Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam

Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol?

Mae Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam (y ‘CDLl’) yn strategaeth ddatblygu hirdymor ar gyfer defnydd tir sy’n canolbwyntio ar gael datblygiad cynaliadwy. Dan arweiniad yr egwyddorion yn y strategaeth gymunedol leol, bydd yn gwneud y canlynol:

  • llywio datblygiad ar gyfer tai, cyflogaeth, adwerthu a defnyddiau eraill;
  • amlinellu polisïau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio wrth benderfynu a ganiateir datblygu neu beidio;
  • diogelu ardaloedd ar gyfer gwarchod a chyfoethogi’r amgylchedd
  • Mae ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol wedi digwydd rhwng 4ydd Mehefin 2010 ac 16eg Gorffennaf 2010

O’i fabwysiadu, bydd yn disodli’r Cynllun Datblygu Unedol presennol a bydd yn cwmpasu’r cyfnod 2006 – 2021.

Digwyddiadau Diweddar

Mae rhagor o wybodaeth am Gynlluniau Datblygu Lleol i’w chael yn ‘Cynllunio’ch Cymuned, Canllaw i Gynlluniau Datblygu Lleol’, y gallwch ei lawrlwytho yn:

Cynllunio'ch Cymuned, Llyfryn Cyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Cynllunio'ch Cymuned, Llyfryn Cyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol - Fersiwn PDF 3.5Mb

Amserlen Cynllun Datblygu Lleol Diweddaraf

Mae Cynulliad Cymru a'r Arolygiaeth Gynllunio wedi cytuno ar amserlen diwygiedig ar gyfer gweddill y broses CDLl. Nid yw'r amserlen yma yn newid ffurfiol i'r Cytundeb Cyflawni (2009); mae'r dyddiadau a ddangosir yn yr amserlen ar gyfer gweddill y camau unai fel a ddangosir yn yr amserlen diwygiedig (Cyflwyno a Mabwysiadu) neu yn disgyn o fewn y cyfnod llithro o 6 mis fel a ddangosir yn yr Cytundeb Cyflawni (2009). Ar gyngor Cynulliad Cymru mae'n rhaid i ni arddangos y newidiadau ar ein gwefan.

Amserlen Cynllun Datblygu Lleol Diweddaraf - Fersiwn PDF 14Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.


Cyfnodau allweddol ym Mhroses Baratoi’r Cynllun

Cyfnod Proses Dyddiad
Sylfaen Dystiolaeth ac Astudiaethau Cefndir

Gwnaed nifer o astudiaethau i ysbrydoli cynnwys y cynllun. Gyda’i gilydd mae’r rhain yn ffurfio dogfennau ategol y Cynllun Datblygu Lleol.

Cyfredol

Cytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol

Mae Cytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol yn sefydlu amserlen ar gyfer paratoi’r CDLl ynghyd â chynllun cyfranogiad y gymuned sy’n amlinellu polisi’r Cyngor o ran gyda phwy, sut a phryd y bydd yn ymgynghori yn y broses.

Dolen i Gytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol a Ddiwygiwyd Medi 2009 - Fersiwn PDF 4.8Mb

Diwygiwyd Medi 2009

Cysylltu cynnar “Cyflwyno’r Cefndir” (Cyfranogi cyn adneuo)

Cysylltwyd â grwpiau a mudiadau lleol allweddol er mwyn:

  • cael eu barn ar y tueddiadau a phrif faterion;
  • penderfynu pa faterion yw’r pwysicaf;
  • sicrhau bod dyheadau lleol yn cael eu cydnabod; a
  • helpu nodi beth ddylai’r ‘Strategaeth Ddewisol’ fod
Canlyniad y broses hon oedd creu Papur Trafod y Materion a Dewisiadau Allweddol 2006 a ddefnyddiwyd i ysbrydoli Strategaeth Ddewisol y CDLl.

Crynodeb Papur Trafod y Materion a Dewisiadau Allweddol 2006 - Fersiwn PDF 125Kb

Papur Trafod y Materion a Dewisiadau Allweddol 2006 - Fersiwn PDF 6.6Mb

2006 Diweddar

Y Strategaeth Ddewisol (Ymgynghori cyn-adneuo)

Hwn oedd y cyfnod allweddol i gymunedau helpu llunio’r CDLl ac yn y cyfnod hwn oedd prif gyfranogiad y gymuned. Roedd hyn yn cynnwys amrywiol weithgaredd gweithdai cyfranogi a sesiynau galw heibio ar hyd a lled y sir gan gannwys ymgynghori ar:

  • a oedd canolbwynt y cynllun yn gywir;
  • pa ardaloedd ddylai dyfu a pha rai ddylai aros yr un fath;
  • ble i adeiladu tai newydd a chael swyddi newydd;
  • sut all Wrecsam dyfu mewn ffordd gynaliadwy; a’r
  • safleoedd ymgeisiol.

Dolen i’r Strategaeth Ddewisol (2007) - Fersiwn PDF 580Kb

Crynodeb o’r Strategaeth Ddewisol (2007) - Fersiwn PDF 566Kb

Safleoedd Ymgeisydd a Rhesymau

Mae nifer o safleoedd ymgeisydd wedi cael eu gyru i mewn i ni ar gyfer eu potensial i ddatblygu ac er mwyn eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r safleodd yma wedi cael eu asesu ac mae'r rhan fwyaf ohonnynt wedi cael eu gwrthod gan nad ydynt yn cydymffurfio gyda'r Strategaeth Ffafriol o ddatblygu a'r dir sydd wedi cael ei ddatblygu yn flaenorol ofewn y ffiniau datblygu. Er mwyn gweld y safleoedd a chafodd eu rhoi ymlaen a'r rhesymau am gwrthod gwelwch y cysylltiadau isod:

Safleoedd Ymgeisydd a Rhesymau - Fersiwn PDF 622Kb

1. Tref Wrecsam - Fersiwn PDF 6.3Mb

2. Canol Dref Wrecsam & 3. Stad Ddiwydiannol Wrecsam - Fersiwn PDF 3.8Mb

4. Burton/ Gresfordd/ Yr Orsedd/ Llai - Fersiwn PDF 2.6Mb

5. Bradle/ Broughton/ Brymbo/ Bwlchgwyn/ Coedpoeth/ Gwersyllt/ Gwynfryn/ Mwynglawdd/ New Brighton/ Southsea/ Tanyfron - Fersiwn PDF 4.0Mb

6. Acrefair/ Froncysyllte/ Pentre/ Trefor/ Rhiwabon/ Penycae/ Rhosllannerugog/ Tref loan - Fersiwn PDF 3.2Mb

7. y Waun 8. Dolywern, Llwynmawr 9. Pontfadog 10. Llanarmon Dyffryn Ceiriog 11. Tregeiriog 12. Hanmer 13. Garth 14. Glyn Ceiriog 15. Halton 16. Worthenbury 17. Erbistock 18. Bettisfield 19. Bronington 20. y Bers, Rhostyllen 21. Bangor is y Coed 22. Sydallt 23. Trevalyn 24. Talwn Green 25. Holt 26. Marchwiel 27. Llannerch Panna 28. Horseman's Green 29. Cross Lanes 30. Owrty - Fersiwn PDF 3.1Mb

Ymgynghori Statudol rhwng 15 Hydref a 26 Tachwedd 2007

Y Cynllun Datblygu Lleol Adnau

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol wedi ymddangos o’r cyfnodau blaenorol fel y nodwyd uchod. Mae’n cael ei Adneuo am gyfnod statudol o 6 wythnos er mwyn caniatáu ymgynghori’n llawn â’r cyhoedd. Digwyddodd hyn rhwng 4ydd Mehefin 2010 ac 16eg Gorffennaf 2010.

Gall rhai pobl anghytuno â’r safleoedd yn y cynllun adnau neu gallant fod eisiau argymell safleoedd eraill i’w cynnwys yn y cynllun.

I weld y dodfennau adneuo dewiswch y ddolen isod a fydd yn mynd â chi i hafan Gynllun Datblygu Lleol Wrecsam

I archwilio cynrychioladau ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuol os gwelwch yn dda ddefnyddiwch y cyswllt canlynol:
Cynrychioladau ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuol (Mehefin 2010)

Mehefin - Gorffennaf 2010
Ymgynghori ar Safleoedd Eraill i’w Datblygu

Bydd unrhyw safleoedd eraill sy’n cael eu cynnig fel rhan o broses ymgynghorol y Cynllun Adnau yn cael ei hysbysebu am gyfnod statudol o chwe wythnos. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r awgrymiadau eraill a chaniatáu cyfle i wneud sylwadau.

Bydd cofrestr o safleoedd ar gael i’w harchwilio ar-lein ac yn yr Adran Gynllunio yn ystod y cyfnod hwn.

Ionawr - Chwefror 2011
Cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dilyn cyfnodau ymgynghori’r Cynllun Adnau, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn y gall Archwiliad Cyhoeddus Annibynnol ddigwydd.

Medi 2011
Ymgynghoriad Newidiadau Ffowcws

Yn sgil sylwadau a newidiadau a fwriedir a dderbyniwyd fel rhan o ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo a’r ymgynghoriad y Safleoedd Amgen, bwriedir newidiadau i’r Cynllun.  Gelwir y newididadu hyn yn Newidiadau Ffowcws ac meant hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd sydd wedi dod ymlaen ers i’r Cynllun gael ei gyhoeddi mis Mehefin 2010.

Ceir rhestr o'r Newidiadau Ffowcws arfaethiedig isod:

Rhaglen o Gynigion Newidiadau Ffocws a Newidiadau Golygu Lleiaf - Fersiwn PDF 6.0Mb

Ceir Sylwadau ar y Newidiadau Ffowcws yma:

Medi – Hydref 2011
Archwiliad Annibynnol

Bydd Arolygydd Cynllunio (swyddog diduedd a benodir gan yr Arolygiaeth Gynllunio) yn ystyried y Cynllun Adnau, ynghyd â’r holl sylwadau a dderbyniwyd mewn Archwiliad Annibynol. Swyddogaeth yr Arolygydd yw archwilio’r Cynllun Adnau a sicrhau ei fod yn gadarn a theg. Mae gan yr Arolygydd bŵer i wneud newidiadau terfynol i’r Cynllun.

Mae mwy o wybodaeth ar y broses hon ar gael gan yr Arolygiaeth Gynllunio drwy gwefan y 'Planning Portal' (yn anffodus nid ywr wefan yn y Gymraeg).

Chwefror 2012 (yn dibynnu ar yr Arolygiaeth Gynllunio)
Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd Cynllunio Cyn mabwysiadu’r Cynllun, caiff Adroddiad yr Arolygydd ei gyhoeddi a bydd ar gael i bawb ei weld. Mehefin 2012 (yn dibynnu ar yr Arolygiaeth Gynllunio)
Mabwysiadu Bydd y Cyngor yn mabwysiadu’r Cynllun a bydd yn disodli’r Cynllun Datblygu Unedol (CDU). Yna bydd holl geisiadau cynllunio’n cael eu hystyried gyferbyn â’r CDLl. Medi 2012 (yn dibynnu ar yr Arolygiaeth Gynllunio)
Arolygu ac Adolygu Bydd Adroddiad Arolygu Blynyddol (AMR) yn cael ei gyhoeddi, ar ôl mabwysiadu, a bydd y CDLl yn cael ei adolygu ar ôl 4 blynedd. Parhaol ar ôl mabwysiadu

Cyngor Cenedlaethol (cyswllt allanol)

yn ôl i'r brig


I GAEL GWYBOD MWY, COFIWCH GYSYLLTU Â NI:

Ffôn: 01978 292013
Ffacs: 01978 292502
E-bost: planning_policy@wrexham.gov.uk

Yn ysgrifenedig i: Is-adran Polisi Cynllunio, Adran Gynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR

Yn bersonol: Ewch i'r Adran Gynllunio yn y cyfeiriad uchod a gofynnwch am gael siarad ag unrhyw aelod o'r tîm Polisi Cynllunio (oriau agor: 8.45am - 5.15pm o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.45am - 4.45pm ar ddydd Gwener).


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.


Canllawiau Pris Cynlluniau Datblygu

Polisi Cynllunio

Canllawiau Cynllunio Atodol

yn ôl i'r brig