Bioamrywiaeth

Llynnoedd a thiroedd gwlyb

Llynnoedd yn Wrecsam

Coridorau Bywyd Gwyllt

Coetir

Cynefin

Glaswelltir

Rhywogaethau

Uwchdiroedd

Corsydd yr Iseldir

 

Llynnoedd a thiroedd gwlyb

Mae llynnoedd yn cynnal amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid dwr croyw. Mae’r cynefinoedd tiroedd gwlyb cymhleth hyn yn gartref i un rhan o dair o’n planhigion cynhenid a thros 1,200 rhywogaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn megis iâr fach yr haf, gwybedyn mai, rhiain y dwr, llau a malwod.

Yn ystod yr ugeinfed ganrif mae Prydain wedi colli 75% o’i lynnoedd. Arweiniodd ehangu trefi ac ardaloedd diwydiannol, amaethyddiaeth ddwys a dwr wedi’i bibellu i wartheg at sawl llyn dianghenraid, a dirywiad ym mywyd gwyllt llawer ohonynt, gan gynnwys rhywogaethau prin ac mewn perygl.

Fel mae llyn yn datblygu mae ei lystyfiant yn cynyddu gan leihau arwynebedd y dwr agored. Mae silt yn crynhoi ac ymhen amser fe fydd yn sych neu’n goediog. Mae pob cam yn natblygiad llyn yn bwysig gan eu bod yn cynnal gwahanol gymunedau o blanhigion ac anifeiliaid, ond mae angen dwr agored ar amffibiaid.i ddodwy eu hwyau. Mae bron i 50% o lynnoedd y sir wedi’u cysgodi â choed neu wedi datblygu’n goediog. Bydd hyn yn cynyddu, a chollir y llynnoedd oni bai eu bod yn cael eu rheoli neu eu hadfer.

 

Llynnoedd yn Wrecsam

Collwyd 500 o lynnoedd yn gyfan gwbl yn Wrecsam yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Ceir dros 2000 o lynnoedd o hyd, gyda chyfanswm eu harwynebedd yn un cilometr sgwâr. Mae’r rhan fwyaf o’r llynnoedd hyn i’w cael yn iseldiroedd dwyreiniol y sir.

Mae’r dwysedd uchel hwn o lynnoedd yn nodwedd bwysig o’n tirwedd ac yn adnodd biolegol pwysig. Bydd amffibiaid yn symud o lyn i lyn os ceir o leiaf 4 llyn i’r km sgwâr. Yn y de ddwyrain mae nifer eithriadol o lynnoedd. Mae dros 200 ohonynt o werth cadwriaethol uchel gan eu bod yn cynnal rhywogaethau cenedlaethol prin megis y madfall gribog, llygoden y dwr, cegid y dwr a’r alaw lleiaf.

 

Coridorau Bywyd Gwyllt

Cynefinoedd cul hirion yw coridorau bywyd gwyllt, lle gall rhywogaethau fyw a theithio ar eu hyd i ardaloedd bywyd gwyllt eraill. Mae gwrychoedd, lonydd glas, nentydd, afonydd, ymylon caeau a ffyrdd yn goridorau bywyd gwyllt. Maent yn fwyfwy pwysig fel bo cynefinoedd yn cael eu rhannu gan ffyrdd a datblygiadau. Mae’r coridorau hyn yn cysylltu pocedi o fywyd gwyllt gyda’i gilydd ac yn rhannu’r hyn fyddai fel arall yn ardaloedd o borfa a chaeau âr di-dor. Mae’n bwysig nad yw’r pocedi hyn yn cael eu hynysu gan y byddai’n arwain at ostyngiad pellach mewn niferoedd bywyd gwyllt.

Mae afonydd a nentydd yn goridorau pwysig i fywyd gwyllt, yn enwedig pysgod. Mae’r torlannau yn gartref i lygod y dwr, dyfrgwn a’r trochwyr.
Mae niferoedd llygod y dwr wedi gostwng yn gyflym yn ystod y 10 mlynedd diwethaf a dim ond 12% o’u niferoedd sy’n weddill. Mae’r gostyngiad hwn oherwydd ysglyfaethu llygod y dwr gan y minc, er roedd y niferoedd wedi bod yn gostwng yn raddol oherwydd llygru’r dwr a cholli cynefin.

Bu gostyngiad llym yn niferoedd y dyfrgi yn ystod y 1950au/60au a diflannodd o’r rhan helaethaf o iseldir Prydain o ganlyniad i ddefnydd eang o blaladdwyr parhaol. Ond mae’r niferoedd yn cynyddu’n dda, sy’n arwydd o ansawdd dwr gwell. Ond os ydynt am ledaenu i Sir Caer, yna mae’n rhaid iddynt ffynnu ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Golyga hyn bod angen digon o guddfannau a gwalau ger yr afonydd.

Mae llawer o ystlumod yn defnyddio coridorau afonydd fel llwybrau at ardaloedd bwydo. Mae’r ystlum Daubenton, a elwir hefyd yn ystlum y dwr, wedi’i addasu i fwydo uwchben afonydd, lle mae’n defnyddio ei draed neilltuol o fawr i godi trychfilod o wyneb y dwr.

Mae coridorau megis gwrychoedd yn rhoi amddiffynfa rhag ysglyfaethu ac maent yn galluogi adar a mamaliaid bychain i deithio o’r naill gae agored i’r llall. Mae’n bosibl bod gwrychoedd yn weddillion coetir hynafol gyda chymysgedd o goetir a blodau’r ddôl. Mae coed aeddfed yn y gwrych yn cynyddu amrywiaeth y bywyd gwyllt sy’n bresennol. Mae angen rheoli gwrychoedd, ond mae 70% ohonynt wedi dirywio neu angen eu hadfer.

Cydnabyddwyd rhan helaeth o’r Faelor fel tirwedd o’r oesoedd canol sydd o ddiddordeb hanesyddol neilltuol gan Cadw. Mae cred gyffredinol po hynaf y gwrych y mwyaf o rywogaethau a geir ynddo, ond nid oes cofnod cyflawn o niferoedd nac ansawdd gwrychoedd na therfynau eraill o fewn y Fwrdeistref.

 

Coetir

Coetir yw un o gynefinoedd cyfoethocaf bywyd gwyllt. Maent yn darparu cartref i ystlumod, adar, moch daear a mamaliaid eraill. Mae coed derw yn ffynhonnell bwyd ar gyfer tua 500 o drychfilod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Mae’r gwyfynod, lindys a phryfaid cop hyn yn fwyd i anifeiliaid eraill y coetir yn eu tro megis y titw tomos las ac ystlumod.

Mae pobl wedi clirio’r coetiroedd i ddarparu tir ar gyfer porfa a chnydau. Mae’r rhan fwyaf o’r coetir sy’n weddill ar lethrau serth, lle byddai eu clirio’n anodd ac amaethyddiaeth yn anymarferol. Mae’r coetiroedd hynafol hyn wedi bod mewn bodolaeth barhaol ers cyn 1600 ac o bosibl ers Oes yr Iâ ddiwethaf. Felly, mae’r rhywogaethau sy’n gysylltiedig a hwy wedi’u hen sefydlu. Dyma’r coetiroedd biolegol cyfoethocaf yn y wlad.

Amcangyfrifir bod 3% o’r Fwrdeistref Sirol dan goetir llydanddail yn bennaf, sy’n cynnwys planhigfeydd llydanddail ac ardaloedd llai o gonwydd. Dim ond rhan fechan (dan 1%) o hyn sy’n goetir hynafol mewn gwirionedd. Yn y gwanwyn mae llawr y coetiroedd hynafol yn addurn o flodau gwyllt megis clychau’r gog, briallu a chraf y geifr. Yn yr hydref mae coetiroedd yn gartref i sawl math o ffyngau o bob siâp a lliw. Anghofir eu pwysigrwydd o fewn coetir yn aml, ond mae ffyngau yn hanfodol os yw coed marw a deilbridd i’w dychwelyd fel maetholion i’r pridd.

Bygythir coetiroedd gan reolaeth anaddas megis cyflwyno pori a rhywogaethau goresgynnol megis y rhododendron. Ond gall peidio â rheoli’n draddodiadol e.e. prysgoedio, hefyd leihau gwerth coetir ar gyfer bywyd gwyllt. Rheolir Wormswood ger Llai a Choed Tan y Cut, Glyn Ceiriog, er mwyn hyrwyddo coed llydanddail a’r bywyd gwyllt cyfoethog sy’n gysylltiedig â hwy.

 

Cynefin

Cynefin yw casgliad o organebau yn byw gyda’i gilydd. Mae sawl math o gynefin ac mae pob un ohonynt yn unigryw ond gellir eu categoreiddio’n fras e.e coetir a glaswelltir.

 

Glaswelltir

Mae dolydd blodau gwyllt yn bwysig i loÿnnod byw megis y brith perlog, y gwibiwr llwyd a’r gwibiwr brith prin. Mae’r gwibiwr brith i’w gael mewn tri safle yn unig yng ngogledd dwyrain Cymru ac mae un ohonynt yn y Fwrdeistref Sirol. Mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun yn un o’r ardaloedd mwyaf o laswelltir, sy’n gyfoethog o rywogaethau, lle gellir dod o hyd i’r ehedydd a thegeirianau prin.

Mae gan laswelltir, nad yw’n cael ei reoli mor ddwys, niferoedd mawr o lygod a llygod y gwair, sy’n ffynhonnell fwyd pwysig i sawl anifail megis y dylluan wen. Mae’r dylluan wen yn nodweddiadol o ffermdir Cymru, yn enwedig yr iseldiroedd. Cofnodwyd rhai o ddwyseddau uchaf Prydain yng ngorllewin Cymru. Ond mae newidiadau yn nefnydd y tir, a cholli llygod y gwair, hoff ysglyfaeth y dylluan, a cholli safleoedd nythu yn golygu bod niferoedd yr aderyn hwn wedi haneru yn ystod y trigain mlynedd diwethaf.

 

Rhywogaethau

Mae ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae rhai ohonynt yn brin ac mewn perygl. I annog bioamrywiaeth, mae angen diogelu’r rhywogaethau cyffredin yn ogystal â’r rhai prin ac mewn perygl.

Mae niferoedd y fronfraith – aderyn cyffredin mewn coed, gerddi a gwrychoedd, wedi gostwng 70% ar ffermdir Prydain yn ystod yn 30 mlynedd diwethaf (er na fu’r gostyngiad mor amlwg yng Nghymru). Yn yr un modd mae niferoedd y gornchwiglen, oedd unwaith yn gyffredin, wedi gostwng 50% ar ffermdir yr iseldir. Cynhelir ymchwil ar hyn o bryd i fesur pa mor dda maent yn cenhedlu yn y Fwrdeistref Sirol.

Gellir adnabod yr Ehedydd yn rhwydd gyda'i gân uchel a'i drydar clir. Mae'n aderyn y mannau agored ac mae angen glaswelltir, neu rawnfwydydd neu rug arno i wneud ei nyth. Mae eu niferoedd wedi gostwng 50% o ffermdir Prydain, ond yma yng Nghymru bu'n aderyn mwy nodweddiadol o'r uwchdiroedd yn hytrach na'r iseldiroedd.

Mae casglu cofnodion rheolaidd yn hanfodol fel y gellir monitro'r rhywogaethau llai a hyd yn oed mwyaf cyffredin. Mae nifer o rywogaethau mewn perygl fel y pathew a'r chwilen plymio arian leiaf, sy'n bodoli yn ein siroedd cyfagos, ond nad oes neb wedi eu gweld hyd yn hyn yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Uwchdiroedd

Mae gan gopaon bryniau, yr uwchdiroedd, lystyfiant unigryw a nodweddir gan rostir grug sych, a gorgorsydd gwlypach gyda phlu'r gweunydd a mwsogl y gors. Mae Mynydd Rhiwabon a rhan o gadwyn y Berwyn yn uwchdiroedd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, yn ôl eu trefn, o fewn y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn nid yn unig oherwydd eu llystyfiant arbennig ond hefyd oherwydd ymgynulliad adar sy'n cenhedlu, gan gynnwys coch y grug a'r grugiar ddu, y cudyll bach, y dylluan glustiog a'r cornicyll aur.

 

Corsydd yr Iseldir

Oherwydd eu llystyfiant nodweddiadol o gorsydd a'u bywyd gwyllt cysylltiedig, mae corsydd yr iseldir, megis Fenns, Whixall, Llys Bedydd (Bettisfield), Wem a Cadney Mosses, sydd o boptu ffin Cymru/Lloegr ger yr Eglwys Wen, o bwysigrwydd rhyngwladol. Maent ymysg y cyforgorsydd mwyaf deheuol ym Mhrydain a'r trydydd mwyaf. Ffurfir corsydd o'r fath gan fwsogl y gors dros filoedd o flynyddoedd. Achubwyd y safle ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt yn 1990 wedi cynnydd dramatig mewn graddfa echdynnu mawn yn fasnachol a oedd yn bygwth ei ddinistrio. O ganlyniad i'w rheoli fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol mae mwsogl y gors yn ail sefydlu ei hun, mae gwas y neidr yn lledaenu ac adar hirgoes megis y gylfinir yn ffynnu.

Cysylltwch â:

Cynllunio Amgylchedd, Adran Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: 01978 292019.
Ffacs: 01978 292502.
E-bost: planning@wrexham.gov.uk


Parciau Gweledig

Pyllau yn Wrecsam

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Wrecsam

yn ôl i'r brig