Eglwys Genhadol Knolton, Owrtyn Gradd II
Lleolir Eglwys Genhadol Knolton ar ochr ddeheuol y lôn sy'n arwain at Knolton Bryn 300 m o'r A528. Mae'n eglwys sy'n dyddio o ddiwedd yr 19eg Ganrif a adeiladwyd i wasanaethu cymuned wasgaredig, amaethyddol yn bennaf, i'r de o'r pentref.
Mae'r adeilad cyfan o haearn rhychog wedi ei beintio'n goch, gan gynnwys to talcennog a phlinth o fric. Mae iddo gynllun 3 bae un llawr ac mae ganddo borth talcennog bychan a chwt clychau bychan dros y talcen gogledd-orllewinol. Mae'r adeilad wedi ei amgáu'n rhannol ar yr ochrau de-orllewinol a gogledd-orllewinol gan ffens o ystyllod pren wedi eu peintio.
Fe'i cynhwysir fel enghraifft o eglwys genhadol o fath prin sydd wedi ei gwneud o haearn rhychog, wedi ei chadw'n dda a chanddi lawer o fanylder.
Eglwys y Santes Fair Esclusham, Y Bers >>