Mae safle Fflatiau Hightown, Ffordd Melin y Brenin, Wrecsam wedi ei ddymchwel yn ddiweddar. Y bwriad ar gyfer y dyfodol yw ei ailddatblygu, yn rhan o'r Prosiect Tai Fforddiadwy sydd gan y Cyngor ar y cyd â Llywodraeth Cymru.
Mae'r Cyngor wedi paratoi cyfarwyddyd datblygu drafft ar gyfer y safle. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'n fras y gofynion ar gyfer ailddatblygu ac mae'n gobeithio sicrhau amgylchedd o'r radd flaenaf i fyw ynddo ar gyfer y preswylwyr newydd a'r rhai sy'n dod yn ôl.
Bydd y cyfarwyddyd, wedi ei orffen, yn fodd i roi gwybodaeth ar gyfer penderfynu ynghylch unrhyw gais gynllunio yn y dyfodol ar gyfer ailddatblygu'r safle. Os oes gennych sylwadau o gwbl ar y cyfarwyddyd, mae croeso i chi eu hanfon atom yn:
Yr Adran Gynllunio
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR
e-bost: planning_policy@wrexham.gov.uk
by 5.00pm Friday 9th September.
Cyfarwyddyd Datblygu Hightown (Drafft)
Cyfarwyddyd Datblygu Hightown (Drafft) – PDF fformat 1.6Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.