Ers 01 Mehefin 2009, mae cyflwyno Datganiadau Dylunio a Mynediad yn statudol ofynnol wrth gyflwyno ceisiadau am ganiatâd cynllunio ac am ganiatâd adeilad rhestredig (er y bydd yna rai eithriadau) yng Nghymru.
Paratowyd y nodyn gwybodaeth hwn gan Adran Gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i roi cyfarwyddyd i geiswyr / asiantau ar ofynion Datganiadau Dylunio a Mynediad (DAS), ac awgrym o'u cynnwys. Ni ddylid trin yr arweiniad hwn fel diffiniol, ond ei fwriad yw cynorthwyo ceiswyr, asiantau a datblygwyr ystyried materion dylunio a mynediad perthnasol i'w cynigion datblygu. Fodd bynnag, fe all fod materion ychwanegol y dylid eu hystyried wrth ddylunio cynllun a'u trafod wedyn yn y DAS na chynhwyswyd yn y nodyn gwybodaeth hwn.
Datganiadau Dylunio a Mynediad
Datganiadau Dylunio a Mynediad - fersiwn PDF 430Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.