Eglwys Sant Hilary, Erbistog Gradd II
Fe'i lleolir ym mhentref ac ardal gadwraeth Erbistock wrth lannau'r afon Dyfrdwy. Cofnodwyd bod eglwys yn agos at neu ar y safle hwn er y 13eg Ganrif ac fe'i cyflwynwyd, yn wreiddiol, i Sant Erbin.
Adeiladwyd yr adeilad presennol yn 1859-61 fel cofeb i Henry Ellis Boates o Rose Hill gan ei wraig. Ar ôl ei marwolaeth hithau, fe'i cwblhawyd gan eu merch Gertrude.
Mae'n Adfywiad Gothig o ran ei harddull ac fe'i haddurnir ag elfennau Seisnig Cynnar. Fe'i hadeiledir o dywodfaen coch ashlar ac mae ganddi do llechi a theils crib coch.
Fe'i rhestrir fel Eglwys 19eg Ganrif gyda thu mewn da a dodrefn modern.
Mae o werth grwp gyda'r Ty Cwch a'r Hen Reithordy.
Eglwys Sant Iago, Rhosddu, Wrecsam >>