Rydym ni (Cyngor Wrecsam) wedi mabwysiadu Uwchgynllun Canol Tref Wrecsam fel sail tystiolaeth ar gyfer ein Cynllun Datblygu Lleol a fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniad o fewn ardal yr Uwchgynllun. Bydd yn cael ei ddefnyddio i farchnata’r dref, annog buddsoddiad ac arwain ceisiadau cynllunio yn yr ardal Uwchgynllun.

Mae’r uwch gynllun canol y dref yn nodi gweledigaeth ar gyfer canol y dref fel lleoliad deniadol, unigryw gyda mynediad hawdd lle mae pobl eisiau byw, gweithio, dysgu ac ymweld. I gyflawni hyn mae'r strategaeth yn gosod amcanion allweddol yn erbyn pa gynigion datblygu a fydd yn cael eu hystyried a chyfres o gamau gweithredu. Yn ogystal mae’r strategaeth yn nodi’r safleoedd allweddol sydd â chyfleoedd datblygiad yn Stryd y Bont, Bodhyfryd, Queens Square, Henblas Street a Gorsaf Dân Bradley Road (i gyd yn cael eu cefnogi gyda chanllawiau datblygu).