylai Aelodau a Swyddogion nid yn unig sicrhau bod eu hymddygiad yn unol â Chodau Ymarfer y Cyngor ar gyfer Aelodau a Swyddogion, a gymeradwywyd ym mis Medi 2001 (sy'n cynnwys materion fel datganiadau o gysylltiad, rhoddion a lletygarwch) ond, wrth ymdrin â materion cynllunio, dylent hefyd weithredu'n unol â'r Côd Ymarfer Cynllunio hwn.
Mae'r ddogfen Côd Ymarfer Cynllunio ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurfiau canlynol:
Côd Ymarfer Cynllunio - Fersiwn MS Word 113Kb ![]()
Côd Ymarfer Cynllunio - Fersiwn PDF 155Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.