Eglwysi Rhestredig

Eglwys Santes Fair, Y Mwynglawdd

Gradd II

Lleolir yr eglwys rhyw 300m i'r gogledd-orllewin o ganol Y Mwynglawdd ac i'r gogledd o'r isffordd i Gwynfryn. Adeiladwyd yr Eglwys Blwyf Anglicanaidd hon yn 1865-6 gan ddilyn cynlluniau gan Kennedy a Rogers o Fangor a Llundain.

Roedd yr eglwys flaenorol ar y safle hwn yn gapeliaeth ym Mhlwyf Wrecsam a oedd yn dyddio o'r 17eg Ganrif. Yn 1864 daeth y capel yn annigonol ac yn adfeiliedig. Rhoddwyd yr arian ar gyfer adeiladu'r eglwys newydd gan Gwmni Pyllau Plwm y Mwynglawdd.

Mae'r tu allan wedi ei wneud o rwbel cracellog wyneb cerrig o dywodfaen Cefn ynghyd ag addurniadau ashlar, a tho llechi ar oleddf serth a chanddo resi porffor a glas. Fe'i rhestrir fel Eglwys canol Fictoraidd eithaf cywrain a adeiladwyd gan ddilyn cynllun efengylaidd ac mae croes fwaog gytbwys yn sicrhau bod y pulpud yn gymaint o ganolbwynt â phosib.

Eglwys Sant Hilary, Erbistog >>


Adeiladau Rhestredig Gradd I

Eglwys Blwyf San Silyn

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig