Eglwysi Rhestredig

Eglwys Sant Ioan, Rhosymedre

Gradd II

Mae mynwent yn amgylchynu'r eglwys, sy'n agos at derfyn yr ardal adeiledig yn Rhosymedre. Adeiladwyd yr Eglwys yn 1836-7. Talwyd amdani yn bennaf gan Syr Watkin Williams Wynn o Wynnstay ac fe'i cynlluniwyd gan Edward Welch. Cyfrannodd J C Edwards, perchennog Gweithfeydd Penybont yng Nghefn Mawr ac arloeswr mewn cynhyrchu terracotta, at y gwaith adnewyddu a wnaed yn 1889 ac fe'i coffeir mewn gwaith teils reredos hynod yn yr eglwys.

Cynlluniwyd yr eglwys yn yr arddull Gothig denau a gysylltir yn arferol ag eglwysi a ariannwyd gan Gomisiwn y Senedd. Fe'i gwnaed o rwbel tywodfaen Cefn â phatrwm bras ac wedi ei sgwario. Mae ganddi do llechi ar oleddf isel. Mae'r cwt clychau gorllewinol wedi ei gorbelu â tho trumiog ac agoriadau lwfrog.

Mae'n eglwys gothig sydd wedi ei chadw'n dda, sydd o ddiddordeb arbennig oherwydd ei reredos sydd wedi ei deilio'n ardderchog gan ddefnyddio cynnyrch y diwydiant lleol enwog, gwaith manwl cyfoethog sy'n enghraifft brin o'i fath.

Eglwys Sant Ioan yr Efengylydd, Rhosllannerchrugog >>


Adeiladau Rhestredig Gradd I

Eglwys Blwyf San Silyn

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig