Cynllun Datblygu Lleol Adnau Wrecsam (Mehefin 2010)Mae’r cynllun hwn yn tynnu ynghyd canlyniad y cyfnodau blaenorol, sef y ‘Materion a Dewisiadau’ a’r ‘Strategaeth Ddewisol’. Mae’n cyflwyno gweledigaeth ac amcanion ar gyfer datblygu’r Fwrdeistref Sirol ynghyd ag amrywiaeth o bolisïau manwl fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu ceisiadau cynllunio hyd at 2021. Mae hefyd yn cynnwys mapiau cynigion sy’n dangos lle fydd datblygiad newydd fel cartrefi, cyflogaeth ac adwerthu’n dderbyniol a hefyd yr ardaloedd sy’n cael eu gwarchod rhag datblygiad.
Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol (CDL)?
Mae ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol wedi digwydd rhwng 4ydd Mehefin 2010 ac 16eg Gorffennaf 2010. I weld y cynrychioladau a dderbyniwyd a’r y dodfennau adneuo dewiswch y ddolen isod a fydd yn mynd â chi i hafan Gynllun Datblygu Lleol Wrecsam.
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam