Eglwysi Rhestredig

Eglwys Berse Drelincourt, Broughton

Gradd II

Sefydlwyd a chymeradwywyd Yr Eglwys yn 1742 gan Mary Drelincourt, gweddw Deon Armagh, fel capel a oedd yn gysylltiedig ag ysgol elusennol i ferched a leolwyd gerllaw ac a sefydlwyd yn 1719. Estynnwyd yr Eglwys gan fae i'r gorllewin yn 1828 er mwyn gwneud lle i seddi teulu ar gyfer perchenogion tir fel Thomas Hayes o Gatewen Hall, a Thomas Fitzhugh o Blas Power.

Mae'r tu allan wedi ei wneud o rendrad plastr garw dros fric ynghyd â phlinth cerrig a chonglfeini ar ongl. Mae ganddi do llechi, a chwt clychau lwfrog dros y tâl maen gorllewinol. Mae'n enghraifft brin o eglwys 18fed Ganrif sydd wedi cadw ei chymeriad newydd-glasurol syml wrth i ychwanegiadau diweddarach gael eu gwneud. Mae'r adeilad hefyd o ddiddordeb hanesyddol arbennig oherwydd ei chysylltiad ag ysgol Berse Drelincourt i blant amddifad.

Eglwys Genhadol Knolton, Owrtyn >>


Adeiladau Rhestredig Gradd I

Eglwys Blwyf San Silyn

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig