Eglwys Sant Iago, Rhosddu, WrecsamGradd II
Adeiladwyd Eglwys Sant Iago yn 1874 gan ddilyn cynlluniau W Turner o Wrecsam. Fe'i hymestynnwyd drwy ychwanegu cangell a phorth deheuol yn 1875, ac fe'i dynodwyd yn eglwys y plwyf yn 1886.
Mae'r tu allan wedi ei wneud o rwbel tywodfaen Cefn patrymog wedi ei arwhau a'i sgwario ynghyd â naddiadau ashlar a tho llechi sydd mewn rhesi dau liw ac iddo grib terracotta.
Fe'i rhestrir fel enghraifft dda o adeilad eglwys ar raddfa fechan a oedd yn nodweddu twf trefol ar ddiwedd y 19eg Ganrif, ac sy'n cadw llawer o'i ffitiadau gwreiddiol neu gynnar.
Eglwys Sant Ioan, Rhosymedre >>